Dyn, 71, yn euog o lofruddio ei wraig, 74, yn ei gwely

  • Cyhoeddwyd
David MaggsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae cyn-gyfrifydd 71 oed a drywanodd ei wraig i farwolaeth wrth iddi orwedd yn y gwely wedi ei gael yn euog o'i llofruddiaeth.

Cafwyd hyd i gorff Linda Maggs, 74, mewn eiddo ym mhentref Sebastopol, ger Pont-y-Pŵl ym mis Chwefror y llynedd.

Roedd David Maggs wedi cyfaddef dynladdiad ei wraig ar sail nad oedd yn ei iawn bwyll, ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd Maggs wrth yr heddlu iddo fynd i mewn i ystafell wely ei wraig i siarad â hi am eu hysgariad.

Roedd wedi mynd â dwy gyllell gegin fawr i fyny'r grisiau gydag ef.

Dywedodd Maggs nad oedd yn gallu cofio beth ddigwyddodd nesaf. Cafodd y fam-gu 74 oed ei thrywanu 15 o weithiau.

'Fi newydd ladd y wraig'

Yn ddiweddarach fe ffoniodd 999 gan ddweud wrth un o'r rhai oedd yn delio â galwadau'r heddlu: "Fi newydd ladd y wraig."

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y cwpl ynghanol ysgariad a bod y ddau wedi gwrthod gadael cartref y teulu yn Sebastopol.

Roedd anghytuno am arian yn golygu bod tensiwn rhwng y ddau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dioddefodd Linda Maggs o leiaf 15 o anafiadau trywanu i'w gwddf, ei brest a'i dwylo

Yn y misoedd cyn marwolaeth Mrs Maggs, dywedodd ei gŵr wrth dri o wahanol bobl ei fod am ei lladd. Roedd un o'r tri mor bryderus fel y dywedodd wrth yr heddlu.

Aeth swyddogion i'r tŷ a siarad â'r cwpl ar wahân.

Roedd yr amddiffyn yn honni fod Maggs wedi dioddef o salwch tymor hir, gan gynnwys iselder.

Ond ar ôl trafod am ychydig llai na naw awr, fe'i cafwyd yn euog gan y rheithgor.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.

Pynciau cysylltiedig