Ymateb 'anhygoel' yng Nghymru i helpu pobl Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd llond chwe lori o nwyddau eu casglu mewn diwrnod wedi apêl yn Llanelli

Mae trefnwyr apêl yn Llanelli i gasglu nwyddau ar gyfer ffoaduriaid o'r Wcráin yn dweud eu bod wedi cael ymateb anhygoel.

Roedden nhw wedi bwriadu anfon llond fan o nwyddau pan wnaethon nhw ddechrau casglu am 11:00 fore Sul ond erbyn cau'r drysau am 18:00 roedden nhw'n amcanu eu bod wedi casglu digon i lenwi chwe lori.

Y disgwyl yw y bydd y nwyddau yn dechrau ar eu taith i Wlad Pwyl fore Llun.

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod tua 368,000 o ffoaduriaid wedi gadael Wcráin ers ymosodiad Rwsia ddydd Iau gydag o leiaf 115,000 wedi croesi'r ffin i Wlad Pwyl.

Yn ôl Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig gallai nifer y bobl a fydd yn ffoi i wledydd eraill fod cymaint â phedair miliwn.

'S'dim geirie'

Yn Llanelli dywedodd Nia Partridge, un o'r gwirfoddolwyr sy'n casglu'r nwyddau, "nad oes geiriau" i ddisgrifio'r ymdrechion yn y dref.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae tre' Llanelli a phawb wedi dod mas - s'dim geiriau," medd Nia Partridge, un o'r gwirfoddolwyr

"Dechreuodd e 'da dau riant yn mo'yn gwneud rhywbeth i helpu. Fe wnaethon nhw ofyn i ddechrau a fydden nhw'n cael defnyddio'r neuadd Gatholig ond doedd dim digon o le ac fe symudon ni i Ysgol y Santes Fair.

"Llond fan ro'n i'n ei ddisgwyl ond mae digon o stwff 'da ni i lanw sawl lori. Chware teg mae cwmni Owen wedi cynnig helpu a'r cam cyntaf fydd mynd â'r stwff i Gasnewydd.

"Ni wedi casglu dillad, sebon, past dannedd, nappies, sanitary products a ma' pobl wedi dod â meddyginiaethau a first aid hefyd - bron popeth. Mae'n anhygoel - fi'n dishgwl rownd a fi ffaelu credu fe.

"Mae'r neuadd 'ma bron yn llawn - ac mae'r neuadd ma'n fawr. I roi syniad i chi mae angen ysgol i gyrraedd y to i newid bulb.

"Mae tre' Llanelli a phawb wedi dod mas - s'dim geiriau.

"Mae'r cyfan wedi cyffwrdd â phobl a ni wedi casglu cymaint mewn diwrnod," ychwanegodd Ms Partridge â deigryn yn ei llygad.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y nwyddau yn dechrau ar eu taith fore Llun

Mae elusennau, gan gynnwys Achub y Plant ac Amnest Rhyngwladol wedi annog Llywodraeth y DU i groesawu ffoaduriaid yn sgil y gyflafan.

Ddydd Sul dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y BBC y byddai gweinidogion Cymru yn cyfarfod â'u cymheiriaid yn y DU i "gynllunio gyda'n gilydd ar gyfer y camau y gallwn eu cymryd i helpu'r bobl hynny fydd yn edrych i ailadeiladu" eu bywydau oherwydd y goresgyniad.

"Mae gan Gymru uchelgais i fod yn genedl noddfa," meddai.

'Cefnogaeth pobl Cymru yn rhyfeddol'

Mae ymdrechion hefyd i godi arian ar gyfer adnoddau meddygol i'r wlad.

Yn dilyn ei ymweliad diweddar ag Wcráin, lle mae aelodau o'i deulu yn byw, mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, wedi lansio apêl i godi arian.

Wrth siarad ar raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales, dywedodd fod ei gefnder, sy'n feddyg, angen adnoddau ychwanegol i helpu pobl sydd wedi eu hanafu.

Ffynhonnell y llun, Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch Mick Antoniw i godi arian wedi casglu £24,000 hyd yn hyn

"Dyw rhai [o bobl Wcráin] erioed wedi tanio gwn yn eu bywyd a nawr maen nhw ar y ffrynt lein," dywedodd.

"Mae'r dewrder yn hollol ryfeddol a dwi'n gwybod bod gymaint ohonyn nhw wnawn ni o bosib ddim gweld eto."

Dywedodd bod £24,000 wedi ei godi hyd yma ar gyfer adnoddau i'r wlad - llawer mwy na'i darged gwreiddiol o £5,000.

"Mae'r gefnogaeth gan bobl Cymru wedi bod yn gwbl ryfeddol ac mae pobl yn Wcráin yn gwybod hynny ac yn cydnabod hynny," meddai.

"Maen nhw'n ymwybodol mai nhw yw'r rhai sy'n gwneud y brwydro a'r marw a'r gwir dorcalon.

"Ond maen nhw'n gwybod hefyd bod 'na fyd o'u cwmpas sydd yn gefn iddyn nhw."