Y sector twristiaeth yn paratoi at 'flwyddyn fawr' 2022
- Cyhoeddwyd
Gyda 2022 yn argoeli i fod yn "flwyddyn fawr arall" i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, mae cwmnïau wrthi'n ceisio recriwtio staff ar gyfer dechrau'r tymor gwyliau.
Ond fe allai hynny brofi'n dalcen caled unwaith eto eleni, gyda busnesau'n dweud fod "pobl yn meddwl yn wahanol am weithio yn y maes" oherwydd y pandemig.
Mae'r galw'n fawr gyda darogan y bydd ardaloedd poblogaidd yn brysurach eleni na'r llynedd, a hynny er y bydd hi'n haws eto debyg i fynd ar wyliau dramor.
"Roedd llynedd yn anhygoel," yn ôl Meurig Jones, rheolwr lleoliad yn atyniad Portmeirion ger Porthmadog.
"Fel arfer 'dan ni'n cael ryw 2,000 o ymwelwyr y diwrnod i mewn yn yr haf, ond llynedd roedd hi'n agosach i 3,000.
"Mae'n dangos fod gogledd Cymru yn lle mae pobl yn ddewis oherwydd nad ydyn nhw'n gallu mynd dramor. Mae'r flwyddyn yma yn edrych yr un mor addawol.
"Y sialens fwyaf mae'n debyg ydy recriwtio, gyda'r pandemig wedi newid agwedd pobl o bosib tuag at waith mewn twristiaeth."
Mae'n faes lle mae gofyn yn aml gweithio'n gynnar neu'n hwyr, ac mae shifftiau yn gallu bod yn hir. I geisio ateb y galw mae Portmeirion yn cynnal Ffair Swyddi ar 19 Chwefror.
"Mae'n her i gael pobl yma a llenwi'r bylchau sydd ganddon ni. Yn y gwesty mae gynnon ni 60 o lofftydd ac mae yna 13 o fythynnod - mae'n bentref mawr i edrych ar ei ôl," meddai Mr Jones.
Ansicrwydd teithio dramor
Yn ôl Llywodraeth Cymru, wedi trafferthion tebyg y llynedd, mae pecyn cymorth ar gael i fusnesau i'w helpu recriwtio staff.
Mae Croeso Cymru yn eu tro, ar y cyd â Visit England a Visit Scotland, wedi cynnal arolwg sy'n awgrymu y bydd mwy o bobl yn dewis gwyliau ym Mhrydain dros y 12 mis nesaf wrth i'r ansicrwydd barhau ynglŷn â theithio dramor.
Yn ôl Sian Pritchard o bartneriaeth hyrwyddo atyniadau Eryri 360, "mae yna duedd yn barod fod y staycation yn mynd i fod yn boblogaidd unwaith eto".
Mae'n bwysig er hynny, meddai, i annog pobl i "ymweld â'r ardal i gyd, i ffwrdd o'r hotspots. 'Dan ni'n trio addysgu pobl fod yna fwy i Eryri na jyst Yr Wyddfa".
"'Dan ni'n gweld bookings ar i fyny i atyniadau, llety a bwytai, ac maen nhw'n uwch rŵan na be oedden ni'n weld hyd yn oed cyn y pandemig," ychwanegodd.
"Mae yna rai rŵan sy'n hitio eu maximum capacity, gyda rhai darparwyr yn llawn yn barod ar gyfer hanner tymor Chwefror a'r Pasg.
"Mae cyflogau staff wedi codi, ac mae cynlluniau hyfforddi a phrentisiaethau yn boblogaidd hefyd er mwyn trio cadw pobl leol i weithio yma. Mae'n bwysig bod ni'n cael pobl ddwyieithog yn y diwydiant yma.
"Mae'r tymor hefyd yn ymestyn i gymharu â'r blynyddoedd cynt. Ond, oherwydd y cyfyngiadau, tydi hyn ddim yn golygu fod busnesau yn gwneud yn well yn ariannol.
"Maen nhw wedi buddsoddi yn aruthrol i warchod eu staff. A rhaid cofio hefyd i lawer golli incwm dros y lockdowns.
"Mae gwyliau tramor yn risg," ychwanegodd Ms Pritchard. "Mae o'n gymhleth. Mae gwyliau yng Nghymru yn teimlo'n saffach."
Llai o brofion
Yn swyddfa Nico Travel yn Llanrwst er hynny, ar ôl dwy flynedd "ddistaw", mae pethau wedi prysuro'n arw dros yr wythnosau diwethaf wrth i olygon rhai teithwyr droi at wyliau tramor eto.
Fe fydd eraill yn dal i ddewis aros yn nes at adref yn ôl Gwen Elen Morgan, ond mae'r cwmni yn trefnu gwyliau o'r math yma hefyd ac felly "yn edrych ymlaen at yr haf".
"Mae mwy o bobl efo mwy o hyder rŵan i drafeilio gan fod y rheolau ychydig yn gliriach, ac mae yna lai o brofion," meddai.
"Mae pobl yn mynd draw i gael ychydig o haul yn Sbaen, Portiwgal, ac eraill yn mynd ychydig yn bellach. Mae pobl wedi gallu safio fyny dros y ddwy flynedd ddiwethaf a rŵan yn gallu mynd i Mecsico, i Sri Lanka a'r Maldives.
"Mae yna lot mwy yn mynd i ffwrdd rŵan, gyda rhai wedi bwcio'n barod i fynd dramor yn 2023 hefyd."
Cynlluniau mawr
Draw ym Mhwllheli mae parc gwyliau Hafan y Môr yn dathlu 75 mlynedd eleni. Ond tydi cwmni Haven ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau.
Fis Tachwedd y llynedd cafodd cais gwerth £13m i ailddatblygu'r safle ganiatâd cynllunio, ac eleni maen nhw'n ceisio recriwtio mwy o weithwyr nag erioed.
Yn ôl Delyth Jones, rheolwr gofal Hafan y Môr, mae ymwelwyr "wedi gweld beth sydd gan fan hyn i'w gynnig y llynedd, ac fe fyddan nhw eisiau dod 'nôl yma."
Mae'r lle eisoes yn llawn ar gyfer wythnos gyntaf mis Mawrth wrth i bobl drefnu eu hymweliadau.
"Mae yna fuddsoddi mawr yma ac mae'r lle yn tyfu a thyfu. Haf diwethaf roedd yna 450 o bobl yn gweithio yma. Eleni 'dan ni'n chwilio am 650, sy'n dipyn o dasg," meddai Ms Jones.
"'Dan ni'n mynd o'i chwmpas hi mewn ffordd wahanol, oherwydd mae'r pandemig wedi gwneud i bobl feddwl mewn ffordd wahanol am fywyd gwaith a bywyd teulu.
"Mae gynnon ni gynllun newydd sy'n gweithio rownd bywydau pobl fwy, sy'n cynnig oriau hyblyg i siwtio. Rhan bwysig o hyn fydd trefnu bws am ddim i gludo pobl yma - o Gaernarfon i ddechrau, o Nefyn efallai.
"Mae'n rhaid cael y tîm i weithio yma."
Mae yna bwyslais hefyd ar hyfforddi yn fewnol, fel mae prif gogydd Hafan y Môr, Gareth Parry, yn egluro.
"Dwi wedi gweithio yma ers 25 mlynedd ac wedi gweld lot o newidiadau," meddai.
"Rŵan mae gynnon ni chef academy yma. Mae yna 22 yn cael eu trainio fyny am wyth wythnos."
Fe fydd yna rai yn aros ym Mhwllheli, gyda'r gweddill yn mynd i weithio i safleoedd eraill Haven.
"Dwi wrth fy modd yn pasio fy mhrofiad ymlaen iddyn nhw," meddai.
"Mae'n le cyffrous i weithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021