Cyngor i beidio bwydo â llaw yn sgil achos o ffliw adar
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor i bobl osgoi cyffwrdd neu fwydo adar mewn parc yng Nghaerdydd yn sgil pryder bod nifer o adar yno wedi marw o ffliw adar.
Daeth i'r amlwg bod gŵydd farw wedi profi'n bositif am ffliw adar, tra bod awgrym fod chwe aderyn pellach wedi marw o'r un straen yn Llyn Parc y Rhath.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod ffliw adar yn gyffredin yn y gaeaf.
Mae'r un straen o'r ffliw - H5N1, sydd yn heintus iawn - hefyd wedi cael ei ddarganfod ym Mhowys.
"Mae'r risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, ond fel mesur rhagofalus, mae'r Cyngor yn gofyn i bob aelod o'r cyhoedd i beidio â bwydo'r adar â llaw yn unrhyw un o'i barciau neu barciau gwledig," meddai'r cyngor.
"Fis diwethaf, profodd alarch a ganfuwyd yn farw yn Llyn Cnap yn y Barri yn bositif am ffliw adar, ac mae dros ddwsin o adar meirw eraill wedi eu canfod yn y cyfamser."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021