Ai dyma'r flwyddyn i Elfyn Evans?
- Cyhoeddwyd

Mae'r tymor ralïo newydd yn dechrau ym Monte Carlo ar ddydd Iau 20 Ionawr, ac yn y brif gystadleuaeth mae'r Cymro Elfyn Evans yn anelu i fod yn bencampwr byd.
Gorffennodd Elfyn yn yr ail safle yn y bencampwriaeth yn 2020 ac yn 2021 - tu ôl i Sébastien Ogier ar y ddau achlysur. Ond gydag Ogier yn hanner ymddeol eleni ac ond yn cymryd rhan mewn rhai o'r rasys mae'n golygu na fydd y Ffrancwr yn gallu ennill ei nawfed tlws.
Felly, beth yw'r newidiadau eleni?
"Y newid mawr eleni yw'r ceir newydd - maen nhw wedi mynd yn hybrid am y tro cyntaf erioed," meddai'r gohebydd ralïo, Emyr Penlan. "Felly mae'r ceir lot trymach oherwydd bod batris ym mhob car, sydd wrth gwrs yn effeithio ar falans y car."

Mae Emyr wedi bod yn ohebydd ralïo ers 1999
"Ond wrth gwrs i gyd-fynd efo'r pwysa ychwanegol mae mwy o bŵer - mae tua 138bhp yn ychwanegol sy'n gwneud cyfanswm o rhyw 500bhp, felly oherwydd y pŵer yma bydd y ceir ddim yn handlo cystal â llynedd.
"Ni wedi gweld Elfyn, Craig Breen a Thierry Neuville i gyd yn crasho'r car yn ymarfer cyn i'r tymor gychwyn. Falle bod e'n beth da bod Elfyn wedi cael cnoc cyn i'r tymor ddechrau - mae e wedi ei wneud nawr."
Y ddau Seb ym Monte Carlo
Mae rali cynta'r tymor eleni yn ne Ffrainc, ble bydd Elfyn yn wynebu dipyn o her gan ddau Ffrancwr.
"Yr unig broblem sydd da fe (Elfyn) yw bod y pencampwr byd wyth gwaith a'r pencampwr byd naw gwaith, Sébastien Ogier a Sébastien Loeb, yn y ras - nhw yw'r ddau sydd efo'r form yn rali Monte Carlo.
"Mae Ogier wedi ymddeol mwy neu lai ac yn sôn am rasio am hanner y tymor eleni. Mae Loeb newydd wneud y Dakar Rally yn Saudi Arabia ac bydd e, fel Ogier, yn gwneud ambell rali eleni - mae e'n ffan mawr o rali Monte Carlo."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Y car gorau?
Un cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yw os ydy Toyota, y car mae Elfyn yn ei yrru, wedi gwneud eu gwaith cartref dros y Gaeaf? Ai Huyndai sydd wedi paratoi orau? Neu ai M-Sport Ford yw'r car i guro?
"Mae lot yn dod lawr i'r gyrwyr wrth gwrs, ond mae'r ceir yn hollbwysig" meddai Emyr. "A bob tro ni'n gweld newid yn y rheolau, Ford fel arfer sy'n dod mas o'r bocs cyflyma ar ddechrau'r tymor ac mae Toyota a Huyndai yna'n dal lan gyda nhw yn ystod y tymor."

Elfyn yn rasio yn Rali'r Ffindir, 3 Hydref, 2021
Y gystadleuaeth
Pwy yw'r bygythiadau i Elfyn? Yn ôl Emyr mae sawl un all gynnig sialens iddo.
"Ott Tänak alle di ddadle yw'r gyrrwr cyflyma, ond mae e wedi cael gymaint o anlwc - mae e'n mynd off y ffordd lot. Mae wedi bod yn bencampwr byd yn y gorffennol a dwi'n credu mai rhwystredigaeth yw pam fod e'n cael damweiniau - mae fel bod e'n trio rhy galed."
Elfyn Evans cyn y tymor newydd
Ond nid Tänak o Estonia yw'r unig fygythiad yn ôl Emyr.
"Thierry (Neuville) ar bapur efallai yw'r un cyflyma, ond fel Tänak mae'n gyrru i Huyndai, ac mae'n dibynnu lot ar y car.
"O fewn tîm Elfyn yn Toyota mae Kalle Rovanperä, gyrrwr 21 oed o'r Ffindir sy'n gwella gyda phob rali. Gellir dadle bod y gyrwyr ifanc mewn gwell safle i addasu i'r ceir newydd na Elfyn, sydd wedi bod mewn math arall o geir drwy gydol ei yrfa. Mae Kalle am fod yn bencampwr byd rwy'n credu, ac mae jest yn fater o pryd fydd hynny."

Elfyn yn y canol, gyda Kalle Rovanpera ar y chwith a Sébastien Ogier ar y dde
"Mae Craig Breen wedi mynd nôl i Ford, ac os mai Ford fydd gan y car gorau fe all e fod yn cystadlu hefyd."
Elfyn yn Bencampwr Byd?
Gyda Elfyn yn gorffen yn ail ddwywaith tu ôl i Ogier dros y ddwy flynedd diwethaf, beth sy'n rhaid i Elfyn wneud yn wahanol eleni i gipio'r bencampwriaeth?
"Dwi ddim yn meddwl bod angen i Elfyn wneud dim yn wahanol eleni i be' mae wedi ei wneud dros y ddau dymor d'wetha - os wneith e hynny bydd e mewn lle da i ennill."
Felly, ydy Emyr yn meddwl mai Elfyn fydd yn ennill y bencampwriaeth?
"Ydw, rwy'n ffyddiog y bydd Elfyn yn ei gwneud e eleni, a blwyddyn nesa' gobeithio. Mae e mewn man da, wedi priodi diwedd blwyddyn d'wetha, teulu iach ifanc gartref, ac mae Toyota wedi edrych ar ei ôl e felly does dim unrhyw broblemau ariannol ganddo fe am weddill ei oes.
"Elfyn yw prif yrrwr Toyota nawr, sy'n golygu bod ganddo ddylanwad mawr ar y penderfyniadau sy'n ymwneud â'r car. Mae e'n gyfforddus ac mae'r pwysau off, a dwi'n credu daeth e i ben â hi eleni."

Hefyd o ddiddordeb: