Teulu yn chwilio am atebion 10 mlynedd ers i'w mab farw

  • Cyhoeddwyd
June, Jack, Owain a GrantFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

June, Jack, Owain a Grant Thomas ar wyliau yn 2011 - y llun olaf o'r pedwar gyda'i gilydd

Mae mam athletwr ifanc a fu farw'n sydyn 10 mlynedd yn ôl yn dweud mai peidio â gwybod yn union sut y bu farw ei mab yw'r rhan waethaf.

Bu farw Jack Thomas, o Oakdale yn sir Caerffili, o gyflwr y galon heb ei ganfod wrth wylio gêm Chwe Gwlad ar y teledu. Roedd yn 15 oed.

Roedd y bachgen 6'3" wedi cynrychioli Cymru yn taekwondo, roedd yn chwaraewr rygbi a chricedwr medrus, a llwyddodd i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd.

Ddydd Sadwrn, union 10 mlynedd ers marwolaeth Jack, cafodd yr un gêm - Cymru v Yr Alban - ei chynnal yng Nghaerdydd.

Fe nododd Undeb Rygbi Cymru ei farwolaeth yn Stadiwm Principality yn ystod hanner amser.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n anoddach y tro yma achos mae popeth yr un peth," meddai June Thomas, mam Jack.

"Mae fel déjà vu ac nid yw hynny'n rhywbeth rydych chi ei eisiau."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd gan Jack unrhyw broblemau meddygol amlwg pan fu farw

Mae Mrs Thomas yn cofio sut y derbyniodd alwad ffôn yn ystod hanner amser ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw 10 mlynedd yn ôl, i ddweud bod Jack yn anymwybodol.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans lle mynnodd ei rieni fod wrth ei wely wrth i staff weithio'n ddiflino i'w ddeffro.

"Ro'n i'n siarad ag ef yn dweud wrtho am ymladd tra bod CPR yn mynd ymlaen," meddai Mrs Thomas.

"Roeddwn i'n dweud wrtho am ddeffro, 'profa nhw'n anghywir', a dechreuais i hyd yn oed ganu You'll Never Walk Alone iddo am ei fod yn gefnogwr brwd o Lerpwl. Ond roedd e wedi mynd."

'Dim byd naturiol am farwolaeth Jack'

Yn ei gwest, dyfarnodd y crwner bod Jack wedi marw o achosion naturiol ond dywedodd nad oedd modd dod o hyd i'r achos penodol.

Mae ei dystysgrif marwolaeth yn rhestru 'arhythmia posib' fel achos marwolaeth.

"Dywedodd y post-mortem fod Jack wedi marw o achosion naturiol ond does dim byd naturiol am fachgen ffit 15 oed yn marw tra'n eistedd ar soffa," meddai Mrs Thomas.

Ers marwolaeth Jack, mae ei deulu wedi ymgyrchu er cof amdano i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau'r galon sydd heb gael diagnosis.

Mae tua 1,500 o bobl ifanc wedi elwa o sesiynau sgrinio calon am ddim - a gynhelir gan Gronfa Goffa Jack Thomas a'r elusen Cardiac Risk in the Young (CRY).

Ac maen nhw wedi profi'n werth chweil.

Daeth Ellie Davies, a oedd yn 14 ar y pryd ac yn ddisgybl yn yr un ysgol â Jack, i wybod fod ganddi dwll yn ei chalon a chafodd ddiagnosis o syndrom Wolff-Parkinson-White ar ôl iddo gael ei ganfod mewn sesiwn sgrinio a drefnwyd gan Mrs Thomas.

Mewn achos arall, bu'n rhaid i aelod ifanc o dîm pêl-droed dan 15 oed lleol gael llawdriniaeth ar ei galon ar ôl i'r un cyflwr gael ei godi mewn digwyddiad sgrinio.

"Rydyn ni'n sylwi ar gyflwr yn rhywun bron bob sesiwn," meddai Mrs Thomas.

"Yn amlwg, mae'n teimlo fel rydym wedi achub rhywun ond yna dwi'n meddwl 'buaswn i'n hoffi pe bawn i wedi gwybod am hyn pan oedd Jack yma'."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu a ffrindiau Jack yn parhau i godi arian yn gyson er cof amdano

Ers y cyntaf yn 2014, mae Mrs Thomas yn parhau i drefnu sesiynau sgrinio calon ddwywaith y flwyddyn - am ddim.

"Byddai'n gas gen i feddwl bod yna deulu allan yna sydd â phlentyn â chyflwr ar y galon heb ei ddiagnosio a'u bod nhw methu dod i gael prawf sgrinio oherwydd nad ydyn nhw'n gallu ei fforddio," meddai.

"Dyna pam ei bod yn bwysig i mi ddarparu'r sesiynau sgrinio yma am ddim. Does dim ffordd y byddwn i'n codi tâl ac ni fydd hynny byth yn newid."

Ym mis Medi'r llynedd, mae dros £118,000 wedi'i godi gan Gronfa Goffa Jack Thomas, tra bod bron i £200,000 wedi'i godi tuag at ymgyrch diffibriliwr Jack's Appeal, elusen arall sy'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

O ganlyniad, mae mwy na 100 o ddiffibrilwyr wedi'u gosod hyd yma mewn ysgolion a chlybiau chwaraeon, yn bennaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda 100 neu fwy ohonyn nhw wedi'u gosod mewn mannau cyhoeddus yn yr ardal.

Achubodd un o'r diffibrilwyr yma fywyd rhiant a gafodd ataliad ar y galon yn ystod noson rieni.

Ers hynny mae Mrs Thomas wedi ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei hymdrechion codi arian.

Mae hi hefyd wedi siarad yn y Senedd i annog gwleidyddion i edrych ar gyfraith yn enw Jack a fyddai'n gwneud diffibrilwyr yn orfodol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack Thomas ar 12 Chwefror 2012

Yn y cyfamser, mae'r teulu'n dal i obeithio y bydd Ysbyty St George's yn Llundain, sy'n arbenigo mewn cardioleg, yn rhoi atebion iddyn nhw am farwolaeth Jack.

"Rydyn ni'n mynd i lawr yr ochr genetig i weld a allwn ni ddarganfod unrhyw beth," meddai Mrs Thomas, sydd bellach yn codi arian yn llawn amser.

"Pan mae rhywun yn gofyn sut bu farw Jack rwy'n dweud: 'Dydw i ddim yn gwybod'. Does gen i ddim byd - dyna'r darn gwaethaf, does dim rheswm.

"Ond dwi'n gwybod nad yw'n 'naturiol' - fe ddigwyddodd rhywbeth ac mae'r cardiolegwyr yn gwybod ei fod wedi digwydd ond dydyn nhw ddim yn gwybod pam a dyma lle mae'r ymchwil yn dod i mewn.

"'Da ni wedi bod yn trio cael atebion ers 10 mlynedd. Fe aethon ni trwy lot o brofion - [fy mab] Owain dwywaith y flwyddyn tan ei fod yn 18 ac yna un arall wedyn - ond rydan ni gyd yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Grant a June Thomas gyda'u mab Owain, sydd bellach yn 22

Dywed Mrs Thomas fod eu mab ieuengaf, Owain, sydd bellach yn byw ac yn gweithio i ffwrdd gyda'r Awyrlu Brenhinol, wedi bod yn gefn mawr iddi hi a Grant.

"Wrth i Owain dyfu mae e wedi troi mewn i'w frawd," meddai. "Ei ystumiau - mae'n gallu dynwared Jac, ry'n ni yn ein dyblau.

"Rydyn ni'n cadw atgof Jack yn fyw yn y tŷ, y chwerthin yn ogystal â'r crio, wrth gwrs, ond mae Owain jest yn tonic.

"Pan fu farw Jack fe wnaeth fy myd chwalu i ddarnau o'm cwmpas ond tynnodd llaw plentyn 12 oed fi allan o'r rwbel - fe yw ein cryfder."