Canoli gwasanaeth fasgwlar y gogledd yn 'gamgymeriad'
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n benderfynol o wneud gwelliannau i'r gwasanaeth fasgwlar ar ôl i ffigyrau ddangos mai yng Ngogledd Cymru mae'r gyfradd waethaf y DU o farwolaethau yn dilyn math penodol o lawdriniaeth.
Fe ddaeth y wybodaeth honno i'r amlwg mewn adroddiad gafodd ei gyflwyno i gyfarfod o'r Bwrdd Iechyd gan Dr Nick Lyons, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.
Dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020 roedd 10.6% o bobl wedi marw ar ôl llawdriniaeth i dynnu coes neu fraich. Hynny yw'r ganran uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Bron i dair blynedd yn ôl yn Ebrill 2019, fe gafodd y gwasanaeth fasgwlar - sy'n ymwneud â chylchrediad y gwaed - ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag israddio'n digwydd yn ysbytai Gwynedd a Maelor.
'Gwell cyn israddio'
Mae Esyllt Calley, gwraig i un claf sydd wedi colli ei ddwy goes, yn hynod feirniadol o'r penderfyniad hwnnw.
Fe gafodd Pete Calley lawdriniaeth yn Lerpwl yn ddiweddar - ond yn ôl ei wraig roedd y gwasanaeth yn well o lawer cyn yr israddio.
"Mae Pete rŵan... heb ddim un goes uwch ben y pen-glin, yn byw mewn cadair olwyn am weddill ei fywyd.
"Mae'r mortality rate y gwaetha' ym Mhrydain... sut fedrith unrhyw un ddeud mai dyna oedd y peth gora ar gyfer fasgwlar yng Ngwynedd, yng Ngogledd Cymru... sut fedran nhw ddeud hynny? Fedran nhw ddim."
'Arwyddion o welliant'
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fodd bynnag yn dweud bod yna rai arwyddion fod y sefyllfa'n gwella, er bydd angen rhagor o waith i fedru bod yn siŵr o hynny.
Fe ddywedodd Dr Nick Lyons: "Mae hyn yn rhywbeth yr ydan ni'n ei gymryd o ddifri calon, ac mae'r Bwrdd yn benderfynol o wneud y gwelliannau angenrheidiol.
"Mae ffigyrau'r Gofrestr Genedlaethol ar wasanaethau fasgwlar yn dangos cyfradd farwolaeth o 10.6% ar gyfer y tair blynedd hyd at 2020. Rydym wedi cynnal astudiaeth fewnol, sy'n cofnodi cyfradd o 3.3% o farwolaethau yn 2020, yn seiliedig ar 91 o achosion.
"Mae hynny'n awgrymu y gallai'r sefyllfa fod yn well na ffigyrau'r gofrestr, er bydd angen cynnal rhagor o waith manwl.
"Rydym yn deall yn llwyr mor anodd y gall colli rhan o'r corff fod i gleifion a'u perthnasau, ac yn gwybod yn iawn mai pobol ydy'r rhain, y tu ôl i'r ystadegau. Bydd cleifion sy'n colli coes yn aml ag anhwylderau eraill, ac nid ar chwarae bach y byddwn yn rhoi llawdriniaeth.
"Er mwyn sicrhau bod y data'n ddibynadwy, rydym yn defnyddio arbenigwyr allanol i'n cefnogi wrth asesu'r canlyniadau, fel y gallwn ddeall y rheini cyn ac ar ôl canoli rhai gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Rydym yn gweithio'n galed i recriwtio pobl i'r gwasanaeth fasgwlar a dod â nifer y staff i'r lefel ofynnol. Fe ddechreuodd ymgynghorydd newydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
"Mae'n bwysig cofio bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi argymell canoli'r gwasanaeth fasgwlar yng Nglan Clwyd gyda changhennau yn Wrecsam a Bangor, ac rydym yn dal i fod yn hyderus mai trwy wneud hynny, gyda chefnogaeth ymgynghorwyr ar alw, y gallwn drin y cleifion orau yn y tymor hir."
'Angen ymchwiliad cyhoeddus'
Er hynny, mae Aelod y Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, nawr yn galw am ymchwiliad cyhoeddus.
"Yn anffodus mae'r data fel 'dach chi 'di glywed heddiw yn y Bwrdd Iechyd yn cadarnhau mai camgymeriad dybryd a gwallus oedd ceisio symud gwasanaethau o Fangor allan o'r ardal ac mae angen gweithredu ar frys.
"Dwi'n credu erbyn hyn bod angen ymchwiliad cyhoeddus i fewn i'r holl saga yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2019