500 o swyddi y Weinyddiaeth Gyfiawnder i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Llun stoc o ffigwr cyfiawnder ar ben yr Old Bailey yng nghanol LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd tua 500 o swyddi yn cael eu creu yng Nghymru gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bydd y rolau ym maes cyllid, adnoddau dynol a digidol yn mynd i Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ynghyd â rhai eraill i ogledd Cymru.

Mae'n rhan o gynllun Llywodraeth y DU i symud mwy na 2,000 o rolau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder allan o Lundain a de-ddwyrain Lloegr erbyn 2030.

Pan fydd rhywun yn gadael ei rôl o'r rhan honno o'r DU, bydd y swydd wag yn cael ei llenwi mewn mannau eraill, megis Cymru.

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder swyddfeydd yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd eisoes, a deallir y gallai ardal Wrecsam hefyd elwa o'r swyddi newydd.

Bydd canolfan gydweithio newydd hefyd yn agor yng Nghaerdydd i dimau gyfarfod neu fynychu hyfforddiant, ac i weithwyr sy'n gweithio adref ei defnyddio pan fydd angen iddynt fod yn y swyddfa.

'Mwy cyfartal'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab: "Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i ledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal ar draws cymunedau a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.

"Drwy gael mwy o'n staff wedi'u lleoli y tu allan i Lundain gallwn recriwtio'r bobl orau ble bynnag maen nhw'n byw fel bod y system gyfiawnder yn elwa o gefndiroedd, rhagolygon a phrofiad mwy amrywiol."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart: "Rydym am wneud defnydd llawn o dalent a photensial gweithlu Cymru a bydd symud cannoedd o rolau i Gymru yn ein helpu i gyflawni'r amcan hwnnw."