'Cymaint o botensial' i ddenu ymwelwyr i Sir Gâr dros y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Craig Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Evans yn benderfynol o ddangos bod digonedd o bethau i'w wneud ar arfordir Sir Gaerfyrddin yn ystod misoedd y gaeaf

Dydy rhoi a chael cwtsh cynnes, Cymreig ddim yn rhywbeth mae pobl wedi gallu gwneud rhyw lawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ond wrth i Gymru lacio ei chyfyngiadau unwaith eto ar weithgareddau dan do, mae'r term "cwtsh" yn ganolog i ymgyrch newydd i ddenu ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin dros fisoedd y gaeaf.

Mae'r ymgyrch dwristiaeth 'Darganfod Sir Gâr' wedi'i hysbrydoli gan y term poblogaidd o Ddenmarc "hygge", sydd wedi dod yn gyfystyr â phopeth clyd a chysurus.

'Cwtsh wrth y tân'

"Mae pobl yn meddwl nad oes llawer i'w weld yma yn ystod misoedd y gaeaf," meddai Craig Evans, wrth iddo goginio cregyn bylchog, cocos a llysiau môr lleol ar draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin.

"Ond fel chi'n gallu gweld, fi newydd fod mas nawr ac o fewn dim lot o amser, fi wedi casglu'r pethau hyn a gallaf eu coginio yma ar y tân. Gall pobl ddod yma a chwtsho wrth y tân."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Evans yn cynnal cyrsiau gan ddangos i bobl sut mae dod o hyd i gregyn gleision, cregyn cylchog a chocos

Ar yr arfordir o amgylch Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, mae Mr Evans yn cynnal cyrsiau chwilota gan ddangos i bobl sut i ddod o hyd i ddanteithion cyfoethog, o gregyn gleision i blanhigion.

"Mae gennym ni gregyn bylchog meddal, blasus sy'n blasu ychydig fel calamari. Mae gennym ni hefyd gocos mawr blasus, betys môr o'r clogwyni…. a'r un mwyaf blasus, saffir y graig," eglurodd.

"Mae pobol yn dod yma o bob rhan o'r byd… Hong Kong, China, lot o Sbaenwyr, lot o Loegr."

Dyma'r math o weithgareddau sydd wrth galon ymgyrch "cwtsh" Sir Gaerfyrddin.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, mae'r ymgyrch yn ceisio dod â phobl 'nôl at ei gilydd a chroesawu ymwelwyr newydd

"Mae Cwtsh yn derm adnabyddus, ac mae 'cwtsho lan' yn golygu dod at ein gilydd … ac rydym yn ceisio mynegi hynny yn y croeso sydd gennym yma yn Sir Gaerfyrddin yn ystod tymor y gaeaf," eglura'r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

"Mae'r amser hyn o'r flwyddyn o ran ymwelwyr bach yn llac. Ond ry'n ni'n gweud pam lai na allwch chi ddod hefyd yn ystod y gaeaf a'r gwanwyn i fwynhau.

"Mae e'n fath arall o fwynhau, gallwch chi fwynhau'r bwyd mewn lle cynnes, cysurus, dyna'r cwtsho lan i ni'n meddwl amdano fe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pentywyn yn gartref i un o draethau godidog arfordir y gorllewin - ar unrhyw adeg o'r flwyddyn

Er nad yw'r ffigurau ymwelwyr yn ystod y pandemig ar gael eto, mae ffigyrau 2019 yn dangos bod 3,436 miliwn o ymwelwyr wedi dod i Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn honno, gan gyfrannu £513 miliwn at yr economi leol.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, pobl sy'n barod yn byw yng Nghymru sy'n fwy tebygol o fynd ar deithiau i'r gorllewin - yn enwedig Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

'Cymaint o botensial ar garreg y drws'

"Pan gawson ni ganiatâd i ail-agor, roedden ni'n brysur iawn, oedd yn dda iawn i ni. Llynedd, fe brofon ni'r haf gorau a gawsom erioed," meddai Gavin Oram, prif gogydd a rheolwr cyffredinol Gwesty'r Cawdor, Llandeilo.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rheolwr cyffredinol Gwesty'r Cawdor, Llandeilo, mae gan y sir "cymaint o botensial"

"Rwy'n meddwl, gyda phawb wedi aros yn lleol y llynedd, eu bod hefyd wedi sylweddoli o bosib yr hyn maen nhw wedi bod yn colli mas arno," ychwanegodd.

"Mae cymaint o botensial ar garreg ein drws… does dim rhaid i chi fynd ar awyren a mynd i Sbaen neu rywle."

'Teimlad gwahanol y tro hwn'

Wrth i gyfyngiadau godi'r penwythnos hwn mae Mr Oram yn hyderus am ddyfodol ôl-bandemig busnesau Cymreig.

"Rwy'n teimlo'n bositif iawn, mae 'na deimlad gwahanol y tro hwn. Mae'n teimlo nid yn unig bod cyfyngiadau'n cael eu codi ond, ein bod o bosib yn y sefyllfa hon am y tro olaf… sy'n wych.

"Mae gan gwsmeriaid yr hyder nawr i drefnu priodasau, penblwyddi a phartïon pen-blwydd maen nhw wedi methu. Dw i'n meddwl bod y dyfodol yn ddisglair iawn."