Ymchwilio wedi i gyrff adar gael eu taflu i ogof

  • Cyhoeddwyd
Dyfi FallsFfynhonnell y llun, LACS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fideo gan LACS yn dangos yr hyn sy'n edrych fel dyn yn taflu cyrff adar dros ffens ac i mewn i'r ceudwll

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddegau o gyrff adar hela gael eu taflu i ogof ger Machynlleth.

Cafodd y digwyddiad ei ddal ar gamera gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon (LACS) ym mis Tachwedd y llynedd ar faes saethu Dyfi Falls yng Nghwm Rhaeadr.

Mae'n dangos yr hyn sy'n edrych fel aelod o staff y maes saethu yn taflu carcasau adar marw dros ffens ac i mewn i'r ceudwll.

Mae LACS yn dweud eu bod wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiad, gan ddweud bod pryderon "y bydd y ffesantod marw a'r petris yn llygru dŵr sy'n llifo i Afon Llyfnant gerllaw, ac o bosib yn achosi risg i fywyd dynol".

Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol nad yw'r unigolyn yn gweithio iddynt bellach.

'Digwyddiad gwarthus'

Dywedodd Chris Luffingham, cyfarwyddwr ymgyrchoedd LACS: "Mae'r ffilm yn dangos aderyn ar ôl aderyn yn cael ei daflu'n ddigywilydd i'r ceudwll, wrth ymyl un o'r ardaloedd mwyaf sensitif a gwarchodedig yng Nghymru oherwydd ei ystod, ansawdd ac amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol.

"Mae'r digwyddiad gwarthus hwn yn dangos diffyg ystyriaeth lwyr gan y diwydiant saethu o'r amgylchedd hwn.

"Mae mwy na 61 miliwn o ffesantod a phetris anfrodorol yn cael eu rhyddhau i gefn gwlad Prydain bob blwyddyn, dim ond iddyn nhw gael eu chwythu'n greulon allan o'r awyr.

"Mae'r ffaith bod yr adar hyn yn cael eu gadael yn dangos nad oes unrhyw reswm arall iddynt gael eu saethu heblaw am yr hyn a elwir yn 'chwaraeon'."

Ymateb cymysg o'r dechrau

Mae maes saethu Dyfi Falls yn cael ei redeg gan Cambrian Birds, a chafodd ei agor ym mis Hydref 2020 i ymateb cymysg yn lleol.

Tra bod cefnogaeth iddo fel busnes newydd a fyddai'n dod â budd i'r economi leol, roedd llawer o bobl hefyd yn gwrthwynebu oherwydd pryderon am effaith degau o filoedd o adar hela ar yr amgylchedd.

Mae'r mannau saethu ger sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a dywed LACS fod y ceudwll lle taflwyd yr adar ger nant sy'n llifo i Afon Llyfnant.

Dywedodd Ann Weedy, rheolwr gweithrediadau CNC ar gyfer y canolbarth: "Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad hwn ac mae ein hymchwiliad i'r mater yn parhau.

"Ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cambrian Birds bod yr holl adar sy'n cael eu saethu yn cael eu prosesu drwy werthwyr trwyddedig, ond bod staff yn cael cadw rhai adar ar gyfer ei hunain.

"Rydyn ni'n deall yn yr achos hwn bod yr unigolyn wedi tynnu'r cig oddi ar yr adar, ac yna taflu'r carcasau i hen siafft.

"Mae hynny'n groes i reolau'r cwmni. Cafodd yr unigolyn dan sylw ei geryddu, ac nid yw'n gweithio i'r cwmni bellach."