'Cafodd Mam ei llofruddio oherwydd diffyg gwasanaethau'

  • Cyhoeddwyd
Helen BannisterFfynhonnell y llun, Stacey Harris
Disgrifiad o’r llun,

Lladdwyd Helen Bannister gan ei phartner ym mis Rhagfyr 2020

Pan gafodd Helen Bannister ei llofruddio gan ei phartner, dywedodd ei merch iddi golli ei mam a'i ffrind gorau.

Cafodd ei lladd gan Jonathan Campbell ym mis Rhagfyr 2020 - roedd ef ar brawf ac roedd ganddo hanes o drais yn erbyn menywod.

Dywedodd Stacey Harris, merch Helen, fod cyfnod clo wedi gwneud pethau "100% yn waeth" i'w mam gan na allai gael mynediad at wasanaethau cymorth i gael help.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) y bydd gwasanaethau yn cael hwb o £185m.

Roedd Campbell allan o'r carchar ar drwydded am ymosod ar weithiwr brys pan laddodd Ms Bannister, 48, o Abertawe, mam i ddwy ferch a chanddi bump o wyrion ac wyresau.

Dedfrydwyd Campbell i oes yn y carchar, gydag o leiaf 18 mlynedd dan glo, ar 17 Mai 2021 ac mae'n un o wyth o ddynion sydd wedi cyfaddef neu wedi eu cael yn euog o ladd menyw yng Nghymru yn ystod pandemig Covid.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Jayne Davies (chwith) gyda'i mam Helen Bannister

Dywedodd Ms Harris fod cyfnod clo yn cynyddu'r perygl i ddioddefwyr trais domestig.

"Roedd y camdrinwyr yn gwybod nad oedd yna wasanaethau, doedd dim help oherwydd bod popeth dan glo," meddai.

"Aeth mam at y cyfreithwyr, gwnaeth ei gorau i ddianc oddi wrtho ac fe'i gwnaeth ef yn waeth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Stacey Harris y dylai ei mam fod wedi cael gwybod pan gafodd Campbell ei ryddhau ar drwydded

Roedd Campbell, gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe, wedi bod yn sarhaus i Ms Bannister am nifer o flynyddoedd ac roedd ganddo euogfarnau blaenorol am ymosod arni hi a phartner arall.

Dywedodd Ms Harris ei bod yn meddwl y dylai ei mam fod wedi cael gwybod pan gafodd Campbell ei ryddhau o'r carchar.

Dywedodd: "Doedd hi ddim yn cael gwybod bob amser pan oedd yn dod allan o'r carchar, byddai ef yn ei ffonio a dweud wrthi 'dwi'n dod allan' ... y peth nesaf mae ar garreg ei drws oherwydd ei fod wedi cael ei adael allan yn gynnar.

"Mae'r nifer o weithiau y cafodd ei adael allan ar drwydded yn anghredadwy a dwi'n credu bod hynny'n rhan o'r rheswm pam nad yw fy Mam yma heddiw."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Jonathan Campbell o dan glo am o leiaf 18 mlynedd ar ôl iddo gyfaddef llofruddio Helen Bannister

Mae'r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr yn golygu y gellir dweud wrth ddioddefwyr ymlaen llaw am ryddhau troseddwr, ond oherwydd bod Campbell yn y carchar am drosedd yn erbyn gweithiwr gwasanaeth brys, ni ddywedwyd wrth Ms Bannister ei fod yn gadael y carchar.

Mae marwolaeth Ms Bannister ar hyn o bryd yn destun adolygiad dynladdiad domestig ac adolygiad gan y bwrdd parôl.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu a ffrindiau Helen Bannister.

"Mae ein Deddf Cam-drin Domestig yn trawsnewid yr ymateb i'r drosedd erchyll hon - gan roi mwy o bwerau i'r heddlu a'r llysoedd ddiogelu dioddefwyr rhag niwed uniongyrchol tra'n gorfodi troseddwyr i gymryd camau i newid eu hymddygiad.

"Ar yr un pryd rydym yn rhoi hwb o £185m y flwyddyn i'r gwasanaethau i ddioddefwyr fel nad oes neb yn cael ei adael i ddioddef ar ei ben ei hun."

Ffynhonnell y llun, Stacey Harris
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stacey Harris mai ei mam oedd ei ffrind gorau hefyd

Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi galw trais domestig yn "bandemig cysgodol" sydd wedi digwydd ochr yn ochr â'r coronafeirws.

Dywedodd yr elusen er na wnaeth Covid achosi cam-drin domestig na thrais yn erbyn menywod, fe allai cyfyngiadau "yn sicr fod wedi gwaethygu sefyllfaoedd a oedd eisoes yn ymosodol neu'n wenwynig".

"Rydyn ni'n gweld, wrth i ni symud allan o'r cloeon, fwy a mwy o fenywod yn estyn allan ac angen cael mynediad at y gefnogaeth honno."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar eu strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Daeth yr ymgynghoriad mewn ymateb i achosion proffil uchel Sarah Everard a Sabina Nessa ac mae'n edrych ar fynd i'r afael â thrais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Helen Bannister

Dywedodd Ms Harris ei bod yn gobeithio y byddai stori ei mam yn annog eraill i geisio cymorth.

"Dydw i ddim eisiau i neb fynd trwy'r hyn rydw i a fy nheulu wedi mynd drwyddo, mae wedi bod yn anodd iawn.

"Rwy'n dal i feddwl fy mod yn mynd i gerdded i mewn i dŷ fy Mam ac mae hi'n mynd i fod yn eistedd yno gyda phaned."

Gallwch weld mwy am y stori hon ar Wales Live, BBC One Wales am 22:30 ddydd Mercher ac ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig