Banciau bwyd yn 'raff achub' wrth i gostau byw gynyddu

  • Cyhoeddwyd
FareShare CymruFfynhonnell y llun, FareShare Cymru

"Mae pobl yn mwynhau cael y bwyd ac mae'n raff achub mewn ffordd i gael y bwyd iachus a maethlon yma."

Wrth i gostau byw gynyddu mae mwy o bobl yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd ac felly mae'r galw am fanciau bwyd wedi cynyddu.

Fel rhan o gyfres am gostau byw, bu gohebydd arbennig BBC Cymru, Garry Owen, yng nghanolfan elusen FareShare ym Mae Caerdydd yn sgwrsio gyda'r swyddog elusen, Dan Richards, a Meurig Roberts, sy'n wirfoddolwr ac yn yrrwr faniau yno.

Elusen yw FareShare sy'n ailddosbarthu bwyd o siopau ac archfarchnadoedd. Mae 88 o wirfoddolwyr yng Nghaerdydd yn helpu sicrhau fod bwyd fyddai'n mynd i wastraff yn gallu cael ei droi'n brydau i bobl fregus.

Mae pryderon fod y rhyfel yn Wcráin a'r ffaith fod pris tanwydd yn dal i godi yn mynd i gael effaith pellach ar bris bwyd.

Yng Nghymru mae 400,000 o dunelli o fwyd yn mynd yn wastraff bob blwyddyn tra fod chwarter poblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi.

Disgrifiad o’r llun,

Dan Richards

Mwy o alw

Meddai Dan Richards: "Mwy na thebyg yn y dyfodol bydd mwy o bobl yn cael problemau ariannol oherwydd mae costau'n mynd i fyny.

"Ni'n prosesu tua 27 tunnell o fwyd yr wythnos (yn FareShare) - digon i baratoi bron i 3 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn. Mae 180 o elusennau ar hyd de Cymru a 30 yn y gogledd a ni'n ehangu bellach i'r gorllewin."

Disgrifiad o’r llun,

Meurig Roberts

Angen mwy o help

Mae Meurig Roberts yn gwirfoddoli gyda FareShare ac yn gyrru un o'r faniau sy'n dosbarthu nwyddau. Mae wedi gweld y galw yn cynyddu yno: "Mae angen mwy o bobl i weithio yn y stores ac hefyd i yrru'r faniau.

"Mae 'na ddigon o angen acw yn y gymunedau felly mae'n bwysig fod pobl yn dod atom i wirfoddoli.

"Mae nifer o wahanol nwyddau (yn cael eu dosbarthu) - cig, grawnfwyd, llysiau a phethau felly. Mae'n wahanol bob tro ni'n mynd allan. Mae'n ddiddorol i weld pan ti'n agor drysau y fan beth sy' yno.

Pa fwydydd sy'n dda i roi i fanc bwyd?

Grawnfwyd, bwydydd tun (er enghraifft, cawl/ffa/cig/tomato/llysiau), pasta, reis, saws pasta, ffacbys (lentils), ffa, te, coffi, ffrwythau tun, bisgedi, llaeth UHT a sudd ffrwythau.

"Fel ni'n mynd o gwmpas, ni'n gweld ac yn cael gwybodaeth yn ôl fod pobl yn mwynhau cael y bwyd a fod e'n raff achub mewn ffordd i gael y bwyd iachus a maethlon yma."

'Pryd o fwyd llawn'

Mae banciau bwyd yn awyddus i dderbyn nwyddau sy'n gallu creu pryd o fwyd iachus i deulu neu unigolyn ac mae 'na ofyn mawr am y pecynnau gyda chiwiau'n ffurfio yn aml.

Meddai Dan: "Mae angen elfennau fel tuniau, pasta. Mae sôn fod prisiau pasta wedi mynd fyny yn y blwyddyn diwethaf. Felly ni'n ceisio anfon pethau allan i'r elusennau fel bod pobl yn gallu paratoi pryd o fwyd llawn."

Pa fath o gyfraniadau mae'r elusen yn derbyn gan archfarchnadoedd?

Meddai Dan: "Yn aml maen nhw wedi ordro gormod o fwyd. Hefyd mae cynhyrchwyr bwyd yn anfon bwyd ato ni - weithiau maen nhw 'di neud camsyniad o ran rhywbeth ar y pecyn neu maint. Er enghraifft, roedd cwmni paratoi bara ac roedd seiz y bara yn anghywir so 'nathon nhw anfon e ato ni i gael ei ddefnyddio yn lle ei wastraffu."

Mae'r apêl am wirfoddolwyr yn codi wrth i'r elusen baratoi i ehangu yn Llanelli, Caerfyrddin a Sir Benfro.

Gwrandewch ar y sgwrs gyda Dan a Meurig ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.

Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?

Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk

Pynciau cysylltiedig