'Rhwystredig' gyda'r nifer sy'n cael mynd i amlosgfa

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Amlosgfa Parc Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

32 o bobl sy'n cael bod yn amlosgfa Parc Gwyn ar hyn o bryd

Mae yna alwadau i ganiatáu mwy o bobl i allu mynd i wasanaeth angladd yn yr unig amlosgfa yn Sir Benfro.

Dim ond 32 o bobl gaiff fod yn Amlosgfa Parc Gwyn ger Arberth ar unrhyw adeg, sy'n dipyn llai nac mewn amlosgfeydd eraill ar draws Cymru.

Yn ôl Cyngor Sir Penfro, maint y capel yw'r rheswm am hynny a'r bwriad yw cynyddu'r niferoedd yn raddol, ond does dim dyddiad wedi'i roi ar gyfer gwneud hynny eto.

"Sa i'n gweud bod y pandemig 'di mynd i unman, ond ma' Cymru ar lefel sero, allen ni byth â mynd yn is na 'na, felly ma' lot o bobl a'r cyhoedd ffili deall pam nad yw Parc Gwyn yn ôl i gael yr ystafell yn llawn," meddai Matthew Jones, trefnydd angladdau lleol, wrth Newyddion S4C.

Un person wedi gorfod sefyll tu fas

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n sefyllfa "lletchwith iawn", yn ôl Matthew Jones

Er mai 32 sy'n cael bod ym Mharc Gwyn ar hyn o bryd, cyn y pandemig roedd 56 yn cael eistedd tu fewn a hyd at 150 yn cael bod yno i gyd os byddai'r gweddill yn sefyll.

"Ni wedi cael angladdau ble ma' 33 wedi troi lan, a ma' un person yn gorfod bod tu fas. Os oes teulu mawr ma'r wyrion falle'n gorfod bod tu fas, neu ma'r bobl sy'n cludo'r arch fewn i'r amlosgfa - ma' rheini wedyn yn gorfod cerdded mas achos does dim lle i nhw fod fewn," meddai Matthew Jones.

"Mae'n sefyllfa lletchwith iawn. Ma' pobl yn gweld cystadleuaeth y Chwe Gwlad 'mlaen ar hyn o bryd ble ma'r tafarndai yn llawn.

"Ma' hyd yn oed ble ma' pobl yn mynd yn ôl i gael te angladd ar ôl yr angladd, wel ma' unrhyw un yn gallu mynd i fan 'ny, ond 'mond 32 sy'n gallu mynd i'r angladd.

"Ma' pobl yn rhwystredig iawn gyda'r sefyllfa 'na ble ma' mwy yn gallu mynd i gael bwyd na' sy'n gallu mynd i dalu teyrnged mewn angladd."

Disgrifiad o’r llun,

Cyn y pandemig, roedd 150 o bobl yn gallu ymgasglu yn yr amlosgfa

O ran rhai o'r siroedd eraill, mae 100 yn cael ymgynnull yn amlosgfa Pentrebychan yn Wrecsam ac yn Amlosgfa Gwent mae 120 o bobl yn cael ymgasglu.

Yn y ddwy amlosgfa gyhoeddus yng Nghaerdydd, mae 160 yn cael mynd i Gapel y Wenallt a 60 i Gapel Briwnant.

Yn amlosgfa Bangor yng Ngwynedd, 70 o bobl sy'n cael bod yno, ac ym Mae Colwyn, yng Nghonwy, mae'n bosib i 100 fynd i wasanaeth.

'Rhwystredig iawn'

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n anodd i deuluoedd wneud trefniadau yn y sefyllfa sydd ohoni, meddai Huw George

Yn ôl un gweinidog lleol, y "diffyg cyfathrebu" gan y cyngor yw'r broblem fwyaf.

"Ma'r staff yma yn arbennig, ma' nhw di gweithio yn arbennig yn ystod y ddwy flynedd," meddai Huw George.

"Ond y penderfyniadau sy'n dod o neuadd y Sir, ma' nhw'n cael eu cyhoeddi nos Wener ar gyfer y dydd Llun, a ma' teuluoedd yn ffili trefnu teulu i deithio o bant ac yn blaen, a'r diffyg cyfathrebu sy'n rhwystredig iawn."

Wrth bwysleisio eu bod nhw'n asesu'r rheolau, ychwanegodd Cyngor Sir Penfro, bod modd i bobl sefyll y tu allan i'r amlosgfa adeg y gwasanaeth os nad oes lle tu fewn, gyda sgriniau a seinyddion ar gael i wylio a gwrando ar y gwasanaeth.