Gwynedd: Bwriad i godi tai cyngor newydd am y tro cyntaf ers 30 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Safle bwriedir adeiladu deg tŷ cyngorFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd wedi clustnodi cyn-safle Ysgol Babanod Coed Mawr i adeiladu 10 o dai

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi bwriad i adeiladu tai ei hun am y tro cyntaf mewn dros 30 mlynedd.

Yn sgil yr argyfwng tai sy'n wynebu sawl ardal o Gymru, mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu.

Penderfynodd Cyngor Gwynedd drosglwyddo stoc tai cyngor y sir i'r cwmni preifat, Adra, yn 2010.

Ond mae pryderon cynyddol wedi ysgogi'r cyngor i adeiladu o'r newydd am y tro cyntaf mewn degawdau.

Cartref yn 'hawl greiddiol'

Yn ôl y cyngor, dros y blynyddoedd nesaf mae targed i adeiladu 100 ar draws y sir, wedi'u targedu i'r nifer sy'n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored, ond nid ychwaith yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

"Mae cael mynediad at gartref fforddiadwy o safon yn hawl greiddiol i bob person," meddai'r Cynghorydd Craig ab Iago, sy'n dal portffolio Tai Cyngor Gwynedd.

"Yn anffodus, yn y sefyllfa bresennol mae gormod o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o allu fforddio i rentu eiddo neu brynu eu tai eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Caewyd Ysgol Babanod Coed Mawr yn 2020

"Er mwyn taclo'r anghyfiawnder yma, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y sir sy'n cynnwys dros 30 o gynlluniau fydd yn darparu 1,500 o gartrefi o safon i bobl y sir dros y pum mlynedd nesaf.

"Byddwn yn defnyddio cyllid sy'n cynnwys y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag i adeiladu tai newydd, prynu eiddo gwag a'u hadfer ynghyd a chynnig grantiau i bobl leol allu cael mynediad at dai."

Blaenoriaeth i bobl leol

Mae'r datblygiad cyntaf wedi'i neilltuo ar gyfer safle Ysgol Babanod Coed Mawr ym Mangor, a gaeodd ei drysau yn 2020.

Y bwriad yno yw adeiladu chwe thŷ tair llofft a phedwar tŷ dwy lofft, gyda blaenoriaeth i'r rhai sydd â chysylltiadau cryf â'r ardal leol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder cynyddol nad yw pobl leol yn gallu prynu tai yn y fro Gymraeg

Yn ôl y cyngor, gyda 130 o geisiadau wedi'u cyflwyno trwy wefan Tai Teg am dai fforddiadwy canolraddol tair a dwy lofft i'w prynu a'u rhentu yn ardal Bangor, byddai'r cynlluniau yn mynd rhan o'r ffordd i ymateb i'r galw lleol.

Bydd tai yn cael eu gwerthu ar sail y cyngor yn cadw 30% o'r ecwiti, mewn ymgais i sicrhau pris sy'n fforddiadwy i'r farchnad leol, tra hefyd fod y tai yn parhau yn nwylo pobl leol i'r dyfodol.

Os yn cael eu rhentu bydd gostyngiad o 20% ar brisiau'r farchnad agored, gyda'r bwriad o helpu pobl i gynilo blaendal ar gyfer prynu yn y dyfodol.

Aeth y Cynghorydd ab Iago ymlaen i ddweud: "Y datblygiad cyffrous yma yng Nghoed Mawr ym Mangor ydy'r cyntaf o gynlluniau Tŷ Gwynedd.

"Mae'r ffigyrau yn dangos yn glir fod yna angen gwirioneddol am y math yma o dai fforddiadwy canolradd yn yr ardal - ac rydan ni'n awyddus i glywed barn pobl leol am y cynlluniau cychwynnol.

"Bydd y sylwadau yn ein helpu wrth gwblhau'r cynlluniau a chyflwyno ceisiadau cynllunio yn nes ymlaen eleni, ac os bydd hawliau'n cael eu sicrhau, rydan ni'n gobeithio y bydd y tai cyntaf yn barod yn ystod 2023."

Pynciau cysylltiedig