Cladin: 'Erchyll' gorfod aros am gymorth ariannol
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng cladin yn sgil trychineb Grenfell yn teimlo fod Llywodraeth Cymru wedi "cefnu" arnyn nhw.
Mae ceisiadau ar gyfer 248 o adeiladau wedi eu gwneud am ran gyntaf cynllun cymorth y llywodraeth, fydd yn ariannu gwaith arolygu.
Dyw'r arolygu heb ddechrau eto, ac mae ymgyrchwyr yn ofni na fydd adeiladau'n dechrau cael eu hatgyweirio cyn 2023 neu 2024.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n adolygu'r ceisiadau a'u bod wedi clustnodi £375m ar gyfer diogelwch adeiladau dros y tair blynedd nesaf.
Roedd 248 o ddatganiadau o ddiddordeb hyd at 31 Rhagfyr, a gall y ceisiadau gwmpasu mwy nag un adeilad.
Mae lesddeiliad sy'n talu costau ychwanegol ac yn byw mewn fflatiau nad oes modd eu gwerthu ar ôl darganfod diffygion diogelwch tân yn rhwystredig gyda chyflymder y broses.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru fod £59m o gyllid y derbyniodd Cymru yn sgil gwariant ar atgyweirio cladin a diogelwch adeiladu yn Lloegr wedi mynd tuag at yr ymateb i Covid.
Fodd bynnag, mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi gosod cyllideb o £375m hyd at 2024/25 ar gyfer "atgyweirio blociau o fflatiau" trwy Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
Ond mae grŵp ymgyrchu Welsh Cladiators wedi dweud eu bod yn "siomedig iawn" nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gwario "ceiniog ar waith atgyweirio ar gyfer adeiladau preifat anniogel yng Nghymru, tra bod adeiladau yn Lloegr wedi derbyn arian a chwblhau gwaith".
Yn Lloegr, fe wnaeth cronfa agor ym mis Ionawr 2021 ac mae arian wedi bod ar gael er mwyn tynnu cladin oddi ar adeiladau dros 18 metr o daldra.
Fis diwethaf, fe wnaeth Gweinidog Tai y DU, Michael Gove ymestyn y gronfa i gynnwys adeiladau dros 11 metr, gan ddweud y byddai'n cymryd "pob cam sydd ei angen" er mwyn gwneud i ddatblygwyr dalu.
Y bwriad yw i gronfa Llywodraeth Cymru gynnwys adeiladau dros 11 metr, a chynnwys diffygion diogelwch tân ar wahân i gladin hefyd.
Fis Medi, fe wnaeth y llywodraeth gadarnhau fod £11m wedi cael ei wario ar waith atgyweirio ar 15 o flociau tai cymdeithasol.
Mae gweinidogion eisoes wedi gwario dros £15m ar atgyweirio blociau tai cymdeithasol, gan gynnwys cael gwared ar y cladin ACM - sydd bellach wedi'i wahardd - o dri bloc.
Mae datblygwyr a pherchnogion wedi talu - neu ynghanol talu - am gael gwared ar gladin ACM ar 12 bloc preifat yng Nghymru.
'Teimlad o banig'
Dywed Ruth Wainwright o Gaerdydd ei bod hi wedi ei "gadael i lawr" gan y llywodraeth.
Fe wnaeth Ms Wainwright, 71, symud i mewn i gynllun fflatiau Celestia ym Mae Caerdydd gyda'i gŵr John yn 2011.
Bu farw ei gŵr yn 2020 yn fuan wedi iddo ymddeol.
Mae Ms Wainwright yn byw ar ei phensiwn a'i chynilion.
Eleni, ei bil ar gyfer yswiriant a mesurau diogelwch yn ogystal â'i chyfraniad at gronfa atgyweirio yn y dyfodol ydy £16,000.
Mae Ms Wainwright wedi clywed y gallai ei bil atgyweirio gyrraedd cyfanswm o £50,000 os nad ydy hi'n cael arian gan y llywodraeth neu ddatblygwyr.
"Mae 'na deimlad o banig am beth sy'n mynd i ddigwydd, a jyst poeni am bethau, meddwl am e drwy'r amser," meddai.
"Mae e'n bryder parhaol am sut fydd hyn i gyd yn gorffen.
"Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn ymddangos i fod yn gwrando arnom ni. Dyw'r datblygwyr ddim moyn gwybod.
"Dwi'n teimlo 'mod i wir wedi cael fy ngadael i lawr gan Lywodraeth Cymru. Sai'n teimlo eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth.
"Mae fel ein bod ni'n cael ein taflu i un ochr."
Dywedodd datblygwyr fflatiau Celestia, Redrow, eu bod wedi darparu "cymorth ariannol sylweddol" a'u bod hefyd am ddarparu cyllid trwy'r Dreth Datblygwyr Adeiladau Preswyl.
'Storm berffaith'
Dywedodd rheolwr cynllun sy'n cynnwys 980 o fflatiau yng Nghaerdydd fod aros i'r llywodraeth ryddhau arian yn "erchyll".
Yn ôl Mary-Anne Bowring o Ringley, sy'n rhedeg Prospect Place, mae'r gwasanaeth tân wedi rhoi "hysbysiad gorfodi" mewn lle, sy'n galw i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr.
"Limbo yw'r peth gwaethaf mewn unrhyw argyfwng," meddai.
"Os nad wyt ti'n cydymffurfio gyda hysbysiad gorfodi, gall y gwasanaeth tân atal pobl rhag cael mewn i'w cartrefi a'u dynodi fel adeiladau anniogel.
"Mae'n storm berffaith, lle mae'r cleient yn gwneud y peth iawn mor gyflym ag y gallan nhw ond mae'r llywodraeth yn eu harafu nhw, tra bod y gwasanaeth tân yn gofyn am bethau sy'n amhosib yn y sefyllfa sydd ohoni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n credu'n gryf na ddylai pobl sy'n byw mewn adeiladau sydd wedi eu heffeithio orfod talu am atgyweirio safonau diogelwch neu reolau adeiladu sydd wedi eu torri.
"Mae ein triniaeth o ddiogelwch adeiladau'n ymestyn tu hwnt i gladin i gynnwys adraniad, rhybuddion tân, gwacáu, a systemau ataliad ym mhob adeilad 11 metr a throsodd.
"Fe wnawn ni barhau i siarad gyda datblygwyr a phwyso arnyn nhw i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu, a rhoi clod i ddatblygwyr sydd eisoes wedi neilltuo arian ar gyfer atgyweirio yng Nghymru - maen nhw wedi gosod esiampl i eraill ddilyn.
"Rydyn ni wrthi'n adolygu'r Datganiadau o Ddiddordeb gafodd eu derbyn ar gyfer Cam Un o'r Gronfa Diogelwch Adeiladau fydd yn cefnogi gwaith arolygu manwl ar adeiladau er mwyn sefydlu pa waith atgyweirio sydd ei angen ar adeiladau penodol.
"Fe wnaeth datganiad y gweinidog ym mis Rhagfyr ddangos y datblygiad sylweddol sy'n cael ei wneud ar yr agenda diogelwch adeiladau, gan gynnwys ymrwymiad o £375m yn y gyllideb ddrafft dros y tair blynedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021