£120,000 i ddiogelu gwaith Banksy ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Banksy Port TalbotFfynhonnell y llun, Scott Bamsey
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y darn celf ymddangos ar garej ym mis Rhagfyr 2018

Fe wariodd Llywodraeth Cymru dros £120,000 yn diogelu a symud gwaith celf gan yr artist Banksy wedi iddo ymddangos ar wal adeilad ym Mhort Talbot yn 2018.

Roedd yr arian yn cynnwys grant o £53,106 i symud y darn o gefn garej yn y dref i adeilad Tŷ'r Orsaf er mwyn ei arddangos.

Mewn ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth diweddar, dolen allanol, dywedodd y llywodraeth fod £69,993.95 wedi ei wario hefyd er mwyn talu am swyddog diogelwch llawn amser rhwng 11 Ionawr a 3 Mehefin y llynedd.

Roedd hyn yn cynnwys costau'r cwmni diogelwch, ynghŷd â thalu am uned les a thoiled.

Cyfanswm y gost o ddiogelu ac ail-leoli'r darn o gelf oedd £123,099.95.

Ychwanegodd y llywodraeth nad oedd unrhyw gostau llawn amser presenol yn bodoli.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd craen ei ddefnyddio er mwyn symud yn wal yn ddiogel ac mewn un darn

Cafodd y darn o gelf o'r enw 'Season's Greetings' ei werthu am swm chwe ffigwr yn Ionawr 2019, wedi i gannoedd o bobl heidio i'r dref i'w weld.

Roedd y gwaith graffiti yn dangos plentyn yn mwynhau chwarae yn yr eira gyda'i sled ar un ochr, a thân yn creu cwmwl o ludw ar yr ochr arall i'r garej.

Cafodd y gwaith ei arddangos ym Mhort Talbot am dri diwrnod ym mis Rhagfyr.

Mae Banksy wedi creu sawl delwedd mewn mannau cyhoeddus ar draws y byd, ac mae ei waith yn aml yn cynnwys neges wleidyddol neu gymdeithasol sy'n berthnasol i'r ardal.