Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 29-7 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Andrew Conway'n sgorio ail gais IwerddonFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Conway'n sgorio ail gais Iwerddon

Fe roddodd Iwerddon grasfa i Gymru - o 29 i 7 - yng ngêm agoriadol pencampwriaeth Chwe Gwlad 2022, gan roi'r dechrau gwaethaf posib i ymgyrch pencampwyr y llynedd.

Fe gymrodd 75 o funudau i Gymru sgorio unrhyw bwyntiau yn yr ornest yn Stadiwm Aviva a welodd y Gwyddelod yn sgorio pedwar o geisiau.

Daeth pwyntiau Cymru wedi cais hwyr gan Taine Basham a throsiad Callum Sheedy, ond erbyn hynny roedd Iwerddon wedi hen selio'r fuddugoliaeth ar ôl rheoli'r meddiant a'r tir o'r dechrau.

Roedd yn gyferbyniad llwyr â gêm agoriadol pencampwriaeth y llynedd pan gurodd Cymru Iwerddon 21-16 yng Nghaerdydd cyn mynd ymlaen i gipio'r Goron Driphlyg a'r bencampwriaeth.

Roedd angen dechrau da ar Gymru yn erbyn tîm mor gryf ond o fewn dim roedd y Gwyddelod yn bygwth llinell Cymru.

Canlyniad tafliad o'r lein oedd cais cyntaf y tîm cartref - un hawdd i'r canolwr Bundee Aki - ger y gornel chwith. Roedd angen cryn allu ar ran Johnny Sexton i grymanu'r bêl o ongl heriol ond fe lwyddodd i'w throsi gan roi ei dîm 7-0 ar y blaen wedi cwta bedwar munud o chwarae.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bundee Aki'n tirio i sgorio pwyntiau cyntaf pencampwriaeth eleni

Methodd Sexton ddau gyfle i ymestyn y fantais wedi i Gymru ildio ciciau gosb gan wyro'r bêl yn rhy bell i'r dde. Parhau i bwyso wnaeth y Gwyddelod gan lethu chwaraewyr Wayne Pivac gyda'u cyflymder, ac am gyfnod helaeth roedd yr holl chwarae yn hanner Cymru o'r maes.

Hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf fe wnaeth Iwerddon sicrhau cic gosb arall. Y tro hwn doedd dim atal Sexton, er iddo gicio yn erbyn y gwynt, gan wneud hi'n 10-0.

Wedi hynny fe lwyddodd Cymru i sicrhau rhywfaint o feddiant, gan symud y bêl yn ôl i hanner y Gwyddelod o'r maes.

Am y tro cyntaf daeth y tîm cartref dan rhywfaint o bwysau, diolch i gic wych gan y capten Dan Biggar a rhediad i lawr yr asgell chwith gan Johnny McNicholl.

Ond gydag amddiffyn Iwerddon yr un mor gadarn a'r ymosodwyr, prin oedd y cyfleoedd i Gymru geisio cadw'r meddiant ac ymosod. Awgrymodd ystadegau'r hanner cyntaf bod Cymru wedi cyflawni 101 o daclau - llawer mwy na'r cyfryw - ac y cysur mwyaf ar yr egwyl oedd bod Iwerddon wedi methu ag ymestyn y bwlch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Doedd dim newid i'r ddau dîm ar ddechrau'r ail hanner - nag i batrwm y gêm, yn anffodus i Gymru.

Wedi 43 o funudau roedd Andrew Conway wedi cael y gorau mewn ornest am y bêl gyda Louis Rees-Zammit gan dirio yn y gornel dde - ymgais dilys, ym marn y TMO. Gyda'r gwynt bellach wrth ei gefn, fe ychwanegodd Sexton bwyntiau gyda'r trosiad i wneud y sgôr yn 17-0.

Aeth pethau o ddrwg i waeth gyda cherdyn melyn i Josh Adams am ddal Sexton gyda'i ysgwydd.

Manteisiodd Iwerddon yn gyflym ar fod â dyn ychwanegol ar y maes. Wedi chwarae gosod effeithiol, roedd yna ddigonedd o dir agored i Conway dirio am yr eildro, ac fe giciodd Sexton yn gywir eto ac roedd hi bellach yn 24-0.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dan Biggar yw capten Cymru yn absenoldeb Alun Wyn Jones

Methodd Cymru â thorri patrwm y chwarae, gan frwydro am eiliadau prin o feddiant. Wedi 60 o funudau fe redodd Garry Ringrose yn nerthol heibio canolwyr Cymru a chroesi'r llinell gan sicrhau pwynt bonws i'r Gwyddelod. Ond y tro hwn fe fethodd Sexton gyda'r trosiad felly fe arhosodd hi'n 29-0.

Dychwelodd Josh Adams i'r maes a sicrhau meddiant i Gymru gyda thacl ar Caelan Doris ac fe gyrhaeddodd y bêl Rees-Zammit ar gyfer cyfle prin i ymosod.

Roedd hi'n dalcen caled i dîm Wayne Pivac ond o leiaf wnaethon nhw osgoi'r cywilydd o fethu â sgorio o gwbl.

Fe wnaeth Taine Basham yn wych i ryng-gipio'r bêl oddi ar Tadhg Beirne a chroesi'r llinell ac fe giciodd Callum Sheedy'n gywir i sicrhau saith pwynt i Gymru ar brynhawn hynod siomedig.