Gwynedd yn trafod safleoedd parcio dros nos i gerbydau

  • Cyhoeddwyd
cerbyd gwersyllaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ymwelwyr i ardaloedd yng Nghymru

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried sefydlu safleoedd ble bydd carafanau a cherbydau gwersylla yn cael parcio ac aros dros nos.

Daw hynny yn dilyn prysurdeb mawr dros yr haf eleni a llynedd, pan welwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn dod ar wyliau i Gymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid.

Fe arweiniodd hynny at achosion o bobl yn aros dros nos yn eu cerbydau gwersylla mewn meysydd parcio ble nad oedd hawl ganddyn nhw i wneud, a phroblemau sbwriel yn codi o hynny.

Mae'r cyngor nawr eisiau gwario £100,000 ar sefydlu chwe safle mewn meysydd parcio presennol, tebyg i 'aires' sy'n cael eu canfod mewn gwledydd fel Ffrainc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwersylla anghyfreithlon wedi dod yn broblem fwy yng Nghymru ers y pandemig

Mae 'aires' yn safleoedd gwersylla sydd ond yn cynnig cyfleusterau sylfaenol, fel dŵr a lle i gael gwared ar garthion, ac felly yn rhatach fel arfer na safleoedd gwersylla arferol.

Yn ôl adroddiad y cyngor, roedd gwersylloedd carafanau presennol y sir yn hynod o brysur yn ystod 2020 a 2021, ac felly byddai'r safleoedd newydd yn lleihau'r pwysau arnynt yn ogystal â lleihau faint o wastraff a sbwriel sy'n cael ei adael.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd, y byddai'r safleoedd newydd hefyd yn golygu bod ymwelwyr yn aros yn agos i drefi neu bentrefi, ac felly'n fwy tebygol o gyfrannu'n ariannol i fusnesau lleol.

"Mae nifer uchel y bobl sydd wedi bod yn ymweld wedi bod yn destun pryder mewn rhai ardaloedd, gyda rhai yn aros mewn cerbydau gwersylla mewn llefydd lle does dim caniatâd i gysgu yno dros nos," meddai.

"Dyna pam rydyn ni'n awyddus i ystyried camau allai wella rheolaeth yn y maes yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerthiant cerbydau gwersylla wedi cynyddu 71% yn 2019 a 2020

Daw'r cynnig yn dilyn pryderon fod rhai ymwelwyr wedi bod yn "parcio ble bynnag maen nhw eisiau" mewn rhannau o Wynedd, gan gynnwys mewn llefydd anaddas a pheryglus.

"Rydyn ni wedi gweld hyd at 15 o'r cerbydau yma rai nosweithiau yn parcio mewn llefydd anghysbell sydd heb gyfleusterau priodol o gwbl," meddai'r Cynghorydd Simon Glyn wrth drafod y mater mewn cyfarfod y llynedd.

Ond fe wnaeth arolwg o berchnogion cerbydau gwersylla ganfod y byddai dros 92% ohonynt yn defnyddio safleoedd tebyg i 'aires' petaen nhw ar gael.

Petai'r cynllun un cael ei gymeradwyo byddai disgwyl i'r cyfnod cynllunio ddechrau ym mis Chwefror 2022, gyda'r safleoedd cyntaf yn agor erbyn gwanwyn 2023.

Pynciau cysylltiedig