Dedfrydu pedwar wedi cwymp eglwys laddodd sgaffaldiwr

  • Cyhoeddwyd
Jeffrey Joseph PleveyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r sgaffaldiwr Jeff Plevey pan ildiodd wal gefn eglwys wrth iddo weithio arni

Mae pedwar dyn wedi cael dedfrydau gohiriedig am droseddau iechyd a diogelwch ar ôl i sgaffaldiwr farw pan gwympodd wal eglwys yng Nghaerdydd.

Cafodd Jeff Plevey, 56 oed o'r brifddinas, ei wasgu i farwolaeth yn ystod gwaith dymchwel Eglwys Citadel yn Sblot yng Ngorffennaf 2017.

Dywedodd barnwr yr Uchel Lys yn Llys y Goron Caerdydd fod pob un o'r diffynyddion yn "gyfrifol i ryw raddau am farwolaeth drist a diangen" Mr Plevey.

Cafodd pedwar cwmni hefyd ddirwyon o dros £340,000.

Bu farw Mr Plevey pan ildiodd wal gefn yr eglwys wrth iddo weithio arni.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Mr Plevey ei wasgu i farwolaeth yn ystod gwaith dymchwel Eglwys Citadel yn Sblot

Cafodd Keith Young, 74 o Landochau ym Mro Morgannwg, ddedfryd o 45 wythnos o garchar wedi'i gohirio am 18 mis, tra bod Stewart Swain, 54 o Gaerdydd, wedi cael dedfryd o 39 wythnos wedi'i gohirio am 15 mis.

Young oedd yr adeiladwr oedd yn rheoli'r gwaith o ddymchwel yr adeilad, tra mai Swain ydy cyfarwyddwr cwmni Swain Scaffolding.

Mewn achos llys ym mis Rhagfyr fe gafwyd y ddau yn ddieuog o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd, ond yn euog o droseddau iechyd a diogelwch.

Cafodd trydydd dyn, Philip Thomas, 57 o Gaerdydd - ymgynghorydd iechyd a diogelwch Young o South Wales Safety Consultancy - ddedfryd o 35 wythnos wedi'i gohirio am 15 mis.

Fe gafodd y dyn olaf, Richard Dean, 60 o Abertyleri - cyfarwyddwr NJP Consultant Engineers - ddedfryd o 35 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am 15 mis.

Dirwyon i gwmnïau

Fe gafodd tri o'u cwmnïau hefyd eu dirwyo am fethiannau iechyd a diogelwch - dirwy o £120,000 i Swain Scaffolding, £97,500 i South Wales Safety Consultancy a £93,300 i NJP Consultant Engineers.

Cafodd cwmni arall - Strongs Partnership - hefyd ddirwy o £33,500 am fethiannau iechyd a diogelwch.

Dywedodd y barnwr, Ustus Jefford, pe bai unrhyw un o'r dynion neu eu cwmnïau wedi sylweddoli fod pethau'n mynd o chwith, y "byddai wedi bod modd osgoi marwolaeth Mr Plevey".

Pynciau cysylltiedig