Pobl yn cael eu hachub mewn cwch yn Llandinam
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ac fe gafodd saith o bobl yn Llandinam eu hachub gan gwch wedi i Afon Hafren orlifo yn ystod Storm Franklin, medd cynghorydd.
Dywedodd Karl Lewis fod un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty er mwyn bod yn ofalus.
Mae nifer o rybuddion gwynt a llifogydd mewn grym wrth i Gymru wynebu tywydd garw ddydd Sul a ddydd Llun.
Fe wnaeth Storm Franklin daro Cymru ychydig ddiwrnodau ar ôl difrod Storm Eunice.
Roedd miloedd o gartrefi heb drydan dros y penwythnos yn sgil gwyntoedd o 92mya, a nos Sul roedd 800 yn parhau heb drydan.
Yn ôl Mr Lewis, llifodd dwr i bedwar o dai yn Llandinam wedi i law trwm achosi i'r afon orlifo am tua 16:00 ddydd Sul.
Dywedodd Mr Lewis y bobl a gafodd eu hachub yn "oedrannus a bregus".
"Mae lefelau'r afon yn gostwng nawr, ond nid oes modd croesi'r A470 o hyd."
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod dros 20 o rybuddion llifogydd mewn grym a bod y nifer yn debygol o godi, ac fe wnaeth yr Afon Hafren a'r Afon Efyrnwy gofnodi eu lefelau uchaf erioed ym Mhowys.
Mae rhybudd melyn ar gyfer gwynt hefyd mewn grym tan 13:00 ddydd Llun.
Brynhawn Sul roedd gwasanaeth Rhybuddion Teithio Sir Gâr yn hysbysu bod y ffordd rhwng Saron a Henllan ar gau wedi i goeden gwympo a nodwyd hefyd bod coeden wedi cau'r ffordd yr A4066 ger Pentywyn.
Roedd yna neges bellach gan Heddlu Dyfed-Powys bod yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig ar gau a ffordd yr A458 rhwng Llanfair Caereinion a Chyfronnydd oherwydd llifogydd.
Fe ddisgrifiodd Sara Gibson amodau gyrru anodd ar yr A458 ym Mhowys wrth i'r afon godi.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander o Gyngor Sir Powys nos Sul ei bod hi'n annog pobl i beidio â gyrru, a'i bod hi erioed wedi gweld y fath lifogydd yn Nyffryn Banw, sydd rhwng Llanerfyl a Llanfair Caereinion.
Roedd hi'n tybio y byddai'r holl ffyrdd mewn i Feifod ynghau yn fuan, gan ychwanegu ei bod wedi clywed adroddiadau o dai dan ddŵr.
Ychwanegodd llefarydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru y gellid disgwyl llifogydd o gwmpas rhannau helaeth o arfordir Cymru ac y gallai nifer o afonydd eraill orlifo - yn eu plith yr Afon Dyfrdwy yn Wrecsam a'r Afon Wysg yng Nghasnewydd a Sir Fynwy.
Disgwyl gwyntoedd o hyd at 70mya
Fe ddaeth rhybudd melyn ar gyfer gwynt i rym am hanner dydd yng Nghymru.
Mae'r rhybudd tywydd diweddaraf yn para tan 13:00 ddydd Llun gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gellid disgwyl gwyntoedd o hyd at 70mya.
Rhybuddir y gall y tywydd effeithio ar rai ffyrdd a rheilffyrdd gan amharu ar gynlluniau teithio.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi newid eu hamserlenni yn sgil y tywydd a dywedodd llefarydd y bydd y newidiadau hynny yn parhau yn sgil y difrod a achoswyd gan Storm Eunice.
Mae'r rhybuddion tywydd diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, rhybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, a'r holl fanylion i deithwyr ar safleoedd Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol a Thraffig Cymru, dolen allanol.
Mae nifer o ffyrdd yn parhau ar gau o ganlyniad i gwymp coed, rhannau o adeiladau a cheblau trydan wedi Storm Eunice - yn eu plith ffordd Goetre Fach yng Nghilâ, Abertawe wedi i deils gael eu chwythu o do capel.
Mae Pont Hafren yr M48 yn Sir Fynwy ar gau ddydd Sul ac mae Pont Britannia yn y Gogledd ar gau i gerbydau uchel.
Yng Nghaerdydd fe wnaeth coeden gwympo ar ben tŷ ar Heol y Gadeirlan ger canol y ddinas.
Dywedodd Yoko Hargreaves, 23, sydd yn byw mewn fflat gafodd ei daro gan y goeden: "Roedden ni wedi bod yn edrych mas trwy'r ffenest yn rheolaidd oherwydd difrifoldeb y tywydd.
"Yr eiliad nesaf, fe welon ni goeden enfawr yn cwympo mewn i'r adeilad. 'Naeth e ddigwydd mewn llai na 30 eiliad."
Nid oedd unrhyw niwed difrifol i unrhyw beth yn y fflat, meddai, ond roedd difrod i adeilad eu cymdogion.
"Mae ffens ein cymdogion wedi cael ei blygu yn hanner gan rym y goeden, gyda nifer o'u ffenestri wedi eu torri.
"Dw i'n credu y gwnaethon ni gymryd fod y storm ar ei waethaf ddydd Gwener, felly roedd hi'n annisgwyl iawn i gael coeden yn cwympo ar yr adeilad heddiw. Roedden ni'n cadw meddwl am gymaint yn waeth y gallai hi wedi bod petai rhywun wedi bod o dan y goeden."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022