'Newid cynlluniau' Cwrt y Cadno wedi pryderon lleol

  • Cyhoeddwyd
Cwrt y Cadno

Mae llefarydd ar ran cwmni coedwigaeth Tilhill yn honni eu bod nhw wedi newid eu cynlluniau ar gyfer un o bedair fferm sydd wedi cael eu prynu gan gwmni buddsoddiadau o Lundain, ar ôl gwrando ar bryderon pobl leol.

Mae cwmni Foresight, sydd â'i bencadlys yn y Shard yn Llundain, wedi prynu fferm Frongoch yng Nghwrt y Cadno, ynghyd â thair ffarm arall.

Mae bron i 12,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn mynegi pryderon am gynlluniau i blannu coed ar dir amaethyddol cynhyrchiol Fron-goch.

Cafodd cyfarfod ymgynghorol ei gynnal yn neuadd Pumsaint nos Iau, ond bu'n rhaid cyfyngu ar y niferoedd oedd yn bresennol yn sgil cyfyngiadau Covid-19.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iwan Parry, Rheolwr Rhanbarthol Tillhill, bod y cynllun wedi cael ei newid yn sylweddol

Yn dilyn cyfarfod wnaeth bara rhyw awr a hanner, fe gadarnhaodd Iwan Parry, Rheolwr Rhanbarthol Tillhill, bod yna newidiadau arwyddocaol wedi bod i'r cynllun plannu gwreiddiol a gyflwynwyd cyn y Nadolig.

"Da ni wedi gwrando ar beth ddywedodd y gymuned, ac wedi newid y cynllun yn sylweddol ers hynny," meddai.

"Y prif newidiadau yw peidio plannu ar dir amaethyddol ar waelod y dyffryn a chanolbwyntio ar goed ar yr ucheldir.

"Da ni wedi lleihau faint o goed coniffer sydd yn mynd i'r cynllun ac ychwanegu coed caled mewn i'r cynllun, gan gynnwys coed derw."

Roedd y gymuned leol wedi gobeithio cwrdd ag un o gyfarwyddwyr cwmni Foresight yn y cyfarfod, ond yn ôl Iwan Parry, roedd yr unigolyn oedd fod yn bresennol yn sâl gyda Covid-19 a methu bod yn bresennol.

'Tir da yn cael ei golli am byth'

Fe wnaeth hynny siomi Adam Price, yr aelod lleol yn y Senedd.

"Roedd hi'n siomedig nad oedd un o gyfarwyddwyr Foresight yma ac fe fynegwyd cryn dipyn o ddicter gan y gymuned," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ofnau y bydd tir da yn cael ei golli am byth

"Gobeithio bydd y neges yna yn cael ei gario nôl i gyfarwyddwyr Foresight. Nid yn unig o ran yr hyn sydd yn digwydd yma ond y gofid cynyddol ar draws Cymru bod hyn yn batrwm... bod tir amaethyddol da yn cael ei golli am byth.

"Mae yna ddiffyg gwarchodaeth o ran polisi lefel cenedlaethol - dyna un peth fyddwn ni yn codi gyda llywodraeth Cymru," ychwanegodd.

Roedd yr ymgynghorydd amaethyddol, Dai Dyer, yn bresennol yn y cyfarfod.

Fe ddywedodd fod y pryderon am ddefnyddio tir amaethyddol safonol i blannu coed yn parhau ond bod "Fron-goch yn gatalyst, gobeithio, i weddill Cymru".

Pynciau cysylltiedig