Wcráin: 'Ni a nhw'n sefyll gyda'n gilydd mewn gobaith'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Lydia Power bod "neb yn credu be' sy'n digwydd nawr" yn Wcráin

"Dal sownd - ni'n sefyll gyda chi. Ie, ni'n crio gyda chi ond ni'n gweddïo gyda chi hefyd."

Dyna flas o'r neges ddiwethaf y danfonodd menyw o Sir Gâr fore Iau at ffrind o Wcráin sy'n gaeth ers dyddiau yn ei fflat yn y brifddinas Kyiv, cyn disgrifio sefyllfa'r teulu mewn cyfweliad dirdynnol â Newyddion S4C.

Mae Lydia Power yn nabod y teulu ers iddi aros gyda nhw wrth ymweld â'r wlad gyda'i heglwys dros 20 mlynedd yn ôl, ac mae wedi bod mewn cysylltiad yn ddyddiol gyda'r fam, sydd yn ei 70au.

Wythnos wedi dechrau ymgyrch filwrol Rwsia yn erbyn Wcráin, mae'n dweud bod "ni a nhw yn sefyll gyda'n gilydd mewn gobaith" y daw'r brwydro i ben mor fuan â phosib.

Ond gydag un o feibion ei chyfaill wedi gorfod ymuno â'r fyddin gan ffarwelio â'i wraig a'i blentyn, a'r sefyllfa yn y wlad yn gwaethygu'n ddyddiol, dywed Lydia: "'Sa i'n gw'bod shwt maen nhw'n ymdopi os mae hyn yn cario ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r gwasanaethau brys yng nghanol difrod ymosodiad ar dŵr darlledu yn Kiyv ddydd Mawrth a laddodd pump o bobl

"Ni'n negeseuo bob dydd, sawl gwaith y dydd," medd Lydia am ei ffrind, sydd methu gadael ei chartref yng nghanol Kyiv.

"Fi 'di bod yn gweud 'tha hi 'cer lawr i'r basement'. Wedyn 'ny [atebodd] 's'dim basement gyda fi'.

'Cer drws nesa le mae 'na basement'. Wedodd hi 'yn yr ardal yma does dim basementsi gael. S'dim dewis 'da fi. Fi yn y fflat. Fi'n sownd. Dyw hi ddim yn saff i fynd mas ar y strydoedd'.

"Mae hi 'di gweud bod hi ddim 'di teimlo mae wedi bod yn saff ers dyddie nawr so ma' hi ffili symud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau bod dinas Mariupol yn y de dan warchae a channoedd o bobl wedi eu lladd

Eglurodd Lydia bod un o feibion ei ffrind yn byw mewn tŷ gyferbyn â hi gyda'i wraig a'u merch sydd yn ei harddegau.

Mae hwythau hefyd yn gaeth i'w cartref, er bod y mab wedi mentro allan i brynu bwyd ar gyfer y ddwy aelwyd.

Mae hefyd wedi bod yn cyfnewid negeseuon gyda mab arall, sy'n "galw fi'n chwaer" ers yr ymweliadau eglwysig yn nechrau'r 2000au.

Mae e yn ei 30au ac yn briod â mab ifanc, ac fe wnaethon nhw'r penderfyniad anodd i ffoi i un o ddinasoedd gorllewin Wcráin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Merched a phlant yw canran helaeth yr oddeutu miliwn o bobl sydd wedi ffoi o Wcráin ers dechrau ymosodiad Rwsia

"O'dd tŷ nhw ar bwys maes milwrol... o'n nhw'n clywed pethe'n mynd ymlaen trwy'r nos bob nos," medd Lydia.

Fe deithiodd y teulu ar drên "yn meddwl 'grêt, maen nhw nawr mas o Kyiv. Ond bore ma' maen nhw 'di ffeindio mas ar ôl cyrraedd... bod y dinas 'na nawr yn wag hefyd, a dim ond y fyddin sydd yna.

"So mae gwraig e yn mynd i groesi'r ffin bore 'fory gyda'r mab ifanc a ma' fe'n gorfod cofrestru gyda'r fyddin.

"Alla i ddim dychmygu shwt mae [e'n] teimlo, yn gorfod gadael ei wraig a'i fab a gorfod dweud hwyl fawr iddyn nhw. Ddim yn gwybod pryd fydd e'n gweld nhw eto - efalle trwy'i feddwl os fydd e'n gweld nhw eto."

Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf yr holl erchyllterau sy'n cael ei darlledu am y brwydro, mae yna "wastod gobaith" medd Lydia Power

Er gwaethaf yr holl adroddiadau sy'n awgrymu bod Rwsia'n dechrau meddiannu mwy o ardaloedd wrth i'w hymgyrch ddwysáu, dywed Lydia bod ei ffrind yn "llawn ffydd".

"Ma' hi dal yn ca'l gobaith," meddai, "...a fi'n teimlo'r un peth.

"Fi 'di gweud 'tha hi bod ni'n sefyll gyda nhw a ma' pawb ar draws y byd yn sefyll gyda'r Wcráin ar hyn o bryd.

"Mae calon fi'n torri yn clywed y storïau yn dod... mae'n gallu teimlo mor overwhelming ond ma' rhaid i ni ddal sownd i gobaith, achos mae wastod gobaith.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluoedd Rwsia wedi cipio dinas Kherson yn ne Wcráin erbyn bore Iau

"Dyna be' sy'n cadw ni fynd, bendant, a dyna be' sy'n cadw nhw fynd, achos 'na i gyd sy' gyda nhw nawr.

"Ond ma' hwnnw'n rwbeth cryf i nhw ddal sownd i. Fi 'di gweld llunie o'r teuluoedd yn y basement yn dal yn addoli. Maen nhw'n dal yn credu. Maen nhw'n dal yn dewr a cryf."

Dywed Lydia bod ei ffrind "just yn gobeithio mae popeth yn dod i ben mor gloi â maen gallu. 'Na beth yw ei gobaith hi".

Pynciau cysylltiedig