Cwest Emiliano Sala: 'Fydd y boen byth yn diflannu,' medd ei fam

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a'i fam Mercedes, y tro diwethaf iddi weld ei mab yn fywFfynhonnell y llun, Mercedes Taffarel
Disgrifiad o’r llun,

Emiliano Sala a'i fam Mercedes, y tro diwethaf iddi weld ei mab yn fyw

Mae mam y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi dweud wrth y cwest i'w farwolaeth na fydd y boen o'i golli byth yn diflannu a'i bod eisiau "cyfiawnder".

Cafodd datganiad Mercedes Taffarel ei ddarllen i'r rheithgor ar ddiwrnod cynta'r cwest yn Llys y Crwner Bournemouth ddydd Mawrth.

Bu farw'r pêl-droediwr mewn damwain awyren ym mis Ionawr 2019 yn 28 oed.

Roedd yn teithio o Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd ar ôl cytuno i ymuno â chlwb pêl-droed y brifddinas.

Yn natganiad ei fam i'r llys cafodd ei ddisgrifio fel fel ffigwr tadol i weddill y teulu, un a oedd yn eu cynnal yn ariannol ac yn helpu gyda phenderfyniadau busnes.

"Roedd e wastad yn hawddgar ac yn barod i helpu," meddai ei fam. "Roedd e'n teimlo cyfrifoldeb i ofalu amdanom ni."

'Galw ei enw'

Clywodd y cwest nad oedd y teulu'n poeni gormod pan doedd dim modd cael gafael arno ar 21 Ionawr 2019.

Dywedodd ei fam iddi siarad ag ef y diwrnod cynt a fod ganddo lawer o bethau i'w gwneud cyn gadael Nantes.

Roedd Sala wedi dweud wrthi y byddai'n cysylltu â nhw ar ôl cyrraedd Caerdydd ac roedd hi'n meddwl efallai ei fod wedi blino'n llwyr ar ôl teithio.

Clywodd y rheithgor fod y sefyllfa wedi mynd yn drech na'r teulu ar ôl deall fod yr awyren wedi mynd ar goll.

"Roedden i mewn gwewyr, heb unrhyw newyddion amdano", meddai Mercedes Taffarel.

Clywodd y rheithgor iddyn nhw fynd i Ynysoedd y Sianel, gan gerdded ar hyd yr arfordir yn galw ei enw yn y gobaith o'i glywed yn ateb.

Ar ôl i'r chwilio swyddogol am yr awyren ddod i ben fe aeth y teulu ati i logi cwmni preifat.

Arweiniodd hynny, ynghyd ag archwiliad pellach gan y corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr, at ddod o hyd i'w gorff ar 6 Chwefror.

Ffynhonnell y llun, Emiliano Sala/Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gwest Emiliano Sala bara am bum wythnos

"Roedd yn sioc fawr, fe oedd conglfaen ein teulu", meddai ei fam.

"Er gwaetha'r pellter rhyngom roedd hi'n teimlo fel pe bai e wastad o gwmpas. Roedd e'n agos iawn atom ni.

"Mae'r ddamwain wedi newid ein bywydau yn llwyr," ychwanegodd. "Dyma'r peth gwaetha' allai fod wedi digwydd i ni.

"Ry'n ni'n gweld ei eisiau bob dydd yn union fel y diwrnod cyntaf hwnnw. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar y teulu, does r'un ohonom ni yr un peth.

"Roedd Emiliano yn ifanc iawn a'i fywyd o'i flaen. Roedd e'n awyddus i barhau i ddysgu am bêl-droed a theithio o gwmpas Prydain. Roedd e am ddysgu Saesneg.

"Doedd e ddim wedi penderfynu beth yn union roedd e am ei wneud ar ôl gadael Caerdydd. Ond roedd yn awyddus i ddychwelyd i Ariannin, i weithio fel hyfforddwr pêl-droed ac i helpu plant i chwarae pêl-droed.

"Roedd e wrth ei fodd gyda helpu plant i ddatblygu a hwythau yn ei addoli fe," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson yn y digwyddiad ar 29 Ionawr 2019

Clywodd y cwest ei fod wedi adeiladu tŷ i'w fam a'i fod yn meddwl gwneud yr un peth ei hun.

"Roedd e wastad yn helpu'r teulu oherwydd ein cefndir tlawd, ac am sicrhau ein bod mewn sefyllfa ariannol dda."

'Rhwystro marwolaethau tebyg'

Ychwanegodd: "Ry'n ni eisiau cyfiawnder, ac am wybod ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall beth yn union ddigwyddodd ac i rwystro marwolaethau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Fydd y boen byth yn diflannu.

"Ry ni'n cario llun ohono ac yn ei gofio gyda'r cariad roedd e'n ei haeddu."

Mae brawd Emiliano Sala, Dario, wedi teithio o'r Ariannin ar gyfer y gwrandawiad ac yn gwrando gyda chymorth cyfieithydd.

Mae gweddw peilot yr awyren David Ibboston, Nora yn bresennol hefyd. Ni chafodd corff Mr Ibbotson ei ddarganfod yn dilyn y ddamwain.

Clywodd y cwest gan batholegydd fforensig, Dr Basil Purdue, a gadarnhaodd fod y pêl-droediwr wedi marw'n syth o anafiadau difrifol o ganlyniad i'r awyren yn taro'r môr.

Ond ychwanegodd fod yna olion o nwy carbon monocsid yn ei waed a oedd yn awgrymu y byddai wedi bod yn anymwybodol pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd hi'n dilyn, meddai Dr Purdue, y byddai peilot yr awyren David Ibbotson wedi bod yn anymwybodol am yr un rheswm, ond yn ei farn ef, nid marw o wenwyn carbon monocsid wnaethon nhw.

Mae disgwyl i gwest Emiliano Sala bara am bum wythnos