Drudwy wedi marw 'o bosib wrth osgoi aderyn ysglyfaethus'
- Cyhoeddwyd
Mae canfyddiadau post mortem cychwynnol Heddlu Gogledd Cymru i achos marwolaeth cannoedd o adar ar ffordd wledig yn Ynys Môn yn cefnogi'r ddamcaniaeth eu bod yn iach cyn taro'r ddaear.
Yn ôl Tîm Troseddau Cefn Gwlad y llu, "mae'n debygol" bod y drudwy wedi newid cyfeiriad yn yr awyr i geisio osgoi rhywbeth, "o bosib aderyn ysglyfaethus" a bod y rhai "yn nhu ôl y grŵp heb godi mewn pryd" i osgoi taro'r lôn ger Bodedern.
Mae cyfres o negeseuon ar gyfrif Twitter y tîm yn datgelu bod archwiliadau ar 35 o'r adar yn dangos bod pob un wedi cael "trawma mewnol difrifol" yn sgil taro'r ddaear.
Ond mae'r llu'n pwysleisio nad oes modd dod i gasgliad terfynol nes bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi cwblhau'r holl brofion tocsicoleg.
Modrwy ar goes
Cafodd 225 o ddrudwy eu canfod yn farw ar y ffordd ar 10 Rhagfyr dros ardal 100 medr o hyd.
Dywed y llu: "Roedd rhai yn dal yn fyw ond yn wan a ddim yn gallu hedfan cyn iddyn nhw farw."
Chafodd yr un aderyn ei ddarganfod naill ochr i'r gwrychoedd ar hyd y ffordd, ond cafwyd hyd i 29 yn y gwrychoedd.
O'r 35 aderyn sydd wedi cael eu harchwilio, roedd un â modrwy ar ei goes chwith.
Roedd y fodrwy honno wedi ei gosod yng nghanolfan Ventes Ragas yn Lithwania - 1662 cilomedr o Ynys Môn - yn 2015, oedd y golygu bod y ddrudwen yn bedair oed.
Dywedodd arweinydd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad, Rob Taylor: "Rydym yn dal yn aros am ganlyniadau tocsicoleg, ond o siarad â llawer o bobl, edrych ar yr anafiadau ac achosion eraill ar draws y byd, mae'n ymddangos bod yr adar, trwy newid cyfeiriad wrth geisio osgoi rhywbeth, wedi hedfan tua'r ddaear cyn codi, ond ddaeth rhai ohonyn nhw ddim drwyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2019