'Buddsoddwyr yn targedu tir amaeth Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon bod ffermwyr Cymru yn derbyn galwadau di-gymell ar ran "buddsoddwyr" sydd eisiau prynu tir i blannu coed er mwyn "parhau â'u harferion o lygru".
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru mae yna bryder fod "buddsoddwyr yn targedu tir amaeth Cymru" er mwyn gwneud yn iawn am eu hallyriadau carbon.
Mae BBC Cymru wedi siarad ag un teulu, o Sir Gâr, sy'n dweud eu bod nhw wedi derbyn galwad o'r fath gan gwmni gwerthu eiddo Savills.
Yn ôl Savills, "mae gan fuddsoddwyr rôl bwysig i'w chwarae" wrth gyflawni targedau plannu coed Llywodraeth Cymru.
Ond yn ôl Kyra Somerfield, sy'n ffermio 220 erw ger Llandeilo, yn Sir Gâr, mae ffermwyr Cymru yn cael eu gweld fel "targed hawdd" i gwmnïau mawr.
Mae'r wraig 83 oed, sydd wedi magu plant ac wyron ar y fferm, yn dweud ei bod yn poeni y gallai tirwedd Cymru newid am byth petai tir ffrwythlon yn cael ei droi yn goedwigaeth.
"Os ydyn ni'n mynd lawr y trywydd hwn, o droi ein hucheldiroedd ni'n goed, byddai natur Cymru yn newid am byth," meddai.
"Unwaith mae tir ffrwythlon yn cael ei droi'n goedwigaeth, does dim dod yn ôl."
Yn 2019, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd, a'u targed yw plannu "86 miliwn o goed erbyn diwedd y ddegawd" er mwyn cyrraedd eu targedau torri carbon erbyn 2050.
Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y dylai pobl a busnesau ganolbwyntio ar dorri eu hallyriadau carbon eu hunain yn hytrach na phlannu coed "er mwyn trio gwneud yn iawn am barhau i achosi allyriadau carbon."
'Gallwn wedi derbyn y cynnig'
Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod 75% o'r cynlluniau plannu coed mwyaf yng Nghymru wedi dod o du allan i Gymru.
Mae'n rhaid i unrhyw gynllun i blannu dros 50 hectar o goed yng Nghymru gael asesiad effaith amgylcheddol, ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud mai dim ond 25% o'r cynigion hynny sydd wedi dod gan berchnogion tir wedi eu lleoli yng Nghymru.
Mae'r sefyllfa wedi cynddeiriogi Kyra Somerfield.
"Yr elfen yna o gael eich cymryd yn ganiataol, y gallwn ni fod wedi derbyn y cynnig yna'n rhwydd. Ond dwi ddim yn barod i wneud hynny."
Ond mae hi'n poeni na fyddai pob ffermwr mewn sefyllfa i wrthod y cynnig.
"Mae'n bosib y byddai rhai ffermwyr yn gallu cael gwared ar dir sy'n rhy anodd ei ffermio, oherwydd ar y cyfan mae'r rhai hynny sydd ynghlwm â ffermio tir uchel yn mynd yn hŷn ac yn prinhau, wrth i ofynion amaethu heddiw fynd yn fwy."
Mae Kyra Somerfield yn gobeithio y bydd ei hwyr 16 oed, Lewis, yn parhau i ffermio'r defaid a'r eidion yng Nghruglas yn y dyfodol.
"Byddai'r cwmnïau yma yn mynd â phopeth wnaeth fy nhad-cu a mam-gu weithio tuag ato fe," meddai Lewis, sydd wrthi'n astudio peirianneg amaeth yng Ngholeg Gelli Aur.
"Maen nhw'n barod i dalu mwy na gwerth y tir jyst er mwyn cael y tir, sy'n gadael ffermwyr heb unrhyw opsiwn mewn gwirionedd.
"Mae pawb yn ei chael hi'n anodd ac angen mwy o arian, felly os yw rhywun yn barod i dalu ac yn cynnig rhoi diwedd ar bryderon, byddai'r rhan fwyaf yn gwneud hynny."
Mae cwmni Savills wedi cadarnhau wrth BBC Cymru eu bod nhw yn "cysylltu'n uniongyrchol â pherchnogion tir ar ran buddsoddwyr" gan ddweud eu bod nhw "eisoes wedi asesu'r tir" er mwyn gweld ei fod yn addas at blannu coed.
Yn ôl pennaeth coedwigaeth Savills, mae gan "fuddsoddwyr ran bwysig i'w chwarae wrth gyflawni'r targedau plannu coed" sydd gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r farchnad mewn tir yn fach, a'r tir sy'n dod i'r farchnad agored sy'n addas at blannu tir yn ganran bach iawn o'r tir.
"Er mwyn prysuro potensial y gyfradd plannu coed rydyn ni'n cysylltu'n uniongyrchol â pherchnogion tir allai fod yn addas, yn hytrach nag aros i'r tir gyrraedd y farchnad."
Mae llefarydd amaeth Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor yn dweud ei bod hi'n "gywilyddus bod cwmnïau mawr o'r tu allan yn trio dod mewn i brynu tir amaethyddol da, tir a ddylai fod yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd, i gynnal teuluoedd a ffermydd bach Cymreig".
Ychwanegodd bod safleoedd yn "cael eu prynu fyny gan gwmnïoedd mawr er mwyn iddyn nhw fedru plannu coed er mwyn eu galluogi nhw fel cwmnïau i barhau â'u harferion llygredig nhw yn y meysydd eraill maen nhw'n ymhel â nhw".
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud eu bod nhw'n "cefnogi ymestyn tir coed o fewn tir amaethyddol" ond eu bod nhw'n "pryderu bod buddsoddwyr allanol yn targedu tir amaeth Cymreig yn uniongyrchol er mwyn plannu coed a manteisio, mae'n ymddangos, ar y farchnad garbon".
"Bydd disodli perchnogaeth bresennol ffermydd teuluol yn ddinistriol i'r economi wledig ehangach a'r gymuned, diwylliant Cymreig a diogelwch bwyd," meddai'r Undeb.
"Mae'n rhaid cael cydbwysedd sy'n sicrhau nad yw tirwedd fregus, cymunedau a diwydiannau yn dioddef wrth i gyrff grymus geisio gwneud yn iawn am eu hallyriadau carbon eu hunain, yn lle eu gostwng nhw yn y lle cyntaf."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisiau "creu Cymru sy'n wydn yn erbyn newid hinsawdd" a'u bod wedi sefydlu grŵp i gefnogi ffermwyr fod "wrth galon creu coedwigaeth".
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gweld ffermwyr fel stiwardiaid cefn gwlad Cymru ac yn eu hystyried nhw'n allweddol er mwyn ein helpu ni i wireddu ein huchelgais i gynllunio a chredu coedwig genedlaethol y gallwn ni a chenedlaethau'r dyfodol fanteisio ohono."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021