Y DU ac Iwerddon i wneud cais i gynnal Euro 2028

  • Cyhoeddwyd
Tlws EurosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi cystadlu ym mhencampwriaethau Ewrop ddwywaith yn ddiweddar

Mae cymdeithasau pêl-droed y DU a Gweriniaeth Iwerddon wedi cytuno i beidio â gwneud cais i gynnal Cwpan y Byd yn 2030.

Yn hytrach, fe fyddan nhw'n canolbwyntio ar gais ar y cyd i gynnal pencampwriaeth Euro 2028.

Daw wedi i Lywodraeth y DU glustnodi £2.8m lai na blwyddyn yn ôl ar ymchwilio i ymarferoldeb y cais.

Roedd hynny'n cynnwys asesiad o'r effaith economaidd, sefyllfa wleidyddol y byd pêl-droed a chostau tebygol cynnal digwyddiadau o'r fath.

Yn dilyn yr astudiaeth, dywedodd cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon y byddan nhw'n canolbwyntio ar wneud cais i gynnal Euro 2028.

Ffynhonnell y llun, JEWEL SAMAD
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Cymru heb chwarae mewn Cwpan y Byd ers 1958

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod cynnal pencampwriaethau Ewrop yn costio llawer llai na Chwpan y Byd, a bod y buddion ariannol i'w gweld ynghynt.

"Fe fyddai'n anrhydedd ac yn fraint i gynnal UEFA Euro 2028 ar y cyd a chroesawu Ewrop gyfan," meddai'r datganiad.

Ychwanegodd llywydd CBDC, Stephen Williams fod gan "y Wal Goch gysylltiad arbennig â phencampwriaethau Ewrop, ac mae gweld Cymru o bosib yn cymryd rhan a'i gynnal yn 2028 yn obaith cyffrous".

"Bydd yr effaith bositif y bydd hyn yn ei gael ar Gymru gyfan yn enfawr ac yn gadael ei ôl am gyfnod hir."

Ychwanegodd y gymdeithas mai Stadiwm Principality yw'r unig safle yng Nghymru fydd yn cael ei ystyried ar gyfer cynnal gemau, ac na fydd unrhyw stadiymau eraill yn cael eu huwchraddio.