Sut mae'r sefyllfa yn Wcráin yn effeithio arnom ni?
- Cyhoeddwyd
Mae Rwsia wedi wynebu gwrthwynebiad ffyrnig wrth i fyddin yr Wcráin ddweud iddyn nhw frwydro yn erbyn sawl ymosodiad ar y brifddinas Kyiv.
Ar drydydd diwrnod yr ymladd yn y wlad, mae'n ymddangos bod Rwsia - sy'n ymosod o'r dwyrain, y gogledd a'r de - yn bwriadu cymryd rheolaeth o Kyiv.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yno wedi apelio ar ddinasyddion - pobl 'gyffredin' - i "adael i ni wybod am symudiadau milwyr, i wneud coctels Molotov [ffrwydradau] ac i niwtraleiddio'r gelyn".
Ond beth ydyn ni - y Gorllewin - yn ei wneud i helpu? A sut mae'r datblygiadau yn yr Wcráin, gwlad annibynnol Ewropeaidd, yn mynd i effeithio ar ein bywydau ni yng Nghymru?
Sancsiynau - pa rai a pha effaith?
Tra bod arweinwyr y byd wedi condemnio'r ymosodiad, gan daro Rwsia gydag ystod o sancsiynau economaidd, mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy wedi cyhuddo'r gorllewin o beidio ymateb yn ddigonol.
Mae'r DU, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd ymysg y rhai sydd wedi cyhoeddi sancsiynau.
Nod y mesurau hynny yw cael effaith andwyol ar economi Rwsia, ac felly gorfodi Vladimir Putin i atal ei ymgyrchoedd milwrol.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd prif fanciau Rwsia yn cael eu gwahardd o system ariannol y DU, ac mae oligarchiaid wedi cael eu targedu gan sancsiynau.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson wrth Dŷ'r Cyffredin mai dyma'r "pecyn mwyaf eang a mwyaf difrifol o sancsiynau economaidd mae Rwsia wedi'i weld erioed".
Bydd cwmni hedfan cenedlaethol Rwsia Aeroflot hefyd yn cael ei wahardd rhag glanio yn y DU.
Mewn ymateb, mae cwmnïau hedfan o Brydain wedi cael eu gwahardd rhag glanio ym meysydd awyr Rwsia a rhag croesi eu gofod awyr.
Ydy'r sancsiynau yn mynd yn ddigon pell?
Nos Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wrth y BBC y bydd angen i bobl yng Nghymru fod yn barod i "wneud rhai aberthau" er mwyn sefyll mewn undod gyda phobl yr Wcráin.
Galwodd am sancsiynau gan y DU a fydd, meddai, yn effeithio ar "bob un ohonom".
Dywedodd Mr Johnson fod potensial i dorri Rwsia allan o system dalu ryngwladol Swift a "does dim byd oddi ar y bwrdd".
Yn ôl Huw Elfed Jones, newyddiadurwr ariannol gyda Reuters, mae Swift fel rhyw grŵp "WhatsApp anferth neu system e-bost anferth rhwng tua 11,000 o fanciau ledled y byd".
"Fedrith y system ariannol ddim gweithio'n effeithiol hebddo fo," meddai wrth Dros Frecwast.
Ychwanegodd y byddai gwahardd banciau Rwseg o Swift yn "effeithio ein banciau ni yn y gorllewin hefyd" a bod hynny'n "cael ei weld fel yr opsiwn niwclear".
"Mae'n mynd i gymryd amser i'r [sancsiynau presennol] 'neud gwahaniaeth. 'Neith o ddim stopio Rwsia yn y tymor byr yn sicr. Maen nhw wedi cynilo biliyna' o roubles [arian Rwseg] i wrthsefyll y sancsiyna' yma."
A fydd effaith ar gostau byw?
Mae pris tanwydd wedi codi, ac yn debygol o godi eto.
Mae'r DU yn mewnforio 6% o'i olew crai (crude) a 5% o'i nwy o Rwsia, ond mae yna bryderon y gallai'r sancsiynau gyfyngu ar gyflenwadau a chodi prisiau ledled y byd.
Dywedodd grwpiau moduro'r RAC ac AA fod prisiau tanwydd cyfartalog wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed o 149.67c y litr ar gyfer petrol, gyda disel yn 153.05c.
Mae'r AA yn rhagweld y bydd petrol yn taro 150c y litr dros y penwythnos.
Wcráin ydy un o gyflenwyr grawn mwyaf y byd, felly mae cau porthladdoedd Wcrain ar y Môr Du yn debygol o wthio prisiau bwyd i fyny.
Dywedodd y Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) fod aflonyddwch yn y gorffennol yn yr Wcráin wedi effeithio ar gynhyrchwyr bwyd y DU sy'n defnyddio olewau llysiau ac india-corn wedi'u mewnforio.
Yn ôl Madeleine Moon - cyn AS Llafur Pen-y-bont ar Ogwr a chyn-aelod o Bwyllgor Amddiffyn San Steffan - mae'r sefyllfa yn Wcráin "yn mynd i effeithio" ar bobl yng Nghymru.
Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd: "Mae'n hawdd i bobl fan hyn yng Nghymru i feddwl 'does ganddo ddim i wneud â ni'. Mae'n mynd i effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd yn fuan iawn.
"Edrychwch ar eich amddiffyniad seibr, edrychwch ar ddiogelwch eich holl systemau. Gwiriwch eich pasbortau, gwnewch nhw'n gryfach."
Ychwanegodd bod angen i wledydd y gorllewin ddeffro i fygythiad Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
"Mae'r gorllewin wedi bod yn araf wrth sylweddoli nad yw Putin yn rhywun allwch chi wneud diplomyddiaeth gydag e. Dyw e ddim yn rhywun sydd eisiau ymuno â systemau gorllewinol.
"Mae e'n rhywun sy'n gweld ei hunan uwchlaw systemau ac ymddygiad rhyngwladol."
A fydd y Gorllewin yn ymuno'n filwrol?
Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, fod y "byd gorllewinol, y sefydliadau rhyngwladol - o safbwynt milwrol - yn eistedd ar ein dwylo".
"Mae pwyse i gymryd rhan yn filwrol mewn rhyw fath neu gilydd - trwy gael rhywbeth fel no-fly zone fel a gafwyd yn Syria ac Irac, er enghraifft," meddai ar Dros Frecwast.
"Ond mae'n anodd iawn i lywodraethau'r gorllewin ildio i'r pwyse yna.
"Fel ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, pan fydd America a Rwsia yn saethu at ei gilydd fe fyddai hynny'n rhyfel byd.
"Mae'n anodd iawn beth ychwanegol mae modd gwneud ac eithrio rhagor o sancsiynau. Ond mae sancsiynau yn mynd i gymryd amser hir iawn i gael effaith."
Fe wrthododd Ysgrifennydd y DU ar Amddiffyn, Ben Wallace bledion gan wleidyddion yr Wcráin a rhai Ceidwadol i'r DU weithredu parth dim-hedfan - neu "no-fly zone" - dros yr Wcráin.
Roedd yn dadlau y byddai cyflwyno un yn gyfystyr â datgan rhyfel yn erbyn Rwsia.
"Ein hasesiad y bore yma yw nad yw Rwsia wedi cymryd unrhyw un o'i phrif amcanion, mewn gwirionedd mae y tu ôl i'w hamserlen," meddai Mr Wallace wrth Sky News. "Maen nhw wedi colli dros 450 o bersonél."
Dywedodd Gweinidog Amddiffyn y DU, James Heappey fod 1,000 o filwyr Prydeinig yn barod i gefnogi Hwngari, Slofacia, Rwmania a Gwlad Pwyl gyda'r heriau dyngarol sy'n debygol o'u hwynebu wrth i bobl ffoi o'r Wcráin.
A fyddwn ni'n derbyn ffoaduriaid?
Ddydd Gwener, awgrymodd Mark Drakeford fod Cymru yn barod i dderbyn ffoaduriaid.
"Rwyf wedi cael nifer o gyfleoedd i siarad â gweinidogion y DU am y ffaith y bydd y golygfeydd erchyll yn yr Wcráin heb os yn gyrru ton o ffoaduriaid ar draws Ewrop wrth i bobl ffoi a gorfod ail-wneud eu bywydau o dan yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy," meddai.
"Mae gennym ni uchelgais yng Nghymru i fod yn genedl noddfa. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi croesawu teuluoedd o Syria, teuluoedd o Afghanistan i ddod i ail-wneud eu bywydau yma a byddwn am wneud yr un peth yn wyneb y digwyddiadau ofnadwy a welwn yn yr Wcráin."
Mae aelod o gabinet Cyngor Conwy, Cheryl Carlisle wedi dweud bod 22 cyngor sir Cymru'n "paratoi eu hunain rhag ofn y bydd yn rhaid derbyn teuluoedd a phlant sydd wedi ffoi" o'r Wcráin.
"Mae gyda ni argyfwng tai yma, ond rhaid helpu ble mae'n bosib," meddai, gan ddweud y byddai hynny ond yn digwydd mewn ymateb i gais gan Lywodraeth y DU "i bob cyngor dderbyn ffoaduriaid".
Datgelodd y Cyng Carlisle ei bod wedi treulio'r bore mewn cyfarfod ag arweinwyr gofal cymdeithasol Cymru.
"Un o'r pynciau trafod oedd sut ydyn ni'n mynd i helpu plant sy'n ffoaduriaid o'r Wcráin os yw'n dod i hynny," meddai.
"Pan oedd pobl yn gadael Afghanistan, fe wnaeth pob cyngor a theulu eu gorau i gymryd plant a theuluoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022