Clybiau newydd i Ramsey, Moore a Williams
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o garfan Cymru wedi cwblhau trosglwyddiadau cyn i'r ffenestr gau am 23:00 nos Lun.
Bydd Aaron Ramsey'n chwarae yn Uwchgynhrair Yr Alban tan ddiwedd y tymor ar ôl symud o Juventus i Rangers, ar ôl ymuno â'r pencampwyr ar fenthyg.
Ac mae Kieffer Moore yn gadael Caerdydd i ymuno â Bournemouth.
Mewn trosglwyddiad hwyr nos Lun, cadarnhaodd Fulham bod amddiffynnwr Cymru, Neco Williams wedi arwyddo iddyn nhw o Lerpwl ar fenthyg.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn fideo ar gyfrif Twitter Rangers, dywedodd Ramsey: "Fedra'i ddim aros i ddechrau arni."
Fe deithiodd y chwaraewr canol cae 31 oed i'r Alban ar gyfer profion meddygol a'r trafodaethau olaf cyn arwyddo'r cytundeb.
Fe chwaraeodd i Juventus ddiwethaf ym mis Hydref pan ddaeth i'r maes fel eilydd yn ystod gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Gyda gemau tyngedfennol ar y gorwel i Gymru, mae gobaith y bydd y chwaraewr canol cae yn chwarae mwy o bêl-droed yn Glasgow nag yn Turin.
Dywedodd wrth wefan ei glwb newydd, sy'n wynebu'r hen elynion Celtic nos Fercher, bod "nifer o gynigion ar y bwrdd" ond doedd yr un ohonyn nhw'n cymharu â'r "cyfle i chwarae o flaen 50,000 o gefnogwyr bob yn ail wythnos" gyda chlwb fel Rangers.
Dydy Bournemouth heb gadarnhau union maint y cytundeb tair blynedd a hanner gyda Kieffer Moore, ond mae'r BBC ar ddeall ei fod yn werth hyd at £5m.
Dywed Caerdydd bod yr ymosodwr 29 oed wedi gofyn am drosglwyddiad cyn i'r perchennog Vincent Tan gymeradwyo'r cais.
Roedd Bournemouth wedi gwneud ymholiadau ynghylch ei arwyddo ar fenthyg yn gynharach yn y mis, ond roedd Caerdydd ond yn fodlon ystyried cytundeb parhaol.
Dyw Moore heb chwarae ers cael ei anafu wrth chwarae yn erbyn Bournemouth fis yn ôl ond gyda'i glwb newydd yn anelu at ddyrchafiad o'r Bencampwriaeth y tymor hyn, bydd yn gobeithio chwarae ei bêl-droed yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf.
Mae Moore, a symudodd i Gaerdydd o Wigan Athletic am ffi o £2m fis Awst 2020, wedi sgorio bum gwaith i'r Adar Gleision y tymor yma, ac fe sgoriodd 20 o goliau yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Fe fydd Neco Williams yn ymuno ag aelod arall o garfan Cymru yng ngorllewin Llundain, Harry Wilson, sydd wedi bod yn Fulham ers yr haf.
Prin yw'r cyfleoedd wedi bod i Williams gyda Lerpwl hyd yn hyn y tymor hwn, ac fe fydd yn ychwanegiad pwysig i Fulham yn sgil ymadawiad Denis Odoi i Bruges.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019