Ymosodiad Bute: Merch wedi'i chyhuddo yn 'ofn am ei bywyd'

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Gary Jenkins, oedd yn dad i ddau o blant, mewn ward gofal dwys ar 5 Awst y llynedd

Dywedodd merch yn ei harddegau sydd wedi'i chyhuddo, ynghyd â dau ddyn arall, o lofruddio seiciatrydd mewn parc yng Nghaerdydd, ei bod hi'n "ofni am ei bywyd" ar noson yr ymosodiad, mae llys wedi clywed.

Cafodd y datganiad ysgrifenedig y ferch i'r heddlu ddiwrnod ar ôl iddi gael ei harestio ym mis Gorffennaf 2021 ei ddarllen i'r rheithgor yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun.

Mae'r achos wedi clywed y bu farw'r Dr Gary Jenkins yn dilyn ymosodiad "homoffobig" ym Mharc Bute.

Mae Lee Strickland, 36, Jason Edwards, 25 a'r ferch 17 oed wedi cyfaddef cyhuddiadau o ddynladdiad a lladrata, ond mae'r tri'n gwadu llofruddiaeth.

Mae'r ferch, na ellir ei henwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, wedi dweud ei bod ar ei phen ei hun yng nghanol Caerdydd ar noson yr ymosodiad, ar ôl gadael ei ffrindiau a mynd i Heol y Frenhines yn y ddinas.

Dywedodd yn y datganiad: "Fe gwrddais ddau ddyn, dywedodd un wrthyf mai ei enw oedd Scouse. Rhoddodd dau gan o seidr i fi.

"Roedd e'n neis i fi ond ddim yn neis i rai o'r bobl eraill. Ro'n i'n gofidio y byddai'n troi arna i."

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud, ar ôl tynnu arian allan o beiriant a phrynu cwrw mewn garej, yr aeth hi gyda'r ddau ddyn i Barc Bute a na welodd hi Dr Gary Jenkins yn dod atyn nhw.

"Welais i un o'r dynion yn taflu dwrn. Welais i fe'n cwympo i'r llawr. Roedd y ddau yn cicio ac yn dyrnu.

"Dywedon nhw 'dere mlaen', er mwyn i fi ymuno.

"Ro'n i wedi dychryn ac yn ofni am fy mywyd. Ro'n i'n meddwl os na fydden i'n gwneud beth roedd e eisiau y byddwn i'n marw.

"Do'n i'n methu credu beth oedd yn mynd 'mlaen. Dwi erioed wedi bod yng nghanol y ddinas yn y nos ar ben fy hun. Dwi erioed wedi profi unrhyw beth fel 'na yn fy mywyd."

Ychwanegodd mai'r unig opsiwn oedd "gwneud beth roedden nhw ei eisiau".

Eglurodd ei bod wedi ymuno yn yr ymosodiad: "Gwnes i ei fwrw unwaith gyda fy nwrn a'i gicio ychydig o weithiau. Doedden nhw ddim yn giciau caled."

I gloi'r datganiad, dywedodd: "Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai Dr Gary Jenkins wedi ei anafu'n ddifrifol. Roeddwn i'n rhy ofnus i alw am help ar ei gyfer. Dwi'n meddwl y byddan nhw'n chwilio amdana' i ac fy anafu i neu fy nheulu.

"Roeddwn i'n ofni y bydden nhw'n ymosod arna' i'n syth petawn i wedi trio dianc."

Yn gynharach, clywodd y rheithgor bod swyddogion fforensig wedi dod o hyd i fag brown pan gyrhaeddon nhw'r man lle ddigwyddodd yr ymosodiad. Roedd pocedi'r bag ar agor gyda meddyginiaeth a llythyr meddygol oedd yn eiddo i Dr Jenkins ar y llawr.

Cafodd profion ar dri chan o alcohol a gafodd eu gadael yn yr un man eu cysylltu â'r tri diffynnydd.

Daeth profion o hyd i DNA o waed Lee Strickland ar jîns Dr Gary Jenkins ac olion DNA o waed Dr Jenkins ar bâr o esgidiau Fila a gafodd eu canfod yn nhŷ Jason Edwards.

Mae achos yr erlyniad wedi ei gwblhau erbyn hyn a'r rheithgor wedi cael gwybod na fydd y ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo yn rhoi tystiolaeth.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig