'Ail-ddiffinio' canol Caerfyrddin wedi colled Debenhams
- Cyhoeddwyd
Beth sydd yn digwydd pan mae cwmni enfawr yn tynnu allan o ganol tref, gan adael gwagle o 6,000 metr sgwâr?
Dyna'n union ddigwyddodd yng Nghaerfyrddin, pan benderfynodd cwmni Debenhams i gau ei siop enfawr yng nghanol y dref ym mis Mai 2021.
Yn ôl Archwilio Cymru, mae un o bob saith o siopau'r stryd fawr yng Nghymru yn wag erbyn hyn.
Debenhams oedd conglfaen datblygiad Rhodfa Santes Catrin a agorodd yn 2010 yn sgil buddsoddiad o £74m.
Nawr, mae'r cyngor sir, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant wedi penderfynu prynu'r adeilad er mwyn ei ail-ddatblygu at bwrpas cwbl newydd.
Fe fydd £15m yn dod o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, ynghyd a £3.5m o goffrau'r cyngor, i ddatblygu canolfan aml-bwrpas fydd yn cyfuno gwasanaethau'r cyngor, iechyd, llesiant dysgu gydol oes a diwylliant.
Yn ôl arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole, fe fydd hi'n amhosib llenwi'r gofod gyda siop arall o fyd manwerthu: "Mae'n ofod mor fawr, sylweddol, yn eistedd fel mae e yng nghanol y dref.
"Mae'n rhaid ystyried sut y gallwn ni gamu mewn i wneud y gwahaniaeth hynny mewn adeilad sydd mor bwysig a chanolog i ganol y dref.
"Daw siop ddim nôl yma, go debyg, a hefyd mae rhaid ail-ddiffinio canol ein trefi ni. Y bwriad yw defnyddio'r gofod mawr yma mewn ffordd aml-bwrpas, gyda phartneriaid.
"O'n rhan ni fel cyngor, os ydy pobl eisiau cymorth gyda iechyd a gofal cymdeithasol, dyma'r lle i ddod."
Mae angen "ymyrraeth radical" i achub canol trefi, yn ôl y Dirprwy Weinidog Dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, gan annog cydweithio, dychymyg ac "arweinyddiaeth uchelgeisiol".
"Mae'r ffordd ni'n siopa wedi newid am byth, dwi'n siŵr. Mae'n rhaid i ni ailfeddwl pwrpas canol y dref.
"Dwi'n gwybod fod pobl eisiau gweld yr hen siopau yn dod nôl ond dwi ddim yn gallu gweld e. Beth ni eisiau gweld, dwi'n credu yw pwrpas newydd.
"Mae'n rhaid i ni feddwl sut i gael gwasanaethau addysg a iechyd mewn i ganol y dref, i hybu pobl i ddod i fewn."
Yn hen siop Debenhams, Caerfyrddin, fe fydd yna ganolfan twristiaeth, campfa newydd sbon, amgueddfa, a gofod ar gyfer dysgu gydol oes.
Yn ôl Dr Edward Thomas Jones, darlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor, mae pandemig Covid-19 wedi cyflymu tueddiadau oedd eisoes ar waith ar y stryd fawr.
Mae'n croesawu'r pwyslais ar ddarganfod defnydd newydd i siopau gwag: "Cyn y pandemig, roedd y stryd fawr yn newid, a beth 'da ni wedi gweld dros y ddwy flynedd diwethaf yw bod y trends yma wedi cyflymu.
"Dwi'n croesawu beth mae Llywodraeth Cymru yn trio 'neud. Newid y stryd fawr i fod yn rhywle ble 'da ni yn cael profiadau. Lle 'da ni'n mynd i gydweithio â phobl eraill, yn hytrach na dim ond lle i fynd i siopa."
Fe fydd Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, yn bartneriaid i'r cynllun yng Nghaerfyrddin.
Mae Gwilym Dyfri Jones yn brofost yn y brifysgol: "Mae'r Brifysgol yn falch iawn i fod yn rhan o glymblaid o sefydliadau sydd yn datblygu'r cysyniad yma o ganolfan dysgu gydol oes yng nghanol tref Caerfyrddin, fel ein bod ni yn adfywio y dref yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
"Mae yna gyfle i ymateb i anghenion diwydiannau a busnesau lleol fel bod y gweithlu presennol yn cael eu huwchraddio ond hefyd cyflwyno sgiliau newydd i'r ardal i ddenu mwy o waith i'r ardal hon."
Mae'n bosib hefyd y bydd gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu yn uniongyrchol o'r ganolfan newydd.
Rhian Matthews yw Cyfarwyddwr Systemau Integredig Sir Gaerfyrddin ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
"Ry' ni yn edrych ar ddarparu gwasanaethau iechyd o'r ganolfan ac yn ystyried pethau fel clinigau ar gyfer cleifion allanol."
Mae disgwyl i'r Hwb newydd yng Nghaerfyrddin fod wedi ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020