Marchnad Bangor yn 'hollbwysig i adfer stryd fawr' y ddinas

  • Cyhoeddwyd
Dywed Iwan Williams fod yr agoriad yn amseru da cyn y Nadolig
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iwan Williams fod yr agoriad yn amseru da cyn y Nadolig

Mae marchnad y dref ym Mangor wedi ailagor ddydd Gwener am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.

Roedd effeithiau Storm Arwen yn golygu nad oedd modd agor fel y bwriadwyd ddydd Gwener diwethaf.

Dywedodd Iwan Williams, cyfarwyddwr dinesig Bangor, bod y farchnad yn "hollbwysig i adfer y stryd fawr".

"Ma' pobl Bangor wedi aros tipyn am ddychweliad y farchnad," meddai ar Dros Frecwast.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 20 o stondinau ar agor ddydd Gwener

"Does dim dwywaith ma' stryd fawr Bangor wedi profi heriau mawr sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha', yn bennaf gyda Debenhams yn cau wrth gwrs.

"Ond wedi dweud hynny, mae 'na sawl busnes wedi goroesi, ma' ambell fusnes wedi agor ers dechrau'r pandemig a mae 'na fwrlwm yn dechre'n ara' bach ar y stryd fawr."

Dywedodd fod caffi cymunedol wedi agor, safle 'escape rooms' ac "wrth gwrs ma' cael marchnad bywiog, cynaliadwy yn hollbwysig i adfer y stryd fawr".

"Newyddion da a chalonogol ar ôl cyfnod mor anodd," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd Debenhams eu siop ym Mangor ym mis Mai eleni

Roedd y stryd fawr yn brysurach na'r arfer ddydd Gwener, rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr, yn ôl rhai o'r ymwelwyr.

"Ma' isio wbath yma," meddai Maureen Evans. "Ma' Bangor wedi mynd yn ofnadwy - ma'r siopa i gyd wedi cau [yn y canol].

"Ma' bob dim i fyny'r dre lle ma' Tesco a B&Q. O'n i'm yn gw'bod bod 'na [farchnad] tan i mi ddod off y bws. Gobeithio ddaw 'na fwy yma eto."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maureen Evans yn un o'r rhai fentrodd i'r canol ddydd Gwener

Dywedodd Olwen Parry: "Mae'n braf ei chael hi'n ôl. Gobeithio nawn nhw'n dda. Does 'na ddim gymaint [o stondinwyr] ag oedd 'na o'r blaen - gobeithio ddaw 'na fwy."

Ychwanegodd Linda Edwards fod y farchnad yn ychwanegiad "pwysig" i'r stryd fawr yn y ddinas.

"Mae 'na fwy o bobl i weld o gwmpas," meddai. "'Da ni wedi bod yn weddol aml yn ddiweddar a mae 'na fwy o bobl [heddiw] na sy' wedi bod."

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol