Logan Mwangi: Rheithgor yn ymweld â fflat ac afon

  • Cyhoeddwyd
Fflat
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r erlyniad yn dweud bod Logan Mwangi cael ei ladd yn y fflat llawr gwaelod

Mae'r rheithgor yn achos llofruddiaeth Logan Mwangi wedi ymweld â'r eiddo lle mae'r erlyniad yn dweud y cafodd y bachgen pump oed ei ladd.

Dangoswyd hefyd yr afon lle darganfuwyd ei gorff ar 31 Gorffennaf y llynedd, a'r ardal goediog lle cafwyd hyd i'w ddillad wedi'u rhwygo.

Mae ei fam Angharad Williamson, 30, ei lys-dad, John Cole, 40 - y ddau o Sarn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a bachgen 14 oed, na ellir ei enwi, yn gwadu ei lofruddio.

Mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud hysbysiad ffug i'r heddlu bod person ar goll.

Mae John Cole wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.

Cartref y teulu

Dangoswyd y fflat yn Sarn, Sir Pen-y-bont ar Ogwr, i'r rheithgor - y man lle dywed yr erlyniad i Logan gael ei guro i farwolaeth.

Dangoswyd hefyd ystafell wely John Cole ac Angharad Williamson, y lolfa a'r gegin i'r rheithgor.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, cwrtais, hardd a chlyfar" mewn teyrngedau wedi ei farwolaeth

Roedd y gegin yn parhau heb ei chyffwrdd chwe mis ar ôl y farwolaeth ac roedd crystiau o frechdanau yn parhau i fod ar wyneb unedau.

Gwelodd y rheithgor y peiriant sychu dillad a'r peiriant golchi, a oedd i'w clywed ar recordiad camera corff yr heddlu pan wnaeth swyddogion ymweld â'r eiddo ar ôl i Angharad Williamson adrodd fod Logan ar goll.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach darganfuwyd gynfas, a oedd ar goll o wely Logan, yn y peiriant sychu dillad pan archwiliwyd y fflat ar 4 Awst.

Afon Ogwr

Yn ddiweddarach aethpwyd â'r rheithgor ar hyd Afon Ogwr ac i doriad mewn clawdd tua chwarter milltir o'r eiddo.

Mae'r ardal wedi'i defnyddio yn y gorffennol gan bobl sy'n gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon ac yma y darganfuwyd corff Logan.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan yn yr Afon Ogwr ar Gorffennaf 31 y llynedd

Roedd wedi dioddef 56 o "anafiadau trychinebus" i'w gorff a'i ben gan gynnwys anafiadau trawmatig i'w ymennydd.

Aed â'r rheithgor hefyd i ardal goediog arall lle cafwyd hyd i dop pyjamas gwaedlyd Logan - roedd wedi'i rwygo.

Pan ddaeth swyddogion yr heddlu o hyd i Logan yn Afon Ogwr roedd roedd top a throwsus ei byjamas yn wahanol i'w gilydd.

Mae'r achos llys, a ddisgwylir i bara wyth wythnos, yn parhau.

Pynciau cysylltiedig