Cwest Emiliano Sala: Gofyn i'r peilot beidio hedfan 6 mis cynt
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog yr awyren a blymiodd i'r môr gan ladd y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi dweud wrth ei gwest ei bod hi wedi gofyn yn benodol i David Ibbotson beidio â'i hedfan chwe mis ynghynt.
Dywedodd Fay Keely nad oedd hi'n "hyderus" o allu Mr Ibbotson i hedfan yr awyren na'i "ofal" ohoni, ar ôl dod i wybod ei fod wedi torri dwy reol gofod awyr mewn un diwrnod.
Bu farw'r Archentwr 28 oed pan darodd y Piper Malibu i mewn i Fôr Udd ger Guernsey ar 21 Ionawr 2019 wrth hedfan o Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd.
Cafwyd hyd i'w gorff yn gynnar ym mis Chwefror 2019, ond nid yw corff y peilot Mr Ibbotson, 59, erioed wedi'i ganfod.
Clywodd cwest yn Llys y Crwner Bournemouth fod Ms Keely wedi prynu'r Piper Malibu ym mis Awst 2015.
Roedd yr awyren wedi'i chofrestru gydag awdurdodau hedfan yr Unol Daleithiau trwy Southern Aircraft Consultancy Incorporated - a oedd, at ddibenion y cofrestriad yma, yn berchnogion yr awyren.
Roedd cwmni teuluol Ms Keely, Cool Flourish Limited, wedi'i gofrestru fel gweithredwr yr awyren.
Clywodd rheithgor y cwest yn gynharach fod y gweithredwr yn cael ei ystyried fel "y person sy'n rheoli'r awyren o ddydd i ddydd".
Ond dywedodd Ms Keely na welodd hi'r awyren ar ôl ei phrynu ac mai'r ymgynghorydd awyrennau David Henderson oedd yn gyfrifol am ei rheoli o ddydd i ddydd.
Cafwyd Henderson, sy'n 67 oed ac o Sir Efrog, yn euog y llynedd o beryglu diogelwch awyren a'i garcharu am 18 mis.
'Doeddwn i ddim yn hapus'
Roedd gan Ms Keely drefniant anffurfiol gyda Mr Henderson, lle byddai'n rheoli'r awyren ar ei rhan a sicrhau bod y gwaith cynnal a chadw yn cael ei gadw'n gyfredol.
Byddai'n goruchwylio llogi'r awyren i eraill hefyd ac yn sicrhau bod unrhyw waith atgyweirio yr oedd ei angen yn cael ei wneud.
Clywodd y rheithgor nad oedd y Piper Malibu yn cael ei defnyddio am gyfnod rhwng diwedd 2017 a mis Ionawr 2018 er mwyn i waith atgyweirio a chynnal a chadw "sylweddol" gael ei wneud, a gostiodd tua £20,000.
Dywedodd Ms Keely iddi gysylltu â Mr Henderson ar ôl derbyn hysbysiad o ddau doriad o reolau gofod awyr gan Mr Ibbotson yn gynnar ym mis Gorffennaf 2018.
"Doeddwn i ddim yn hapus a ddim yn hyderus bod yr awyren o fewn gallu Mr Ibbotson... dywedais na ddylai fod yn ei hedfan," meddai.
Dim ond ar ôl y ddamwain ym mis Ionawr 2019 y daeth Ms Keely i wybod nad oedd Mr Ibbotson yn beilot masnachol, meddai.
Pan holodd y crwner a oedd hi'n ymwybodol o unrhyw ffioedd a dalwyd am yr hediad yn ymwneud ag Emiliano Sala, atebodd Ms Keely: "Nid oeddwn yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau mewn perthynas â'r hediad honno o gwbl."
Mae'r cwest yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022