Y cyflwynydd Gabby Logan yn galw am brofion ar y galon

  • Cyhoeddwyd
Terry Yorath gyda'r teulu ym mis Mawrth 1978 gyda'i wraig Christine Yorath, eu merched Gabby (4) a Louise (3) a'u mab Daniel (1)Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gabby fod ei theulu yn uned glos a thynn pan oedd hi'n tyfu i fyny

Yr effaith "drychinebus" a gafodd colli ei brawd bach ar ei theulu yw'r rheswm pam fod Gabby Logan eisiau gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau nad yw'n digwydd i unrhyw un arall.

Roedd Daniel Yorath yn cicio pêl gyda'i dad Terry, cyn bêl-droediwr Cymru a Leeds, yn eu gardd gefn yn Leeds pan gwympodd a bu farw.

Doedd neb yn gwybod pam fod ei galon wedi dod i stop yn sydyn, ychydig ar ôl iddo ef ei hun arwyddo i Leeds ac wythnosau cyn ei ben-blwydd yn 16 oed.

"Roedd mor ffit, mor gryf, byth yn sâl ... doedd dim arwyddion o gwbl," cofiodd Gabby, wnaeth gystadlu mewn gymnasteg cyn ei gyrfa fel darlledwr.

"Allwn i ddim cael fy mhen o gwmpas y syniad bod ei galon wedi ei fethu."

Ffynhonnell y llun, Christine Yorath
Disgrifiad o’r llun,

Gabby Logan gyda'i brawd Daniel a'i chwaer Louise

Datgelodd archwiliad post-mortem fod gan Daniel afiechyd o'r enw cardiomyopathi hypertroffig, lle mae cyhyr y galon yn datblygu'n drwch anghyffredin, gan ei gwneud yn anoddach i'r galon bwmpio gwaed.

"Doeddwn i ddim yn gwybod y gallai pobl ifanc farw fel yna," meddai Gabby wrth y BBC.

Nid yw bywyd i'r teulu oll wedi bod yr un fath ers hynny.

Gwahanodd ei rhieni a nawr, 30 mlynedd ar ôl marwolaeth Daniel yn 1992, mae Gabby yn cyfaddef ei bod yn dal i gael ei llethu gan atgofion poenus.

Dyna pam mae Gabby'n cefnogi sgrinio calon ar gyfer athletwyr ifanc sy'n chwarae'n rheolaidd ar lefel uchel, mewn ymgais i leihau'r risg.

Ffynhonnell y llun, Christine Yorath
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gabby yn 19, Louise yn 18 a Jordan yn chwech oed pan fu farw eu brawd Daniel yn 15 oed

"Byddai'n helpu teuluoedd i beidio â gorfod mynd trwy'r hyn rydyn ni wedi mynd drwyddo," meddai Gabby.

Yn y 1990au cynnar, nid oedd sganiau'n cael eu rhoi fel mater o drefn i ddarpar chwaraewyr fel ei brawd ac felly ni chafodd ei gyflwr ei ganfod.

"Roedd cymaint ganddo i edych ymlaen ato yn ei fywyd," meddai Gabby.

"Roedd ar fin chwarae i Leeds United oedd wedi ennill yr hen Adran Gyntaf y flwyddyn flaenorol. Nhw oedd y tîm gorau yn y wlad. Roedd fel bachgen ifanc nawr yn chwarae i Manchester City neu Lerpwl.

"Felly bu chwerwder a dicter a 'pam na wyddom hyn? Sut allwn ni sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto i unrhyw un arall?'

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Terry Yorath yn gapten tîm pêl-droed Cymru yn y 1970au pan gafodd ei fab Daniel ei eni

Bob wythnos yn y DU, mae 12 o bobl o dan 35 oed yn marw yn dilyn ataliad sydyn ar y galon, yn ôl ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon.

Cardiomyopathi hypertroffig yw'r mwyaf cyffredin o'r rhain - y rhan fwyaf ohonynt yn gyflyrau etifeddol ar y galon - ac nid oes gan lawer ohonynt unrhyw symptomau blaenorol a gallai llawer fod wedi'u canfod gyda sgrinio'r galon.

"Roedd Daniel yn 15 ac yn chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda fy nhad ac fe gwympodd," cofiodd Gabby.

"Roedd fy nhad yn meddwl ei fod yn smalio, ond bu farw yn y fan a'r lle - ac nid oedd unrhyw awgrymiadau blaenorol o broblemau iechyd.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Terry Yorath oedd rheolwr tîm pêl-droed Cymru ar yr adeg y bu farw ei fab Daniel

"Doedden nhw ddim yn gallu ei achub oherwydd bod ei galon wedi stopio a daeth i'r amlwg fod ganddo cardiomyopathi hypertroffig, sy'n cael ei alw yn aml yn syndrom marwolaeth sydyn.

"Dyma'r 90au cynnar a doedd fawr o wybodaeth am iechyd y galon ymhlith yr ifanc.

"Dylai hynny fod yn rhan o adolygiad cyffredinol i edrych ar iechyd person ifanc. Yn anffodus i Daniel bryd hynny, ni ddigwyddodd hynny."

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Terry Yorath a Daniel wrth eu bodd yn chwarae yn yr ardd - dyma nhw yn yr eira yn 1979

Yn ddiweddarach ymgyrchodd ei thad Terry - cyn-chwaraewr canol cae Leeds a rheolwr pêl-droed Cymru adeg marwolaeth Daniel - a'i mam Christine i godi ymwybyddiaeth a chodi arian at elusennau calon plant.

Ond cafodd colli Daniel "effaith aruthrol" ar y teulu, a Gabby oedd yr hynaf o'r pedwar plentyn. Roedd hi'n 19 oed adeg marwolaeth Daniel ac ar flwyddyn saib yn Llundain cyn mynd i'r brifysgol pan gafodd yr alwad ffôn gan ei mam - a dychwelodd Gabby adref i Leeds yn syth bin.

"Roedd peidio â bod yno ar y diwrnod i ddechrau yn anodd iawn, oherwydd wedyn rydych chi'n dechrau meddwl am y cyfan," meddai.

Ffynhonnell y llun, Christine Yorath
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gabby, Daniel a Louise wrth eu bodd yn mynd ar wyliau gyda'u rhieni

"A ddylwn i fod wedi treulio mwy o amser gartref yn ystod y misoedd blaenorol?

"Ond roedden ni i gyd yn ifanc ac roedd gennym ni ein bywydau, doedden ni ddim yn meddwl mai dyna fyddai'r tro olaf i ni weld ein gilydd.

"Roedd fy chwaer yn fodel yn gweithio yn Japan felly roedd yn rhaid iddi hedfan adref o'r fan honno ac yn 18 oed, allwch chi ddychmygu beth oedd yn mynd trwy ei meddwl ar daith hir?"

Dim ond chwech oed oedd brawd ieuengaf Gabby, Jordan, pan fu farw Daniel ac roedd yn "flaenoriaeth" gan eu bod eisiau "rhoi rhyw fath o normalrwydd iddo o amgylch bywyd teuluol oherwydd ei fod yn colli allan ar lawer o fywyd teuluol yr oeddem wedi'i fwynhau".

"Roedden ni'n deulu agos ac roedd fy rhieni yn uned agos iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Gabby Logan MBE yn 2020 a dywed ei bod wedi gweithio "am ddau" er cof am Daniel

"Nawr roedd y straen yma ar y cartref ac roedd fy rhieni yn delio ag ef mewn ffyrdd gwahanol iawn."

"Mae fel gordd yn dod i lawr ac yn anfon pawb i ffwrdd i wahanol gyfeiriadau, achos mae'n beth mor drychinebus i ddigwydd heb unrhyw rybudd. Mae pawb yn ymateb yn wahanol.

"Wnaeth priodas fy rhieni ddim goroesi ac mae hynny wedi effeithio ar weddill y teulu. Mae llawer o briodasau yn chwalu pan mae plant yn marw.

"Gan fy mod yr hynaf, fe wnes i gymryd arnaf fy hun i geisio gwneud cymaint ag y gallwn i unrhyw un yn y teulu.

Ffynhonnell y llun, Ian McLennan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel yn gobeithio dilyn Terry a chwarae i Leeds lle enillodd ei dad deitl cynghrair Lloegr yn 1974

"Roedd mam newydd ddechrau busnes eiddo ac roeddwn i eisiau helpu i gadw'r busnes i fynd. Roedd hi wedi ei llethu gyda thristwch ac am amser hir doedd hi ddim eisiau gadael y tŷ.

"Yna pan gyrhaeddais y brifysgol, dechreuais weithio ar radio lleol ac roeddwn i'n gwneud fy ngradd, roeddwn i eisiau gwneud cymaint ag y gallwn mewn bywyd oherwydd ei fywyd anghyflawn.

"Mae ei etifeddiaeth i mi yn fy mywyd yn wirioneddol bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Gabby Logan ran yn y bumed gyfres o Strictly Come Dancing yn 2007

Tra bod Gabby yn un o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar deledu'r DU, mae hi hefyd yn fam i ddau o blant ar ôl priodi cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yr Alban Kenny Logan yn 2001.

Ac anaml y mae ei brawd ymhell oddi wrth ei meddyliau.

"Trodd fy mab yn 16 yn yr haf," meddai. "Carreg filltir nad oedd Daniel wedi ei chyrraedd. Roedd hynny'n eithaf emosiynol.

"Yn isymwybodol roedd 'na dipyn o banig, wrth feddwl 'ydy e'n mynd i gyrraedd hynny?' oherwydd ni wnaeth Daniel."

Cafodd mab Gabby, Reuben, sy'n chwarae rygbi academi lefel elitaidd, sgan ar y galon yn gynharach y tymor hwn, tra bod ei merch Lois hefyd yn cael ei sgrinio yn yr ysgol.

"Roedd hynny'n anhygoel i ni fel teulu, mae'n teimlo fel tawelwch meddwl go iawn oherwydd yr hyn rydyn ni wedi mynd drwyddo.

"Mae'n ymyriad ar gost isel iawn a all arbed llawer o faterion yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gabby a'i gŵr Kenny Logan yn cefnogi elusennau plant

Mae un elusen Gymreig wedi galw ar i bawb rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli eu hysgol neu sir mewn camp i gael cynnig prawf sgrinio'r galon, a chafodd y mater ei drafod yn Senedd Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Calon Hearts bod marwolaethau cardiaidd sydyn wedi gostwng bron 90% yn Yr Eidal ers gwneud sgrinio'r galon yn orfodol i bob chwaraewr.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru dystiolaeth i bwyllgor deisebau'r Senedd, yn gwrthwynebu'r ddeiseb oedd â 3,000 o lofnodion.

Mewn llythyr, dywedodd gweinidog iechyd Cymru nad oedd sgrinio i atal marwolaeth sydyn ar y galon ymhlith pobl ifanc 12 i 39 oed yn cael ei argymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU oedd eisoes wedi ystyried y mater.

Dywedodd Eluned Morgan mai dim ond os oes tystiolaeth gadarn o ansawdd uchel i ddangos y byddai sgrinio'n gwneud mwy o les na niwed y dylid cynnig rhaglenni sgrinio'r boblogaeth.

Dywedodd Sefydliad Prydeinig y Galon hefyd ei fod yn ffafrio asesiad arbenigol wedi'i dargedu o deuluoedd lle mae risg uchel o afiechyd cardiaidd etifeddol, neu farwolaeth sydyn anesboniadwy, yn hytrach na rhaglen sgrinio a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer pob athletwr.

Mae mwy ar y stori hon ar Wales Livear BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig