Mam Logan Mwangi yn gwadu llofruddio'i mab

  • Cyhoeddwyd
Angharad Williamson a John Cole
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole wedi gwadu llofruddio Logan Mwangi

Mae mam o Ben-y-bont wedi gwadu llofruddio'i mab pump oed.

Fe gafodd Logan Mwangi, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, ei ddarganfod yn farw yn Afon Ogwr ger Pen-y-Bont ar 31 Gorffennaf y llynedd.

Ddydd Gwener, fe blediodd Miss Angharad Williamson, 30, o Sarn, Pen-y-Bont yn ddieuog mewn gwrandawiad adolygu cyn yr achos llawn yn Llys y Goron, Caerdydd.

Fe ymddangosodd llystad Logan yn y llys a phledio'n ddieuog i ganiatáu neu achosi marwolaeth plentyn - cyhuddiad arall y gwnaeth Miss Williamson ei wadu.

Mae John Cole, 39, o Sarn, Pen-y-bont, hefyd wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddio, ond wedi cyfaddef i wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn gwrandawiad blaenorol.

Mae Miss Williamson hefyd wedi gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe ymddangosodd bachgen ifanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, drwy ddolen fideo o ystafell arall yn adeilad y llys.

Mae ef eisoes wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o lofruddiaeth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd y prawf yn dechrau ar 14 Chwefror ac mae disgwyl iddo bara am oddeutu chwe wythnos.

Pynciau cysylltiedig