Cadarnhau rhagor o achosion ffliw adar ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae dau achos arall o straen pryderus o ffliw adar wedi cael eu cadarnhau ym Mhowys.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop, fod straen H5N1 y ffliw - sy'n hynod heintus - wedi'u canfod ar safleoedd masnachol ger Y Drenewydd a'r Trallwng.
Mae gan y ddau eiddo ffesantod ar y safle.
Mae Parth Gwarchod 3 cilomedr, Parth Goruchwylio 10 cilomedr, a Pharth Cyfyngedig 10 cilomedr wedi'u datgan o amgylch y ddau safle sydd wedi'u heintio er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r clefyd.
Yn yr ardaloedd hyn, mae symud adar a'u cynnull wedi'i gyfyngu a rhaid datgan unrhyw ddofednod sy'n cael eu cadw, ac mae'r mesurau'n llymach yn y Parth Gwarchod.
Risg i'r cyhoedd yn 'isel iawn'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "hydref a gaeaf 2021/2022 wedi gweld niferoedd digynsail o achosion o ffliw adar yn Ewrop", gan gynnwys pump o achosion mewn dofednod ac adar caeth eraill yng Nghymru.
Roedd achosion eisoes wedi'u canfod ar Ynys Môn, Wrecsam a Chrughywel ym Mhowys.
Ond mae'n pwysleisio fod y risg i iechyd y cyhoedd "yn gyffredinol yn isel iawn".
"Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr, ac nid yw'n effeithio ar y defnydd o gynhyrchion dofednod, gan gynnwys wyau," meddai llefarydd.
Dywedodd yr Athro Glossop fod yr achosion newydd yn "destun pryder" ac yn "dystiolaeth nad yw'r risg i'n hadar ni wedi lleihau".
"Rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddyn nhw'r lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle.
"Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar. Rwy'n annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu."
Mae'r llywodraeth hefyd yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw adar marw maent yn dod ar eu traws.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021