'Cynnydd nodedig' homoffobia mewn ysgolion cynradd
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd nodedig wedi bod yn y plant oed cynradd sy'n dioddef bwlio homoffobig ar iard yr ysgol, yn ôl academydd sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.
Daw sylwadau'r Athro EJ Renold wrth i adroddiad diweddar gan Estyn nodi mai bwlio homoffobig yw'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng disgyblion.
Yn ôl un o sêr TikTok Cymru, Ellis Lloyd Jones - a gafodd ei dargedu yn yr ysgol am fod yn hoyw - mae'n dal yn ofni dychwelyd i'w dre enedigol oherwydd y bwlio.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod unrhyw fath o fwlio yn "gwbl annerbyniol" ac y bydd cwricwlwm newydd Cymru yn un cynhwysol i bawb.
'Normaleiddio sylwadau'
Mewn cyfweliad gyda rhaglen BBC Wales Live, mae'r Athro Renold - a fu'n cynghori'r arolygaeth ysgolion Estyn ar eu hadroddiad - yn dweud "nad yw hi'n anghyffredin" i weld sylwadau gwrth-hoywon yn cael eu "normaleiddio" mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd bellach.
"Fe welwch chi blant nad ydyn nhw'n cydymffurfio, efallai, â'r disgwyliad o'u rhyw nhw, sy'n troi'n dargedau ar gyfer camdrin homoffobig - ac, yn gynyddol, trawsffobig hefyd."
Yn ôl yr adroddiad gan Estyn fis Rhagfyr diwethaf roedd nifer o ddisgyblion LHDTC+ uwchradd Cymru â "phrofiad personol helaeth" o homoffobia, gan gynnwys galw enwau a'u cywilyddio am eu cyrff ac, yn yr achosion gwaethaf, roedd enghreifftiau o rai yn dweud wrth eu cyd-ddisgyblion am ladd eu hunain.
Yn 23 oed, mae Ellis Lloyd Jones yn gyfforddus â bod yn ddyn agored hoyw yng Nghaerdydd, ond mae'n dweud bod tyfu fyny yn y Cymoedd wedi bod yn anodd.
"Wnaeth y bwlio ddechrau pan o'n i yn yr ysgol gyfun," meddai. "Ar y pryd do'n i ddim yn sylwi bod e'n homoffobig, o'n i jyst yn meddwl bod pobl yn casáu fi.
"Oedd pobl yn dweud 'you are gay' a 'the girls' toilets are that way' a phethe fel'na.
"Roedd 'na bethe physical weithie hefyd, fel bwrw fi a gwthio fi lawr y grisiau. O'n i'n meddwl bod nhw jyst yn bwlio fi am bod nhw ddim yn hoffi fi. Ond nawr fi'n gwybod nad o'n nhw'n hoffi fi am reswm - bod fi'n hoyw."
Dim ond ar ôl gadael yr ysgol yn 17 oed y datgelodd Ellis i bawb ei fod yn hoyw. Yn y chwe blynedd ers hynny mae wedi gwneud enw iddo'i hun fel crëwr cynnwys dylanwadol iawn ar TikTok ac Instagram, gyda 200,000 o ddilynwyr.
Ond tra yn yr ysgol, er ei fod wrth ei fodd yn perfformio ar lwyfan, fe roddodd y gorau iddi am gyfnod oherwydd y bwlio.
"Bob tro o'n i'n neud dawnsio disgo unigol yn yr eisteddfod, ro'n i wastad yn cael pobol yn chwerthin arna i ac oedd e'n deimlad rili rybish achos o'n i'n caru perfformio a bod ar lwyfan.
"Ond i fod ar y llwyfan a chael y neuadd i gyd yn sibrwd a chwerthin arnat ti, mae'n deimlad rili rybish. Felly ar ôl hynny o'n i'n meddwl sa'i eisie teimlo fel yna rhagor felly fi'n mynd i osgoi beth fi eisiau neud."
'Mwy o hyfforddiant'
Un o argymhellion adroddiad Estyn oedd i athrawon dderbyn mwy o hyfforddiant wrth ddelio â bwlio homoffobig.
Mae Ellis yn croesawu hynny, gan ddweud fod ei athrawon wedi bod yn gefnogol dros ben, ond nad oedden nhw wastad yn deall.
"Fi'n cofio mynd at athrawon a dweud bod disgyblion eraill yn galw fi'n gay a bydden nhw'n dweud 'Mae'n iawn, ti ddim yn gay. Roedd hynny'n confusing iawn achos roedd un ochr yn dweud bod fi'n hoyw a'r ochr arall yn dweud bod fi ddim.
"Yn edrych nôl nawr byddai'n well petai athrawon yn gallu dweud 'Mae'n iawn os ti'n meddwl nad wyt ti'n gay, ond cofia mae'n iawn i ti fod yn gay hefyd.' O'n i angen rhywbeth fel'na jyst i ddweud fod popeth o'n i'n neud ac unrhyw beth o'n i eisiau bod yn iawn."
Mae'n dweud fod ei brofiad ysgol yn cael effaith arno hyd heddiw.
"Wnaeth y profiad effeithio fi yn yr hirdymor, hyd yn oed heddiw os dwi'n mynd adre i'r Cymoedd dwi ddim yn teimlo'n saff. Nôl adre fi dal yn teimlo bod pobl sydd ddim yn deall, sydd ddim yn hoffi sut dwi'n byw fy mywyd."
Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd, mae unrhyw ddisgybl sy'n defnyddio iaith homoffobig neu drawsffobig yn cael gwahoddiad i eistedd gydag aelodau grŵp LHDTC+ yr ysgol, Digon, er mwyn trafod beth sydd wedi digwydd. Mae'n broses sydd wedi cael canmoliaeth eang am ei bod yn helpu'r ysgol i fod yn fwy cynhwysol.
Yn ôl Reagan, 17, sy'n aelod o'r grŵp, mewn llawer iawn o'r achosion sy'n ymwneud â disgyblion ifanc, mae'r sylwadau'n dod o "anwybodaeth gwirioneddol."
"Dwi'n meddwl bod hi'n llawer iawn haws gwrando ar rhywun dy oed di nag yw hi i wrando ar rhywun yn siarad atat ti drwy'r amser, yn enwedig pan nad yw llawer o'n athrawon ni yn perthyn i'r gymuned LHDTC+ nac yn deall ei hanes yn dda iawn.
"Ry'n ni'n eu dysgu nhw, yn hytrach na dweud 'mae'r gair yna yn ddrwg'.
Yn ôl Megan, 15, sydd hefyd yn rhan o'r grŵp, mae'r mwyafrif yn gallu cael eu darbwyllo, "ond dyw'r ymateb ddim wastad yn bositif".
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn ymwybodol bod angen llawer o addysg ar rhywun i ddad-ddysgu yr holl ragfarnau sydd gan rai."
'Angen mwy o adnoddau'
Yn ôl yr Athro EJ Renold, fe fydd cwricwlwm newydd Cymru yn helpu ysgolion i daclo bwlio - o homoffobia o drawsffobia - ond bod angen "buddsoddiad sylweddol o adnoddau" er mwyn hyfforddi athrawon a chreu amgylchedd cynhwysol.
Ychwanegodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland nad oedd cynnwys yr adroddiad yn syndod iddi am fod plant a phobl ifanc wedi rhannu eu profiadau â hi hefyd.
"Rydyn ni wedi gweld llawer mwy o ymdrech i daclo'r mater mewn ysgolion, so mae hyn yn siomedig, ond ddim yn syndod a dweud y gwir," meddai.
"Mae homoffobia mewn ysgolion yn adlewyrchu y gymuned ehangach yn anffodus."
'Cwbl annerbyniol'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "dim ond trwy sgyrsiau gonest fel hyn gellid mynd i'r afael" â'r sefyllfa.
"Mae unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol a rydyn ni'n annog unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd wedi profi'r math yma o aflonyddu i ddod ymlaen a'i gofnodi. Mae ysgolion yn lefydd lle dylai dysgwyr deimlo'n ddiogel ac yn barod i ddysgu.
"Mae'r fframwaith newydd ar gyfer Cwricwlwm Cymru, sy'n dod i rym o fis Medi, wedi ei ddatblygu er mwyn bod yn gynhwysol o bob dysgwr ac yn cynnwys Cod Addysg Cydberthynas a Rhywedd (ACR) gorfodol.
"Rydyn ni wedi comisiynu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr ysgolion er mwyn gosod y canllaw gwrth-fwlio yn sownd a darparu'r offer sydd angen arnyn nhw i daclo pob math o fwlio mewn ysgolion, gan gynnwys bwlio homoffobig.
"Mae'n flaenoriaeth dros y misoedd nesaf i gefnogi ysgolion wrth i ni gyflwyno'r ACR, a rydyn ni'n gweithio gyda gweinyddwyr a phartneriaid i ddatblygu cynllun cenedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer ACR."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefanBBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017