Seiciatrydd wedi'i 'guro'n ddieflig mewn ymosodiad homoffobig'

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Gary Jenkins, oedd yn dad i ddau o blant, mewn ward gofal dwys ar 5 Awst y llynedd

Cafodd seiciatrydd ei "arteithio a'i adael i farw" mewn ymosodiad "homoffobig" mewn parc yng Nghaerdydd, mae llys wedi clywed.

Wrth agor yr achos i'r erlyniad, dywedodd Dafydd Enoch QC fod Dr Gary Jenkins wedi'i "guro'n ddieflig" gan y tri diffynnydd, a oedd yn chwerthin wrth iddyn nhw ymosod arno.

Clywodd y llys eu bod wedi'u hysgogi gan "drachwant, homoffobia a hoffter syml o drais" mewn ymosodiad a barodd am chwarter awr.

Bu farw Dr Jenkins, 54, yn yr ysbyty 16 o ddiwrnodau wedi'r ymosodiad ym Mharc Bute yn oriau mân 20 Gorffennaf y llynedd.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun, fe blediodd y tri diffynnydd yn euog i gyhuddiadau o ddynladdiad a lladrata.

Mae Jason Edwards, 25, Lee Strickland, 36, a merch - a oedd yn 16 oed ar adeg yr ymosodiad - hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Ond fe blediodd y tri'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth mewn gwrandawiad blaenorol.

'Targed hawdd'

Clywodd y llys ddydd Mawrth fod Dr Jenkins wedi bod yn briod a bod ganddo ddwy ferch ond roedd wedi gwahanu oddi wrth ei wraig.

Roedd yn agored ddeurywiol pan symudodd yn ôl i'w ddinas enedigol, Caerdydd, tua chwe mlynedd yn ôl.

Clywodd y rheithgor hefyd ei fod yn arfer mynd i Barc Bute yn yr oriau mân, "yn chwilio am gyswllt rhywiol gyda dynion".

Dywedodd Mr Enoch wrth y rheithgor y byddai yn "darged hawdd" wrth iddo grwydro o amgylch y parc.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr erlyniad bod Dr Jenkins wedi dod ar draws "nodweddion gwaethaf dynol ryw"

Clywodd y llys fod tri diffynnydd wedi gwneud eu ffordd i Barc Bute, i le ger caffi'r Summerhouse, a'u bod yn ymwybodol ei fod yn fan cyfarfod i ddynion hoyw gael rhyw.

Buon nhw'n sgwrsio ag un dyn cyn gadael llonydd iddo.

Dywedodd Mr Enoch wrth y llys bod dyn arall wedi gweld yr ymosodiad ar Dr Gary Jenkins a ddywedodd iddo weld dau ddyn a merch yn gweiddi ar ddyn a'i gicio ar y llawr.

Roedd Mr Williams wedi dweud eu bod yn tynnu ar fag Dr Jenkins ac yn chwerthin gan ddweud, "cymerwch ei fag".

Clywodd y llys fod Mr Williams wedi rhedeg i chwilio am gymorth ond iddo ddychwelyd a bod yr ymosodiad yn parhau a bod Dr Jenkins wedi ei "guro'n ddisynnwyr".

Y ferch 16 oed, meddai'r erlyniad, oedd yn arwain y cyfan.

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Lee Strickland a Jason Edwards yn cyrraedd Llys y Goron Merthyr Tudful ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddydd Llun

Dywedodd Mr Enoch y byddai'r rheithgor yn edrych ar luniau o anafiadau helaeth i Dr Jenkins, gan gynnwys anafiadau i'w benglog, gwaedu ar yr ymennydd a chleisio difrifol.

Byddan nhw'n gweld clipiau amrywiol o deledu cylch cyfyng, meddai, yn dangos y diffynyddion, gan gynnwys Jason Edwards a'r ferch, yn cofleidio wrth iddyn nhw adael gyda'i gilydd ar ôl yr ymosodiad.

Dywedodd Mr Enoch wrth y rheithgor y byddan nhw'n clywed tystiolaeth "iasol" o sain camera cylch cyfyng lle roedd Dr Jenkins i'w glywed yn erfyn ar i'r ymosodiad ddod i ben.

Dywedodd y gallai'r diffynnydd ieuengaf gael ei chlywed yn gweiddi "arian" ar Dr Jenkins ac ar ôl yr ymosodiad dywedodd: "Ie, ro'n i angen hynny."

Clywodd y rheithgor fod Mr Strickland wedi gadael y parc yn dilyn yr ymosodiad ac wedi mynd i garej a defnyddio cerdyn debyd Dr Jenkins i brynu alcohol.

Nid oes modd enwi'r ferch - sydd bellach yn 17 oed - am resymau cyfreithiol.

'Meddyg da' a 'thad ymroddedig'

Cafodd datganiad gan Paul Cantrell, seiciatrydd ymgynghorol a chydweithiwr Dr Gary Jenkins ei ddarllen i'r llys brynhawn Mawrth.

Disgrifiodd Dr Jenkins fel "meddyg da iawn a oedd yn angerddol iawn am ei swydd".

Roedd "rhywbeth hynod o anfygythiol am Gary", meddai, a bod pawb a oedd yn ei gyfarfod yn hoff ohono.

Disgrifiodd Dr Jenkins fel "tad ymroddedig" i'w ddwy ferch.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig