Teyrnged i 'fam a merch annwyl', 27, wedi gwrthdrawiad ger Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Sophie EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu drwy Heddlu Dyfed Powys

Mae teulu wedi talu teyrnged i fam 27 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A484 rhwng Aberteifi a Llechryd ddydd Sadwrn 29 Ionawr.

Dywedodd teulu Sophie Evans, o Gilgerran, y bydd eu "merch brydferth" yn cael ei "cholli'n enfawr".

"Roedd Sophie yn fam ffyddlon i'w mab hyfryd, yn ferch annwyl, yn chwaer a modryb a oedd yn cael ei charu gymaint a bydd ei cholled yn enfawr i bawb.

Ychwanegodd y teulu bod gan Sophie "gymeriad arbennig oedd yn goleuo pob ystafell" a'i bod yn "ysbrydoliaeth i gymaint o bobl".

Mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Sophie Evans yn parhau.

Mae dyn 23 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau â'r ymholiadau.

Pynciau cysylltiedig