Dyn wedi ceisio dinistrio Banksy a'i atal rhag gadael Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael dirwy am geisio dinistrio gwaith celf enwog Banksy er mwyn ei atal rhag gadael Cymru.
Ceisiodd Michael Thomas, 42, dorri ei ffordd i mewn i adeilad i chwistrellu'r gwaith celf gwerth £500,000 gyda phaent gwyn.
Ond galwodd cymdogion yr heddlu ar ôl ei glywed yn torri ffenestr am 05:30. Ni chafodd y gwaith celf ei ddifrodi.
Dywedodd Thomas ei fod yn ddig bod y celfwaith - a ddaeth i'r amlwg ym Mhort Talbot yn 2018 - wedi'i werthu i gasglwr yn Llundain.
Cafodd Thomas, o Bort Talbot, ddedfryd o garchar o 14 mis wedi'i ohirio am ddwy flynedd ar ôl cyfaddef i ddifrod troseddol a cheisio byrgleriaeth.
'Gan ryw ddyn cyfoethog'
Dywedodd yr erlynydd Sian Cotter: "Clywodd tystion ef yn dweud: 'Dyma'r unig beth ym Mhort Talbot ac maen nhw'n ei gymryd i ffwrdd'.
"Roedd Thomas yn bwriadu dinistrio'r paentiad fel na allai neb arall ei gael.
"Clywodd cwpl a'u plentyn pum mlwydd oed y diffynnydd yn gweiddi: 'Maen nhw'n ei gymryd i ffwrdd, mae gan ryw ddyn cyfoethog.'"
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y paentiad o fachgen yn mwynhau eira wrth ymyl sled yn cael ei brisio ar £500,000.
Cododd Cyngor Port Talbot strwythur dros dro o amgylch y Banksy ar ôl iddo ymddangos ar ochr garej yn ardal Taibach dros dair blynedd yn ôl.
Dywedodd Ms Cotter: "Galwodd Thomas yr heddlu i ddweud ei fod wedi cyflawni'r difrod mewn dicter oherwydd nad oedd am i'r paentiad adael Port Talbot.
"Dywedodd fod y gwaith yn cael ei symud i Loegr ac fe wnaeth hynny ei ddigio ac felly penderfynodd ei ddinistrio."
Dywedodd Jonathan Tarrant, ar ran yr amddiffyn, ei fod yn fwy o brotest na gweithred o fwriad troseddol a'i bod yn annhebygol y byddai Thomas yn aildroseddu.
Bwriad Banksy
Dywedodd y Barnwr Geraint Walters wrtho: "Roedd bwriad i symud gwaith celf Banksy allan o Bort Talbot i ardal Llundain a gwnaeth hynny eich gwylltio.
"Efallai'n wir nad oedd hi'n fwriad gan Banksy y dylai'r paentiad fyth adael Port Talbot."
Ychwanegodd: "Y realiti masnachol yw ei fod yn waith celf o werth mawr ac erbyn hyn mae mewn perchnogaeth breifat."
Gorchmynnwyd i Thomas dalu iawndal o £1,058 a bydd yn rhaid iddo wisgo tag electronig am 12 wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018