Cwpan Pinatar: Cymru 3-1 Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Rhwydodd Jess Fishlock ddwywaith wrth arwain merched Cymru i fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban brynhawn Mercher.
Yn rhan o Gwpan Pinatar, sy'n cael ei chwarae'n Sbaen, golygai fod Cymru wedi sicrhau lle yn y rownd gynderfynol.
Doedd hi ddim yn gychwyn delfrydol i'r cochion wrth ildio gôl yn hwyr yn yr hanner cyntaf drwy beniad Lana Clelland.
Ond sicrhaodd gic o'r smotyn Fishlock fod y ddau dîm yn mynd fewn i'r egwyl yn gyfartal.
Eleni yw ymddangosiad gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth, gyda'r Alban yn ddeiliaid y gwpan yn dilyn eu buddugoliaeth yn 2020.
Ond roedd y Dreigiau ar y blaen yn fuan yr ail hanner, diolch eto i Fishlock, cyn i Tash Harding gwblhau'r sgorio wrth ddarganfod gefn y rhwyd o ongl dynn wedi 61 munud.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llwyddodd Gemma Grainger hefyd i ddod a sawl eilydd ymlaen wrth i'r gêm ddod i ddiweddglo yng ngwres Sbaen, gyda munudau gwerthfawr ar y maes i Megan Wynne ac Angharad James.
Ond hefyd yn gwneud ymddangosiad hwyr ar y maes, llwyddodd Helen Ward i ddod yn agosach at y 100 drwy ennill cap rhif 98 dros ei gwlad.
Bydd Cymru nawr yn wynebu un ai Slofacia neu Wlad Belg yn y rownd gynderfynol nos Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022