'Esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaeth merch, 4'

  • Cyhoeddwyd
SkylaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Skyla Whiting gyda sepsis o fewn dyddiau o gael ei tharo'n wael gyda phoen yn ei bol

Fe gafodd cyfleoedd eu methu mewn ysbyty i atal merch bedair oed rhag marw o sepsis, yn ôl crwner.

Bu farw Skyla Whiting o Flaenafon, Torfaen ddyddiau ar ôl mynd yn sâl gyda phoenau stumog ym mis Mai 2018.

Yn Llys y Crwner Casnewydd dywedodd Crwner Cynorthwyol Gwent, Sarah Le-Fevre bod esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaeth Skyla.

Wrth gofnodi casgliad naratif, dywedodd y crwner yn yr achos hwn fod "sepsis nid yn unig wedi parhau heb ddiagnosis ond heb ei ystyried".

Bu farw Skyla, meddai, o ganlyniad i "ddiffyg gweithredu, diagnosis hwyr a rhoi triniaeth yn hwyr".

Clywodd y llys fod sepsis yn gyflwr prin mewn plant ond mae triniaeth gynnar, gan gynnwys gwrthfiotigau mewnwythiennol, yn gwella canlyniadau.

Dim ond yn achos Skyla y cafodd sioc septig o ganlyniad i haint ar y llwybr resbiradol is ei ystyried pan welodd uwch feddyg hi ar rownd ward ar 14 Mai, ddiwrnod ar ôl iddi gael ei haildderbyn i Ysbyty Nevill Hall a dyddiau ar ôl gweld meddyg teulu.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond canfuwyd yno ei bod yn bur wael a bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Pedair oed oedd Skyla Whiting pan fu farw ar 15 Mai 2018

Clywodd y llys y dylai uwch feddyg fod wedi cael gwybod yn gynharach am gyflwr Skyla a bod lefelau staffio isel yn yr ysbyty wedi arwain at ddiffyg ymyrraeth yn gynt.

Dywedodd y crwner fod "methiant i adnabod natur a difrifoldeb salwch Skyla".

Ychwanegodd "yn ôl pwysau'r tebygolrwydd y byddai Skyla wedi goroesi gydag ymyrraeth gynharach".

Canfu adroddiadau a ysgrifennwyd gan feddygon ar ôl marwolaeth Skyla y dylai sepsis fod wedi cael diagnosis, ac y byddai Skyla "wedi cael ei achub" pe bai camau wedi'u cymryd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd, dywedodd mam Skyla, Amy Whiting, bod disgwyl am y cwest wedi bod "fel cwmwl mawr du dros ein pennau"

Yn ystod y cwest dywedodd meddygon wrth y llys y dylai gwrthfiotigau mewnwythiennol fod wedi cael eu rhoi yn gynt.

Pe bai hynny wedi digwydd, medden nhw, byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol.

Wrth roi tystiolaeth fore Gwener, dywedodd y Paediatregydd Ymgynghorol Dr Nadeem Syed fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cymryd camau i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd eto.

Dywedodd fod mwy o hyfforddiant i adnabod sepsis mewn plant yn cael ei ddarparu, mae lefelau staffio wedi cael sylw a'u bod wedi gwella ac mae polisi ar ail-fynychu cleifion wedi cael sylw fel bod staff meddygol yn ymchwilio ymhellach.