Josh Adams yn dechrau fel canolwr i herio Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Josh Adams ddechrau i Gymru fel canolwr

Bydd Josh Adams yn dechrau fel canolwr am y tro cyntaf i Gymru yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad yn Nulyn ddydd Sadwrn.

Gyda Willis Halaholo ddim yn holliach oherwydd anaf i'w goes, Adams fydd yn bartner i Nick Tompkins yng nghanol cae.

Y maswr Dan Biggar fydd capten y tîm am y tro cyntaf yn absenoldeb Alun Wyn Jones.

Mae'r chwaraewr rheng-ôl Ross Moriarty ymysg yr eilyddion, ac mae'n bosib y bydd bachwr y Gweilch, Dewi Lake yn ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

Fe fydd y gic gyntaf yn Stadiwm Aviva am 14:15 brynhawn Sadwrn - gêm gyntaf y gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar fydd yn gapten ar gyfer y Chwe Gwlad eleni yn absenoldeb Alun Wyn Jones

Mae Adams wedi cael ei ddewis dros Jonathan Davies, sydd â 99 o gapiau i Gymru a'r Llewod, ac Owen Watkin, sydd ar y fainc.

Mae gan ddau opsiwn arall fyddai hefyd yn gallu chwarae yn y safle hwnnw - George North a Johnny Williams - anafiadau.

Yn y rheng-ôl mae Wayne Pivac wedi cadw ffydd gyda'r tri chwaraeodd yn y fuddugoliaeth dros Awstralia yn yr hydref - Ellis Jenkins, Taine Basham ac Aaron Wainwright.

Fe wnaeth Moriarty greu argraff wrth iddo ddychwelyd o anaf i'r Dreigiau yn erbyn Bentton y penwythnos diwethaf, gan wneud digon i sicrhau ei le ar y fainc yn Nulyn.

Ond daeth cadarnhad hefyd ddydd Iau y bydd Christ Tshiunza yn colli'r bencampwriaeth eleni oherwydd anaf a gafodd tra'n hyfforddi gyda'r garfan ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Wayne Pivac enillodd y bencampwriaeth yn 2021

Yn annisgwyl, Cymru wnaeth ennill y bencampwriaeth y llynedd, ac fe fuon nhw o fewn trwch blewyn i gipio'r Gamp Lawn hefyd.

Ond mae llu o chwaraewyr wedi'u hanafu eleni, gan gynnwys wyth sydd wedi chwarae i'r Llewod.

Y rheiny ydy Alun Wyn Jones, Ken Owens, Justin Tipuric, Taulupe Faletau, Josh Navidi, Dan Lydiate, George North a Leigh Halfpenny, sydd â dros 700 o gapiau rhyngddynt.

Bydd Cymru'n croesawu'r Alban i Gaerdydd yn eu hail gêm yn y bencampwriaeth y penwythnos nesaf, cyn teithio i herio Lloegr yn Twickenham ar 26 Chwefror.

Fe fydd Cymru'n cloi'r gystadleuaeth gyda dwy gêm gartref - yn erbyn Ffrainc ar 11 Mawrth ac yna'r Eidal ar y 19eg.

Tîm Cymru

Liam Williams; Johnny McNicholl, Josh Adams, Nick Tompkins, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar (c), Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Dewi Lake, Gareth Thomas, Dillon Lewis, Seb Davies, Ross Moriarty, Gareth Davies, Callum Sheedy, Owen Watkin.

Tîm Iwerddon

Hugo Keenan; Andrew Conway, Garry Ringrose, Bundee Aki, Mack Hansen; Johnny Sexton (c), Jamison Gibson Park; Andrew Porter, Ronan Kelleher, Tadhg Furlong, Tadhg Beirne, James Ryan, Caelan Doris, Josh van der Flier, Jack Conan.

Eilyddion: Dan Sheehan, Cian Healy, Finlay Bealham, Ryan Baird, Peter O'Mahony, Conor Murray, Joey Carbery, James Hume.