Cyngor Powys i godi premiwm treth ail gartrefi i 75%

  • Cyhoeddwyd
Powys wledig
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefn gwlad Powys yn atyniad i lawer

Fe fydd y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ym Mhowys yn codi y flwyddyn nesaf o 50% i 75%.

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Powys wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid y cam yn dilyn pryderon dros effaith ail gartrefi ar rai o gymunedau'r sir a phrisiau tai'r ardal.

Mae disgwyl i'r penderfyniad ddod â £350,000 ychwanegol y flwyddyn i'r coffrau pan ddaw'r newid i rym yn Ebrill 2023.

Roedd y cyngor wedi wynebu cwestiynau pam y fu'r fath oedi cyn symud ymlaen â'r newid, gan fod cynghorwyr wedi rhoi sêl bendith ym Medi 2020 a dechrau ymgynghoriad ychydig fisoedd wedi hynny.

Mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw roedd yna 780 o ymatebion, gyda'r mwyafrif yn erbyn unrhyw godiad yn y dreth.

"Roedd y farn gyffredinol o'r ymgynghoriad yn negyddol i godi'r premiwm," dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, sy'n gyfrifol am y portffolio cyllid.

"Dydy hynny ddim yn syndod mewn gwirionedd - does neb eisiau talu lefel uwch o drethi.

"Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r rhai a ymatebodd yn bobl sy'n berchen ar ail gartrefi."

Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd Aled Davies bod posib i'r cyngor golli arian, gan ddibynnu ar sut mae perchnogion ail dai'n ymateb i'r newid

Yn ôl Mr Davies mae yna bosibilrwydd y gallai rhai perchnogion drosglwyddo'u tai o'r rhestr treth domestig i dalu trethi busnes.

Yng Nghymru, gall perchennog ail gartref osgoi talu treth y cyngor a chofrestru ar gyfer trethi busnes os yw'r eiddo ar gael i'w osod am 140 diwrnod y flwyddyn ac yn cael ei osod am 70 diwrnod.

"Os bydd 10% yn symud i drethi busnes a 10% yn gwneud eu tai fel eu prif gartrefi, yna fydd yn gost niwtral [i Gyngor Powys]," meddai Mr Davies.

"Ond os yn fwy na hynny, fe allwn hi golli refeniw."

Prisiau eiddo 'gwirion'

Yn ôl yr adroddiad i gabinet y cyngor, sy'n cael ei arwain gan glymblaid o Geidwadwyr ac aelodau annibynnol, bydd codi'r premiwm i 75% yn cynyddu treth cyngor cyfartalog yr 1,311 eiddo sydd wedi eu cofnodi i £3,310.45.

Croesawodd arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, Elwyn Vaughan, benderfyniad y cabinet.

"Tydi o ddim yn gyfrinach mod i'n angerddol am y mater hwn," meddai.

"Nid yw'n broblem newydd i'r Gymru wledig nac i rannau o Loegr wledig, ond yr hyn 'dan ni wedi'i weld yn y blynyddoedd diwethaf ydi prisiau eiddo yn mynd yn wirion mewn llawer o gymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen danfon neges bod y cyngor yn awyddus i helpu pobl ifanc lleol brynu tai, medd Elwyn Vaughan

Ychwanegodd ei fod yn broblem i Bowys gyfan, a bod prisiau eiddo wedi codi "y tu hwnt i gyrraedd pobol ifanc".

"Ni fydd hyn yn datrys yr holl drafferthion sy'n wynebu'r sector tai ac ein cymunedau, ond bydd yn anfon neges glir ein bod yn deall yr heriau ac eisiau cefnogi ein pobl ifanc."

'Tai heb olau - dim bywyd'

Dywedodd yr aelod cabinet dros y Gymraeg, Myfanwy Alexander: "Dydw i ddim yn siŵr a oes llawer ohonoch wedi cael y profiad o yrru drwy bentrefi gorllewin Cymru am bump o'r gloch ar noson o aeaf.

"Efallai y byddech chi'n disgwyl gweld golau lamp a thanau'n dod trwy lenni caeëdig [ond] rydych chi'n gweld tai heb olau - dim bywyd.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd ym Mhowys."

Mae Cyngor Sir Penfro eisoes yn cynllunio i gynyddu'r premiwm o 50% i 100% ar gyfer 2022/23.

Hefyd mae bwriad gan Gyngor Ynys Môn ei gynyddu yno o 35% i 50% o fis Ebrill ymlaen, cyn ei godi ymhellach i 75% ac yna 100% erbyn 2024.

Er hyn, cynghorau Gwynedd ac Abertawe yw'r unig rai sy'n barod godi'r uchafswm o 100%, fel caniateir gan Lywodraeth Cymru.

Pynciau cysylltiedig