Carys Davies: 'Troi diddordeb tai mewn i fusnes'

  • Cyhoeddwyd
Carys DaviesFfynhonnell y llun, S4C

"Oedd wastad diddordeb tai gyda fi a'r gŵr felly ni wedi mynd mewn i fyd prynu ambell i dŷ a rhenti e mas - troi diddordeb mewn i fusnes."

Ac mae'r penderfyniad hynny wedi arwain at yrfa lwyddiannus i'r gyflwynwraig Carys Davies, nid yn unig yn y farchnad dai ond hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu am y pwnc.

Mae Carys yn cyfuno rheoli cwmni gosod tai gyda'i gwaith ar y gyfres eiddo Tŷ Am Ddim sy'n dychwelyd i S4C am gyfres newydd.

Ymhob rhaglen mae Carys, sy'n wreiddiol o Beniel, Caerfyrddin ond nawr yn byw gyda'i gŵr a dau o feibion ar gyrion Abertawe, yn prynu tŷ trwy ocsiwn ar-lein. Mae dau unigolyn sydd erioed wedi cwrdd â'i gilydd o'r blaen yn cael tŷ am ddim - mae cyllid ganddyn nhw i adnewyddu'r tŷ a'i ail-werthu, o fewn chwe mis. Mae'r ddau yn cael cadw unrhyw elw ac, efallai, ei ddefnyddio fel blaendal ar dŷ eu hunan.

Ffynhonnell y llun, Mark Waugh
Disgrifiad o’r llun,

Wil Chidley ac Aaron Hughes (de) yn dangos eu gwaith i Carys ar y rhaglen

Fel arbenigwraig gwerthu tai, mae Carys yno i gynghori a hefyd i helpu i ddelio gydag unrhyw anghydfod neu broblem annisgwyl.

Dywedodd: "S'dim pawb yn neud elw ond ni'n trio cynghori nhw gan gofio nad yw'r bobl yma byth 'di cwrdd â'i gilydd o'r blaen - mae'n gyfnod stressful i neud tŷ lan ond os na ti'n 'nabod dy bartner a bod 'da ti amser cyfyngedig i neud e, mae'n anodd iawn.

"Mae rhai'n dod 'mlaen yn gret. Mae un cwpl yn y gyfres wedi dod yn sut gymaint o ffrindiau maen nhw'n edrych i brynu tŷ o fewn dau stryd o'i gilydd ac yn ffrindiau pennaf.

"Mae 'na dipyn o hwyl, tensiwn - ond dyna beth yw'r rhaglen.

"Dwi 'di troi lan i ambell i dŷ dros y cyfresi ac wedi meddwl, o gosh. Ti yn teimlo fel rhyw fath o referee, yn trio sortio pethau mas.

"Maen nhw'n gorfod gweithio gyda'r person hyn. Wedi neud ei swydd dyddiol ac wedi gorfod mynd yn y penwythnosau a'r nosweithiau a falle bod pethau ddim yn mynd fel dyle nhw - yn amlwg bydd 'na stress, bach o gwympo mas. Mae'n ran o'r profiad.

"Ti'n trio peidio mynd yn involved ond mae'n anodd, pobl yw nhw. Mae ambell un wedi llefen ar gamera a ti'n meddwl, gosh mae deigryn gyda fi. Ti'n teimlo drosti nhw.

"Ti'n cael ambell i chat a ti angen dweud, paid rhoi lan. Mae'n anodd heb os - dwi'n cofio neud ambell i dŷ lan fy hunan. Ti'n gorfod gweithio i gyllideb a phan ti dan sut gymaint o stress, mae gorfod neud e yn gyfnod anodd."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y cyntedd mewn tŷ yn Llandudno ar y gyfres cyn ei adnewyddu

Ffynhonnell y llun, Mark Waugh
Disgrifiad o’r llun,

Y cyntedd wedi trawsnewid

Cyngor

Mae Carys a'i gŵr Dewi wedi adnewyddu nifer o dai dros y blynyddoedd - rhai i'w gosod a rhai i'w gwerthu am elw - felly mae'n siarad o brofiad pan mae'n rhannu ei chyngor gyda'r bobl yn y gyfres: "Mae angen trin y tŷ ddim fel tŷ eich hunain - chi yno i neud tŷ lan a gwerthu e mlaen ar gyfer prynwr arall, felly mae'n bwysig peidio mynd yn rhy sentimental.

"Mae'n rhaid chi gyfathrebu, eistedd lawr i ddechrau a dod lan â chynllun. Os chi'n handi 'da sgiliau, mae lot yn edrych ar youtube i weld sut mae neud pethau. 'Oedd un wedi dysgu eu hunain sut i blastro oedd yn grêt.

"Os oes gyda chi ffrindiau/teulu/rhywun sy' arno ffafr, defnyddiwch nhw i neud y gwaith. Os oes rhaid cael tradesman, fan 'na mae'r gost.

"Fel asiant ni'n dweud mae'n bwysig bod ti'n rhoi amser un ochr i farchnata a hysbysebu'r tŷ ar werth o fewn yr amser cyfyngedig. Mae rhai pobl yn gwrando, rhai ddim. Dyna natur y gyfres.

"Dydw i ddim eisiau rhoi gormod i ffwrdd - ond roedd un person yn y gyfres hon nad oedd yn gwrando o gwbl ac yn bwrw pob wal i lawr yn y tŷ ac yna bu'n rhaid eu hail-adeiladu!"

Ffynhonnell y llun, Carys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Un o brosiectau Carys - byngalo cyn i'r gwaith adnewyddu gychwyn

Ffynhonnell y llun, Carys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Y byngalo ar ei newydd wedd

Effaith y pandemig

Mae Carys wedi gweld newid syfrdanol yn y farchnad prynu a gosod tai yn ystod y pandemig, gyda prisiau'n codi a chystadleuaeth brwd am bob tŷ: "Mae'r farchnad dai yn fywiog iawn ar hyn o bryd ac mae'n anodd iawn cyrraedd y property ladder.

"Pwy feddylie pan aethon ni mewn i lockdown ac oen ni gyd yn gorfod gweithio o getre, bydde'r marchnad dai wedi mynd fel oedd hi? Mae 'di bod yn anhygoel bod prise wedi cynyddu sut gymaint.

"'Natho ni benderfynu fel cwmni i neud fideos o'r tai oherwydd bod ni ffaelu neud apwyntiadau ac mae hwnna'n staple nawr. 'Oedd ambell i dŷ yn gwerthu drwy fideo heb i bobl weld y tai.

"Dwi'n credu 'neith prisiau tai lefelu mas. Maer farchnad rhent yn gryf iawn hefyd a s'dim digon o dai i rhenti. Mae prisiau rhent wedi mynd lan yn uchel iawn oherwydd y sefyllfa.

"Beth ni'n ffeindio yw fod prynwyr, yn enwedig pobl sy'n prynu tai am y tro cynta', wedi safio yn ystod y pandemig gan bod nhw ddim yn gallu neud dim byd ac maen nhw'n dod ato ni gyda deposit a chynnig morgais.

Ffynhonnell y llun, Carys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Un o brosiectau Carys cyn i waith gychwyn: "Chi yno i neud tŷ lan a gwerthu e mlaen ar gyfer prynwr arall"

Ffynhonnell y llun, Carys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Y gegin wedi ei thrawsnewid

Cyngor ar gyfer prynu tŷ

"Mae angen cael popeth bosib yn barod. Mae'n gystadleuol ond os ti'n gweld tŷ, bod y gwaith papur i gyd yn barod - y mortgage in principle, y deposit ac ati."

Gwyliwch cyfres newydd Tŷ Am Ddim, yn dechrau ar S4C ar nos Fercher, 9 Chwefror neu ar gael ar iplayer.

Pynciau cysylltiedig