Cynllun i ailwampio cyfreithiau'r UE yn 'tanseilio datganoli'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwledydd datganoledig wedi beirniadu cynllun gan lywodraeth y DU i ailwampio cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Downing Street y byddai newid y cyfreithiau "hen ffasiwn" yn torri £1bn o fiwrocratiaeth i fusnesau.
Bydd Mesur Rhyddid Brexit, medd y llywodraeth, yn newid sut y gall San Steffan ddiwygio neu ddileu miloedd o reoliadau o gyfnod yr UE sy'n parhau mewn grym.
Dywedodd Boris Johnson y byddai'r symudiad yn "rhyddhau manteision Brexit" ac yn gwneud busnesau Prydain yn fwy cystadleuol.
Ond cafodd y cynllun ei feirniadu gan y gwledydd datganoledig.
Dywedodd ffynhonnell fod gweinidogion Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn credu bod y cynlluniau'n tanseilio'r setliad datganoli.
Ychwanegon nhw fod cyfarfod rhwng y Twrnai Cyffredinol Suella Braverman a gweinidogion datganoledig ddydd Sadwrn yn "funud olaf, yn afreolus, ac yn drwsgl".
'Brysio'r broses'
Dywedodd Mick Antoniw, Gweinidog Cymreig y Cyfansoddiad, nad oedd y llywodraeth wedi rhoi sicrwydd na fyddai'r cynlluniau yn "effeithio ar y setliad datganoli".
Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast fore Llun, dywedodd Mr Antoniw AS ei fod yn pryderu fod Llywodraeth y DU yn "brysio'r broses... heb ymgysylltiad priodol gyda chenhedloedd y DU fel yr addawyd i ni".
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Angus Robertson: "Mae hyn yn gwneud gwawd o ymrwymiad diweddar Llywodraeth y DU i ailsefydlu perthnasau gyda'r llywodraethau datganoledig."
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n "parhau i weithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig".
Copïodd y DU y cyfreithiau er mwyn hwyluso'r broses o adael yr UE ar 31 Ionawr 2020, a'u cadw yn ystod cyfnod pontio a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2021.
Ers mis Medi, mae'r llywodraeth wedi bod yn adolygu pa rai o'r rhain y mae am eu cadw yn eu lle, eu dileu neu eu diwygio.
O dan ddeddfwriaeth ymadael â Brexit a basiwyd yn 2018, mae gan gyfreithiau'r UE a gafodd eu cadw statws cyfreithiol eu hunain - a phroses arbennig ar gyfer eu newid.
Mewn cyhoeddiad i nodi dwy flynedd ers i'r DU adael yr UE, dywedodd Rhif 10 y byddai'r mesur newydd yn sicrhau bod modd gwneud newidiadau'n haws.
Nid yw'r llywodraeth wedi nodi pa gyfreithiau UE y mae'n bwriadu eu newid, ond dywedodd y byddai'n hyrwyddo "dull unigryw" at gyfraith y DU, gyda ffocws ar hyrwyddo technolegau newydd.
Dywedodd Downing Street y byddai'r newidiadau'n adeiladu ar rai eraill ers Brexit - fel symleiddio tollau alcohol a phenderfyniad i gael gwared ar y TAW o 5% ar damponau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021