Wyth arall yn y llys yn dilyn terfysg Mayhill
- Cyhoeddwyd
Mae wyth o bobl eraill wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe mewn cysylltiad â'r anhrefn yn ardal Mayhill y ddinas y llynedd.
Maen nhw i gyd wedi'u cyhuddo o derfysg tra bod un wedi'i gyhuddo o derfysg yn ogystal â llosgi bwriadol a bod yn ddi-hid ynghylch a fyddai bywyd rhywun arall yn cael ei beryglu.
Cafodd yr wyth eu rhyddhau ar fechnïaeth cyn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ar 8 Ebrill.
Mae'n dilyn anhrefn yn ardal Mayhill, Abertawe ym mis Mai 2021.
Mae Cristopher Munslow, 22, Connor Beddows, 22, a Keiron Argent, 18 - i gyd o Townhill - yn ogystal â Joshua Cullen, 31, a Keiran Smith, 19 - y ddau o Mayhill - Lewis James, 20, o Maritime Quarter a Niamh Cullen, 18, o Gendros, wedi'u cyhuddo o derfysg.
Cafodd Mitchell Bryce Meredith, 19, o Bort Tennant, ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae ef wedi'i gyhuddo o derfysg ac o losgi bwriadol a bod yn ddi-hid ynghylch a fyddai bywyd rhywun arall yn cael ei beryglu.
Mae cyfanswm o 27 o bobl rhwng 15 a 44 oed yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022