'Y pŵer tu ôl y syniad fod pawb yn gwneud ychydig bach'

  • Cyhoeddwyd
Helen WrightFfynhonnell y llun, Helen Wright

"Dwi'n meddwl bod gan Gymru'r arfordir mwya' prydferth yn y byd a dyna pam dwi'n glanhau traethau - dwi'n angerddol am ble dwi'n byw a dwi am edrych ar ei ôl. Ac mae'n ymwneud â'r gymuned leol hefyd - ni eisiau gofalu amdano."

Mae Helen Wright o Abertawe wedi bod yn casglu sbwriel o'r traethau lleol yn ei hardal ers blynyddoedd ac erbyn hyn yn arwain sesiynau clirio sbwriel gyda grwpiau mawr o bobl.

Mae'r sesiynau'n aml yn cychwyn gyda Helen, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe fel pennaeth derbyn myfyrwyr, yn arwain sesiwn ioga i gynhesu fyny cyn fod pawb yn mynd ati i gasglu sbwriel, gan gynnwys ei chi Codi sy'n hoffi cyfrannu at y gwaith tîm.

Dyma Helen yn esbonio sut mae gwneud gwahaniaeth drwy un weithred bach i'ch hardal a'ch hamgylchedd chi.

Dwi wedi bod yn glanhau traethau ers blynyddoedd achos dwi'n aelod o Surfers against Sewage - mae ganddyn nhw ymgyrch glanhau traethau mawr yn yr hydref a'r gwanwyn.

Tua phum mlynedd yn ôl 'nath dyn o'r enw Martin Dorey gychwyn yr ymgyrch #2minutebeachclean - 'nath e jyst ffrwydro o hynny.

Mae'n elusen enfawr nawr ac mae'r syniad o ddau funud i wneud gwahaniaeth wedi datblygu. Dwi'n hoff iawn o'r ethos yma - ac mae 'na bŵer yn y syniad fod pawb yn gwneud ychydig bach. Pe bai pawb yn cymryd dau funud bob dydd, byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Ysbrydoliaeth

Gwnaeth y syniad ysbrydoli fi i wneud rhywbeth yn fy ardal leol. Dwi'n gweithio gyferbyn â'r traeth ar gampws Singleton a dwi bob amser yn gwneud yn siŵr 'mod i'n mynd am dro amser cinio ac yn cael fy nhîm allan i lanhau'r traeth. Hyd yn oed os chi allan am 15 munud i gael awyr iach, mae'n helpu effeithlonrwydd a iechyd meddwl.

Sylweddolais nad oedd unrhyw orsafoedd glanhau traethau o gwmpas Abertawe a'r Gŵyr felly cyn y cyfnod clo es i ati i godi arian am orsaf glanhau traeth tu allan i gaffi The Secret ym Mae Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Helen Wright
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gorsafoedd glanhau traeth yn darparu bagiau sbwriel sy' wedi eu gwneud allan o hen bebyll ac sy'n gallu cael eu hailddefnyddio.

Ond doedd hwnna ddim yn ddigon ac ro'n i eisiau cael gorsafoedd glanhau traeth o amgylch Bae Abertawe a'r Gŵyr felly dw i wedi bod yn codi arian dros y blynyddoedd diwethaf ac mae 'na tua 12 o orsafoedd nawr.

Mae'n bwysig i gael y neges gyson honno ym mhob man - mae pobl yn cerdded heibio ac yn gweld fod hi'n cymryd dau funud i lanhau a gwneud gwahaniaeth.

Ffynhonnell y llun, Helen Wright

'Angel glanhau'

Dwi erbyn hyn yn 'angel glanhau traeth' - fel rhan o'r ymgyrch dau funud maen nhw'n ariannu 'angylion' sy'n gweithio yn y gymuned ac yn trefnu digwyddiadau felly dw i nawr yn gwneud sesiynau mawr i lanhau traethau unwaith y mis ac yn gweithio gyda busnesau lleol i gefnogi'r sesiynau.

Maen nhw wedi dod yn ddigwyddiadau mawr ac mae busnesau lleol yn trefnu bwyd a diod am ddim. Mae 'na gerddoriaeth ac ioga, mae pawb eisiau dod at ei gilydd ac mae'n datblygu'n ddigwyddiad cymunedol anhygoel. Mae mor hyfryd, mae wir wedi bod yn lwyddiant mawr.

Yn un o'r digwyddiadau mwyaf ar draeth Three Cliffs roedd o leiaf 200 o bobl wedi dod i lanhau'r traeth, mae'n rhyfeddol.

Ac roedd y siop leol yn rhoi diodydd ac hufen iâ am ddim i bawb.

Ffynhonnell y llun, Helen Wright

Achos mod i'n ymarfer ioga lot, dwi'n gwneud ioga ar y traeth cyn i ni ddechrau - mae'n helpu pobl i gynhesu ac mae'n rhan o'r agwedd lles o'r holl beth.

Mae'r plant sy'n dod wrth eu boddau hefyd. Os allwch chi drosglwyddo'r neges pan maen nhw'n fach fod angen gofalu amdanyn nhw eu hunain a'r blaned - mae'r cyfan yn mynd law yn llaw.

Yn aml iawn mae'r sbwriel mae pobl yn codi ar y traeth yn bethau maen nhw wedi'u rhoi yn y system yn y gorffennol fel buds cotwm a thopiau poteli plastig.

Ffynhonnell y llun, Helen Wright

Dwi'n gobeithio fod e'n helpu pobl i fod yn fwy ystyriol o'r hyn maen nhw'n defnyddio eu hunain - y pethau maen nhw'n ei brynu a'n defnyddio a sut maen nhw'n gallu bod yn fwy cynaliadwy yn eu bywyd bob dydd.

Erbyn hyn dwi'n glanhau traethau mwy na dwi'n glanhau'r tŷ - er mawr ofid i fy ngŵr! Mae'n llawer gwell gen i fod allan gyda'r ci a'r plant na yn y tŷ.

Hen blastig

Daethom o hyd i blastig lapio Tiptop yn y twyni ar draeth Llangennith gyda'r pris dal arno, sef 2d. 'Oedd e mewn cyflwr da iawn er fod e o leiaf 50 mlwydd oed. Mae hynny'n dangos pa mor hir mae plastig yn para yn yr amgylchedd heb dorri i lawr.

Ffynhonnell y llun, Helen Wright

Help ychwanegol

Mae Codi'r ci hefyd yn helpu - mae'n codi pob darn o blastig a'n rhedeg gyda fe a'i roi yn y bocs. Dwi mor falch ohoni.

Ffynhonnell y llun, Helen Wright
Disgrifiad o’r llun,

Codi'r ci

Pynciau cysylltiedig