'Dwi mewn poen parhaol ac wedi cael llond bol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pamela Leonard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pamela Leonard mewn poen parhaol ac yn gorfod cael help llawn amser gan ei theulu

"Dwi wedi cael llond bol. Dwi mewn poen parhaol - yn sgrechian bob nos a chrïo drwy'r dydd."

Mae Pamela Leonard o Gaergybi yn aros am lawdriniaeth ar ei chlun ers bron i bum mlynedd.

"Mae hi wedi cael digon ac wedi colli pob gobaith," medd ei phlant Russell a Nomi.

Daw sylwadau'r teulu o Gaergybi wrth i'r ffigyrau rhestrau aros diweddaraf ddangos cynnydd arall yn y nifer sy'n aros.

'Yn y tywyllwch'

"'Dan ni'n ffonio a ffonio a does dim drws arall y gallwn ni guro arno. Roedd y dyddiad diweddaraf ar gyfer y lawdriniaeth yn niwedd 2021 ond fe gafodd ei chanslo eto.

"Mae Mam wedi cael digon ac yn cael trafferth ymdopi 'efo bywyd o ddydd i ddydd.

"Mae'n anodd i ni hefyd yn gorfod gofalu amdani - a does dim gwybodaeth o gwbl pryd fydd y lawdriniaeth. 'Dan ni yn y tywyllwch," medd Russell.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'r hyn sy'n digwydd i Mam yn ofnadwy,' medd Russell a Nomi Leonard o Gaergybi

"Mae'r sefyllfa hefyd yn gwthio pobl tuag at fynd yn breifat ond dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn gallu fforddio hynny," ychwanegodd.

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod Covid-19 wedi cael "effaith andwyol" ar wasanaethau'r GIG a bod nifer o lawdriniaethau wedi gorfod cael eu gohirio.

Dywedodd bod mwy o alw am wasanaethau yn arwain at "fwy o oedi", ond bod staff yn "gwneud eu gorau" yn ystod y "cyfnod heriol hwn".

"Rydym yn ymwybodol ei bod hi'n gyfnod pryderus i bobl sy'n aros am driniaethau ac yn ymddiheuro'n fawr."

'Aros pedair noson mewn cadair'

Pan oedd angen triniaeth ar John Evans ar gyfer haint croen oedd yn lledaenu'n gyflym ar ei wyneb, dywedwyd wrtho i fynd i'r ysbyty, i adran achosion brys.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Evans angen triniaeth ddwys ond bu'n rhaid iddo dreulio pedair noson mewn cadair yn disgwyl am wely

"Mae wedi digwydd i fi o'r blaen, felly roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi gael triniaeth ddwys a gwrthfiotigau drwy'r wythïen," meddai'r dyn 59 oed o Gaerdydd.

Ond dywedodd ei fod wedi treulio pedair noson mewn cadair yn yr Ysbyty Athrofaol yn aros i wely fod ar gael.

"Fe ges i sioc o weld beth mae staff a chleifion yn gorfod ei wynebu", meddai Mr Evans.

"Dim ond un toiled oedd ar gael a dim bwyd poeth.

"Fe wnaeth y staff waith gwych ac roedden nhw'n gweithio'n galed iawn ac maen nhw mor ofalgar - ond roedden nhw dan bwysau gwirioneddol hefyd."

"Roeddwn i wastad wedi credu bod y gwasanaeth iechyd yno i fi pe bawn i ei angen.

"Yn yr achos hwn roedd e ar gael - ond dim ond jyst a hynny oherwydd y staff a'u proffesiynoldeb."

Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Mr Evans ddyddiau yn aros am wely yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Wrth ymateb yn benodol i achos Mr Evans, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod gwasanaethau dan "bwysau eithriadol am nifer o resymau" yn cynnwys prinder staff a'r coronafeirws.

Ychwanegodd bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu "pwysau sylweddol a pharhaus" sy'n cael effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty.

"Mae'r rhain a heriau eraill yn effeithio ar lif cleifion yn ein safleoedd ac o ganlyniad yn cael effaith ar amseroedd aros ein Huned Frys.

"Yn yr achos hwn, ymddiheurwn yn ddiffuant am yr oedi a'r profiad a gafodd Mr Evans, ac mae ein tîm arbenigol mewn cysylltiad ag ef i ymateb yn uniongyrchol i'r pryderon a godwyd."

'Problemau ers amser'

Mae llif cleifion drwy ysbytai wedi cael sylw cyson yn ystod y pandemig.

Mae diffyg staff mewn adrannau gofal cymdeithasol yn golygu bod tua 1,000 o gleifion ar hyn o bryd yn barod i adael ysbytai Cymru.

Ond gan nad oes gofal ar gael iddynt yn y gymuned does dim modd rhyddhau eu gwelyau i gleifion eraill.

Mae hyn yn effeithio ar y system gyfan, gan olygu fod yn rhaid i gleifion fel Mr Evans aros yn hir am wely.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cleifion eu bod yn cydymdeimlo â staff ysbytai sydd o dan bwysau

Fe ddangosodd ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau bod nifer y bobl sy'n aros am driniaethau wedi'u cynllunio o flaen llaw wedi codi eto - a hynny am y 19eg mis yn olynol.

Roedd 682,273 o bobl yn disgwyl am driniaeth ym mis Tachwedd - cynnydd o dros 2,500 ar y mis blaenorol.

Mae'r targedau yn nodi y dylid gweld 95% o gleifion o fewn pedair awr, ond roedd y ffigwr yna yn 67.6% ym mis Tachwedd y llynedd a 66.5% ym mis Rhagfyr.

Dywed Llywodraeth Cymru bod ton Omicron wedi achosi mwy o drafferthion i'r Gwasanaeth Iechyd.

Gwelyau llawn 'pob gaeaf'

Cyn cyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Er bod Covid wedi gwaethygu'r problemau, roedd y materion hyn yn bodoli ymhell cyn y pandemig.

"Mae angen atebion hirdymor i oresgyn problemau sydd wedi bod gyda ni ers amser."

Mae Sue Hill, o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cytuno.

"Eisoes yng Nghymru roedd gennym restrau aros hwy ar gyfartaledd na lleoedd yn Lloegr," meddai Ms Hill.

"Bob gaeaf rwyf wedi gorfod canslo triniaethau na sy'n gwbl angenrheidiol gan fod gwelyau ar fy ward yn llawn cleifion sydd â heintiau ar y frest - nid Covid, ond ffliw, niwmonia a chlefydau tebyg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Un o'r pethau mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ei ystyried yw cydweithredu ar draws rhanbarthau.

"Mewn mannau lle mae byrddau iechyd wedi gallu sefydlu canolfannau llawfeddygol yn lleol mae llawer o driniaethau wedi gallu digwydd ond mae hynny yn anodd i'w weithredu yng Nghymru," medd Ms Hill.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd eisoes yn cydweithio'n agos er mwyn ceisio cwrdd â'r gofyn a sicrhau bod y cleifion sydd angen gofal fwyaf yn cael eu trin.

"Dros amser bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r rhestr hir o bobl sy'n aros am driniaeth.

"Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ddatblygu gwasanaethau arbenigol ar lefel rhanbarthol tra'n datblygu gwasanaethau cynaliadwy.

"Y llynedd, roedd yna fuddsoddiad rheolaidd o £170m mewn cynlluniau gofal wedi'u cynllunio o flaen llaw.

"Ry'n yn disgwyl i fyrddau iechyd ddatblygu cynlluniau ar sut y gallant drawsnewid y ffordd y caiff eu gwasanaethau eu darparu a gwneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael."