Angen llacio rheolau fisa i ffoaduriaid Wcráin, medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw ar y Deyrnas Unedig i lacio eu rheolau fisa ar gyfer pobl o Wcráin sydd am ffoi yma.
Mae'r rheolau yn "parhau yn rhy gaeth" meddai Stephen Kinnock, AS Aberafan a llefarydd y Blaid Lafur ar fewnfudo.
Daw wrth i grŵp o 37 o ASau Ceidwadol - gan gynnwys AS Preseli Penfro, Stephen Crabb - ysgrifennu at Boris Johnson yn annog Llywodraeth y DU i gytuno i fwy o gymorth i ffoaduriaid o Wcráin.
Mae'r grŵp, sy'n cynnwys sawl cyn-aelod cabinet, yn annog y Prif Weinidog i "fynd ymhellach", a gweithio gyda gwledydd Ewropeaidd eraill.
'Cefnogaeth weledol yn bwysig'
Yn y cyfamser, dywed Cymdeithas y Cymod bod cefnogaeth weledol gan Gymru i Wcráin yn hynod bwysig.
Maen nhw'n annog pobl i fynd allan ar Ddydd Gŵyl Dewi i arddangos baner heddwch.
Mae nifer o wleidyddion o Gymru hefyd wedi bod yn annog pobl i ddangos cefnogaeth ac yn ystod yr wythnos fe fydd gwylnos ar risiau'r Senedd.
Dros y penwythnos cafodd nifer o ralïau eu cynnal ar draws Cymru i ddangos cefnogaeth i Wcráin ac i wrthwynebu ymdrechion milwrol Rwsia yno.
Mae'r DU wedi cyflwyno consesiynau dros dro i bobl o Wcráin sydd ag aelodau o'u teulu yn byw yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Mr Kinnock ei bod yn "gywilydd" a bod y rheolau yn "parhau yn rhy gaeth".
Dywed Llywodraeth y DU ei bod yn edrych "ar frys i weld be ellir ei wneud i helpu'r rhai sy'n ffoi o Wcráin."
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae tua 368,000 o ffoaduriaid wedi gadael y wlad ers dydd Iau.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud y byddai croeso i ffoaduriaid yng Nghymru.
Dywedodd dros y penwythnos fod Cymru am fod yn wlad sy'n cynnig hafan, gan ei bod eisoes wedi cynnig cartref i deuluoedd o Syria ac Afghanistan.
'Wedi cysgu dim trwy'r nos'
Mae Dylan Ellis Jones o Gorwen a'i wraig Wcreinaidd yn hedfan i Romania ddydd Llun wedi i'w chwaer-yng-nghyfraith groesi'r ffin ag Wcráin yn yr oriau mân.
Mae'r gwrthdaro wedi gorfodi i'w chwaer yng nghyfraith, sy'n gyfieithydd, a'i gŵr "wahanu fel teulu" oherwydd y gwrthdaro.
Mae hi a'u plentyn bellach mewn gwesty yn ninas Iași tra bod ei gŵr yn gorfod aros i helpu amddiffyn Wcráin rhag ymgyrch filwrol Rwsia.
Ar raglen Dros Frecwast fe ddisgrifiodd Mr Jones sut y gwnaethon nhw ddechrau "ffonio o gwmpas [er] doeddan ni ddim yn siŵr beth oedd y sefyllfa yn Romania" wedi galwad ffôn emosiynol gan ei chwaer yng nghyfraith yn dweud ei bod hi am ffoi.
"Yn lwcus roedd 'na Gymro o'r Bala 'efo cysylltiadau yn Hwngari, yn Budapest, a thrwy hynny naethon ni gael gafael ar bobl yn agos i'r ffin yn Romania i drefnu gwesty iddi," meddai.
Ni fu'n bosib siarad gyda hi wedi hynny, dim ond "dipyn o negeseuon... yn ôl ac ymlaen". Dywedodd ei fod o a'i wraig "wedi cysgu dim trwy'r nos".
"Dwi'n gwybod yn sicr roedd 'na sŵn air raids yn mynd ffwrdd ar ochr y ffin a hithau'n trio croesi trwy'r nos hefo plentyn pedair oed 'efo gymaint o fagiau oedd hi medru cario efo hi."
Fe wnaethpwyd y trefniadau gyda'r bwriad o helpu ei chwaer yng nghyfraith a'i phlentyn deithio i'r Almaen gan fod chwaer arall, sy'n byw yn China, yn berchen ar fflat wag yn Hanover.
Ond y gobaith yw y bydd 'na lacio pellach ar reolau'r Llywodraeth y DU, fyddai'n gwneud hi'n bosib i'r chwaer yng nghyfraith a'i phlentyn ddod i Gymru.
"Dwi'n mynd i fwcio dau hediad arall iddyn nhw, ond am 'neud ychydig o ymholiadau arall cyn hynny," meddai Mr Jones.
"Mae [ei wraig] yn siarad Almaeneg. Fydd hi'n aros efo'i chwaer yn Yr Almaen. Mi fyddai'n dod nôl i Gymru - does dim rheswm i mi aros.
"Mae 'na bach o network yn Yr Almaen sy'n gallu helpu tan fydd pethau'n newid yma."
'Angen ailystyried mesur'
Mae dros 1,000 o arweinyddion ffydd wedi anfon llythyr at Brif Weinidog y DU yn gofyn iddo ailystyried y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau.
Yn eu plith mae Archesgob yr Eglwys yng Nghymru, cynrychiolwyr ar ran yr enwadau anghydffurfiol a Chadeirydd Bwrdd Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru).
"Yng nghyd-destun gwrthdaro byd-eang cynyddol, gan gynnwys yr wythnos hon yn yr Wcráin, mae'r ffordd y mae'r bil yn tanseilio gallu'r DU i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro yn amlycach fyth," medd y llythyr a gyhoeddir ddydd Llun.
Mae'r mesur yn cychwyn ar ei gamau olaf yn Nhŷ'r Arglwyddi a dyma'r "cyfle olaf hollbwysig i wneud newidiadau", medd yr arweinwyr.
"Cyhyd ag y bydd gwrthdaro ac anghyfiawnder yn y byd, bydd bob amser pobl ar eu cythlwng yn ceisio lloches rhag rhyfel, erledigaeth a dioddefaint. Allwn ni ddim cau ein drws arnynt, ond dyna'n union y mae'r Bil hwn yn ei wneud," meddent.
Maen nhw'n galw ar Boris Johnson i wneud newidiadau sylweddol i'r mesur - yn eu plith "rhoi'r gorau i gynlluniau'r llywodraeth i gyfyngu ar hawliau'r rhai sy'n cyrraedd y DU i geisio noddfa fel ffoaduriaid y tu allan i gynlluniau a drefnwyd ymlaen llaw, gan gynnwys y rhai sy'n dod trwy lwybrau anghonfensiynol, megis mewn cychod neu loriau, a'u trin fel troseddwyr".
Dywed y llofnodwyr fod y polisi hwn wedi'i lunio "heb sail o ran tystiolaeth na moesoldeb" ac maen nhw wedi gofyn am gael cyfarfod gyda'r Prif Weinidog i drafod eu pryderon.
Yn y cyfamser dywed Jane Harries o Gymdeithas y Cymod bod gweithgareddau fel ralïau yn hynod bwysig i ddangos cefnogaeth.
"Ry'n yn galw ar bobl i fynd mas ar y strydoedd yn enwedig ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda baner heddwch," meddai.
"Mae'n bwysig cefnogi pobl sydd yn ei chanol hi ac ry'n hefyd yn ymwybodol o'r gwrthdystiadau yn Rwsia yn erbyn y rhyfel.
"Mae'n bwysig bo' ni dal yn sôn mai heddwch yw'r ateb. Ni mewn sefyllfa lle mae arfau niwclear yn fygythiad.
"Rhaid sicrhau bod tensiynau ddim yn cynyddu fel bod yna ddim rhyfel byd."
'Pob un ffoadur â'i stori'
Ein gohebydd Siôn Pennar yn Lublin, Gwlad Pwyl
Mae ffoaduriaid o Wcráin yn dal i dyrru i wledydd cyfagos - a'r rhan fwyaf yn dod yma i Wlad Pwyl.
Yn ôl yr awdurdodau Pwylaidd mae bron i 200,000 wedi cyrraedd y wlad hon ers dechrau'r ymosodiad milwrol dydd Iau.
Mae gan bob un o'r ffoaduriaid eu stori, wrth gwrs.
Yn Warsaw, dywedodd sawl un wrtha' i eu bod wedi gorfod cysgodi rhag y bwledi a'r bomiau ar eu taith tua'r gorllewin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022